3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 10 Mai 2017.
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth? TAQ(5)0130(EDU)[W]
Diolch, Llyr. Mae prifysgolion yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol. Fel y cyfryw, cyfrifoldeb Prifysgol Aberystwyth yn unig yw materion staffio. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw lais yn y mater hwn. Ond wrth gwrs, rwy’n deall bod y brifysgol mewn trafodaethau gydag aelodau o’r staff a’r undebau llafur ynglŷn ag argymhellion i adolygu ei strwythurau staffio.
Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae’r brifysgol, wrth gwrs, wedi cyfeirio at y gystadleuaeth am fyfyrwyr—gostyngiad o 8 y cant yng ngheisiadau i astudio yng Nghymru, a Brexit, ymhlith ffactorau eraill, sydd yn dylanwadu ar y sefyllfa maen nhw’n ffeindio eu hunain ynddi hi. Ond y pwynt pwysig i fi fan hyn, wrth gwrs, yw nad un achos sydd gyda ni, ond rydym ni wedi clywed yn yr wythnosau diwethaf am Brifysgol De Cymru yn sôn am leihau staffio o ryw 4.6 y cant, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sôn am doriadau o hyd at 10 y cant, a hwythau hefyd yn cyfeirio at nifer o’r un ffactorau. Mae cynrychiolwyr undeb Unsain wedi dweud bod yn rhaid i’r Llywodraeth ystyried pecyn o opsiynau i ymyrryd yn y sefyllfa yma er mwyn amddiffyn swyddi’r gweithwyr rheng flaen. A gaf i ofyn a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, felly, yn cyfaddef nawr bod gennym ni argyfwng yn y sector addysg uwch o safbwynt ariannu a staffio, ac, er bod diwygiadau Diamond, wrth gwrs, yn mynd rhagddynt, fod angen i’r Llywodraeth ymyrryd ar fyrder cyn i’r sefyllfa yma waethygu ymhellach?
Diolch i chi, Llyr. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae pob prifysgol, gan gynnwys Aberystwyth a’r sefydliadau eraill rydych wedi’u crybwyll, yn gyrff ymreolaethol ac felly, fel y dywedais eisoes, nid oes gennym lais yn y maes hwn. Rwy’n ymwybodol bod y sector addysg uwch yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau, yn enwedig methiant rhai sefydliadau i gyrraedd eu targedau recriwtio myfyrwyr. Ac wrth gwrs, fe sonioch am Brexit, sy’n creu her sylweddol i’r sector addysg uwch. Fel Llywodraeth, rydym yn symud yn gyflym iawn i geisio sicrhau myfyrwyr rhyngwladol, o’r Undeb Ewropeaidd a’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, fod croeso iddynt astudio yma yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud penderfyniadau cyflym ynglŷn ag argaeledd pecynnau ariannol er mwyn i fyfyrwyr Ewropeaidd allu astudio yma yng Nghymru.
Rwyf wedi sefydlu gweithgor sy’n edrych yn benodol ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi’r sector addysg uwch wrth i ni symud drwy’r trafodaethau Brexit, ac mae’r sector addysg uwch yn cael ei gynrychioli hefyd yng ngrŵp y Prif Weinidog. Rwy’n parhau i gyflwyno sylwadau i’r Llywodraeth flaenorol yn San Steffan ynglŷn ag amrywiaeth o gamau y gallai eu cymryd i’n cynorthwyo yn y maes hwn. Mae’n warthus na ymgynghorwyd â gweinyddiaethau Cymru na’r Alban mewn perthynas â chynllun treialu fisa i weithio ar ôl astudio. Byddem wedi elwa o hynny yng Nghymru, fel y byddai ein cymheiriaid yn yr Alban. Byddwn yn awyddus iawn i Lywodraeth y DU edrych ar y mater hwnnw eto. Mae hefyd yn amlwg iawn i mi fod angen i ni eithrio myfyrwyr tramor fel rhan o obsesiwn parhaus y Llywodraeth gyda ffigurau mewnfudo. Mae gennym sector addysg uwch yma yng Nghymru sy’n ddigon cryf ac yn ddigon da i’w werthu i’r byd. Mae’n batrwm o ragoriaeth ac mae angen i Lywodraeth y DU ddatblygu trefn fewnfudo nad yw’n ei gwneud yn anos i fyfyrwyr rhyngwladol fanteisio ar y cyfleoedd sydd gennym yn ein prifysgolion a’n colegau yma yng Nghymru. Deallaf fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel y corff noddi a chyllido addysg uwch, yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, a’n holl brifysgolion yn wir.
Diolch, Llywydd, a diolch i Llyr am roi sylw i hyn o dan y cwestiynau amserol. Cafodd rhan o’r broblem ynglŷn â hyn ei thrafod yn ein grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion ar 1 Chwefror a dyna rwyf eisiau canolbwyntio arno ar hyn o bryd, oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn dweud bod gennym gynnig o safon fyd-eang yma, ond mae rhywbeth yn mynd o’i le, ac rwyf eisiau crybwyll hynny’n fyr yma.
Rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod ein hallforion addysg i fyfyrwyr rhyngwladol yn werth tua £530 biliwn, sef 4 y cant o holl allforion Cymru. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—yn cynnal dros 7,500 o swyddi ym mhrifysgolion Cymru, ac o amgylch Cymru hefyd, nid yn y prifysgolion yn unig. Ond rydym wedi cael gostyngiad o 26 y cant yn nifer y myfyrwyr o’r tu hwnt i’r UE ym mhrifysgolion Cymru ers y lefel yn 2013-14, ac mae hyn o’i gymharu â gostyngiad o 4 y cant yn y DU yn gyffredinol a phrifysgolion Grŵp Russell a’r Alban. Felly, mae gennym broblem benodol, ac mae hyn er gwaethaf cynnig o safon fyd-eang ym mhrifysgolion Cymru ac er gwaethaf y ffaith fod costau byw a dysgu yma yng Nghymru yn llawer mwy fforddiadwy. Ond rydym yn gwybod, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn, fod astudiaethau rhyngwladol yn dangos bod y DU bellach yn cael ei hystyried fel y lle lleiaf fforddiadwy i astudio ar gyfer israddedigion a graddedigion o’i chymharu â Seland Newydd, Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau. Mae’n rhaid i ni wneud llawer mwy o waith marchnata. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth allwn ni ei wneud i farchnata sector prifysgolion Cymru yn well, i gael cynnig polisi mewnfudo a fisa mwy croesawgar, ac i hybu niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sy’n cael eu recriwtio? Nid dyna’r unig beth sydd angen ei wneud i wella’r sefyllfa, ond mae’n ffordd bwysig i ni ddatrys yr heriau hynny, gwella’r sefyllfa a hybu niferoedd ein myfyrwyr rhyngwladol.
Diolch i chi, Huw. Fel rydych yn ei ddweud, nid hwn yw’r unig fater sydd angen i ni ei ystyried, ond mae’n un pwysig. Ychydig cyn y Nadolig, cynhaliais gyfarfod pedairochrog gyda Gweinidogion y DU sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn, ac ailadroddais yr holl bwyntiau rwyf newydd eu gwneud i Llyr Gruffydd i Jo Johnson, y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am addysg uwch ar y pryd. Pwy a ŵyr a fydd yn cadw’r swydd honno ar ôl yr etholiadau ym mis Mehefin? Credaf fod Jo Johnson yn deall yn union pa fath o system fewnfudo y mae angen i Lywodraeth y DU ei rhoi ar waith i gefnogi’r sector addysg uwch, yng Nghymru a thu hwnt. Yn anffodus, mae’n brwydro gyda Swyddfa Gartref nad yw’n rhannu’r ddealltwriaeth honno ac yn rhannu’r uchelgais hwnnw. Ond rydych yn iawn—ni allwn laesu ein dwylo a beio pobl eraill; mae’n rhaid i ni godi oddi ar ein pengliniau a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi’r sector ein hunain. Dyna pam rwy’n awyddus iawn i drafod gyda fy nghyd-Aelod Cabinet, y Gweinidog dros yr economi, er enghraifft, pan fydd ei adran ar deithiau masnach ar draws y byd, y dylai addysg fod yn rhan o hynny. Fel y dywedoch yn hollol gywir, mae gennym gynnig cryf yma mewn llawer o feysydd, ond nid am ein cynnig gweithgynhyrchu, neu’n wir, ein maes awyr, yn unig y dylem fod yn siarad â gwledydd; dylem fod yn siarad â hwy hefyd am y sylfaen addysg uwch gref sydd gennym yma, ac rwy’n siŵr y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn.
Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn—nid yw’n gyfrifol am faterion staffio. Fodd bynnag, hi sy’n bennaf gyfrifol am y fframwaith cyllidol y mae prifysgolion Cymru yn gweithredu o’i fewn. Ei phlaid oedd yn gyfrifol am dreblu ffïoedd dysgu bum mlynedd yn ôl. Cafodd hynny effaith wirioneddol ar Brifysgol Aberystwyth; mae nifer gryn dipyn yn llai o fyfyrwyr o Loegr yn mynychu Prifysgol Aberystwyth bellach, nid am fod y brifysgol wedi gwaethygu, ond oherwydd bod prifysgolion Lloegr a threblu ffïoedd dysgu bellach yn cystadlu â’i gilydd am fyfyrwyr, yn enwedig y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig, a cheir cymhellion deniadol iddynt astudio yn Lloegr gyda’r arian yn system addysg Lloegr. Mae ganddi argymhelliad, wrth gwrs, yn adolygiad Diamond i geisio, rwy’n gobeithio, dychwelyd rhywfaint o’r arian rydym yn ei anfon dros y ffin ar hyn o bryd yn ôl i mewn i’r system brifysgolion, ond ni fyddai hwnnw’n dod yn weithredol am o leiaf ddwy flynedd, ac ni fyddai’n dod yn llawn am oddeutu pum mlynedd hyd yn oed, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn argymell toriadau dros y ddwy flynedd nesaf. Y bwlch gwirioneddol hwn rhwng lle rydym heddiw a lle y gallem fod o dan Diamond yw’r broblem i brifysgol fel Aberystwyth a’r prifysgolion eraill sydd wedi cyhoeddi toriadau tebyg dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
Mae’n cwyno am y fisas ac mae’n iawn i gwyno amdanynt. Rydym i gyd wedi cwyno amdanynt, ond unwaith eto, ni lwyddodd ei phlaid a oedd mewn grym am bum mlynedd—Vince Cable a Clegg—i newid y drefn fisa yn y pum mlynedd hynny. Felly, rwy’n credu bod llawer o wasgu dwylo’n digwydd y prynhawn yma, ond mae yna brifysgol go iawn yn wynebu problemau go iawn a dros 100 o bobl yn wynebu diswyddiadau posibl. Yr hyn sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru yw arwydd clir o gynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae gennym Diamond ar y ffordd, ond nid yw’n weithredol eto. Beth a wnewch dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yng Nghymru, ac yn benodol pa un a oes cefnogaeth i Brifysgol Aberystwyth i sicrhau nad yw’n llithro i safle is neu’n colli ei gallu i gystadlu yn y farchnad addysg uwch?
A gaf fi hysbysu’r Aelod fod y rhagolygon diweddaraf yn dangos bod £50 miliwn yn rhagor o gyllid wedi dod i mewn i’r system addysg uwch yng Nghymru yn 2015-16 nag a wariwyd ar grantiau ffïoedd dysgu i sefydliadau y tu allan i Gymru? Nawr, bydd ein diwygiadau Diamond yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y sector yma yng Nghymru yn y dyfodol, ac roedd fy llythyr cylch gwaith i CCAUC yn cadarnhau fy mod yn llawn ddisgwyl i setliadau ariannol i CCAUC yn y dyfodol gynyddu ym mhob blwyddyn ariannol am weddill oes y Llywodraeth hon. Rwy’n synnu bod Simon Thomas wedi cymryd y sefyllfa ddifrifol iawn hon i’r bobl sy’n gweithio yn Aberystwyth a’i throi’n gyfle i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Hoffwn atgoffa’r Aelod fod bywoliaeth pobl mewn perygl yma, sy’n fater difrifol iawn, ac os ydym am ei wneud yn wleidyddol, hoffwn atgoffa’r Aelod ei fod yn eistedd yno yn ei sedd ar sawl achlysur ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddadfuddsoddi yn y sector addysg uwch a buddsoddi yn y sector addysg bellach. Nid wyf erioed wedi clywed yr Aelod yn gofyn yn ei drafodaethau ar y gyllideb am fwy o arian ar gyfer y sector addysg uwch.