6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:56, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl ar y GIG yng Nghymru, ac yn falch hefyd o ddathlu llwyddiannau’r GIG yng Nghymru. Gwnaf hyn, yn amlwg, yn seiliedig ar fy mhrofiad o fod yn feddyg yng Nghymru ers 1980. Mae gweithio yn y GIG wedi bod yn gyffrous, yn heriol, ac yn werth chweil—i gyd ar unwaith weithiau—er gwaethaf yr holl dryblith ac ad-drefnu llywodraethol a rheolaethol a hyrddiwyd yn fy ffordd ar hyd y blynyddoedd. Mae’n creu bond aruthrol gyda phobl. Rwyf wedi tyfu i fyny gyda phobl yn Abertawe. Mae cleifion a oedd yn blant pan ddechreuais yn neiniau a theidiau bellach. Bu’n fraint cael bod yn llinyn cyson ym mywydau cymaint o bobl. Mae’n dangos ymddiriedaeth a pharch cadarn—o’r ddwy ochr—wrth i bobl gydnabod ymrwymiad a sgiliau aruthrol staff y GIG.

Nawr, nid yw’r GIG heb ei ddiffygion, wrth gwrs. Gall adnoddau dynol iawn o’r fath wneud camgymeriadau hefyd, ac nid oes byth ddigon o arian ar gyfer y technolegau a’r cyffuriau diweddaraf. Ond yma yng Nghymru mae gennym GIG—ie, un sydd o dan straen bob dydd, ond eto un sy’n wasanaeth hynod o gyhoeddus mewn dwylo cyhoeddus, ac sy’n ennyn lefelau rhyfeddol o deyrngarwch a pharch gan gleifion Cymru. Ac oherwydd nad yw’n breifat, nid oes arian yn newid dwylo yn ystod yr ymgynghoriad. Mae pobl yn gwybod mai’r cyngor a roddaf iddynt yw’r hyn y byddwn yn ei roi fy nheulu fy hun, heb ei ddifwyno gan gyllid yn sgiwio’r drefn reoli. Gyda phresgripsiynau am ddim, gallaf argymell meddyginiaeth ataliol hirdymor, tabledi sy’n achub bywydau fel statinau a thabledi pwysedd gwaed uchel ac anadlyddion asthma, gan wybod y bydd pobl yn eu cymryd, heb gael eu dylanwadu gan yr angen i dalu mwy na £8 yr eitem amdanynt, fel yn Lloegr.

Rwy’n falch o’r datblygiadau arloesol ym maes iechyd yma yng Nghymru. Mae ein dwy ysgol feddygol ragorol ar flaen y gad mewn gwaith ymchwil a thriniaethau o’r safon orau, gan gynnwys cleifion o Gymru a thu hwnt. Imiwnotherapi cyffrous ar gyfer mesothelioma, fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar asbestos neithiwr: imiwnotherapi ar gyfer mesothelioma yng Nghaerdydd, a chleifion yn dod o bob cwr. Llawdriniaethau blaengar yng Nghaerdydd, ac yn Abertawe, uwch uned losgiadau a phlastig Treforys—sy’n gwasanaethu de-orllewin Lloegr yn ogystal â de Cymru gyfan. Mae’r uned losgiadau a phlastig honno’n wirioneddol anhygoel. Mae canmoliaeth uchel o’r fath i lawdriniaeth y galon yng Nghymru hefyd. Caiff bywydau eu hachub mewn modd na fyddai’n digwydd genhedlaeth yn ôl, ac rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â hynny i gyd. A rhoi organau: mae’r system optio allan newydd arloesol yma yng Nghymru, yn trawsnewid trawsblannu arennau yn y Deyrnas Unedig. Dylai’r Cynulliad fod yn haeddiannol falch o’i rôl yn gwireddu hyn, ac am gynnig ysbrydoliaeth ar draws yr ynysoedd hyn, ac organau ychwanegol ar gyfer eu trawsblannu ar draws yr ynysoedd hyn ac ar draws Ewrop.

Mae ein GIG ni’n gydweithredol, yn ddynol, ac mae unrhyw ddibyniaeth yn gweithio’r ddwy ffordd, fel y nodais eisoes. Oes, ceir unedau arbenigol yn Lerpwl a Manceinion yn gwasanaethu pobl gogledd Cymru, ond maent yn dibynnu ar y 600,000 o bobl o ogledd Cymru i wneud eu hunedau arbenigol yn hyfyw, o ran màs critigol. Heb y 600,000 o bobl yng ngogledd Cymru, ni fyddai’r unedau hynny yn Lerpwl a Manceinion yn hyfyw ychwaith. Mae dibyniaeth yn gweithio’r ddwy ffordd ac ar hyd Clawdd Offa mae tua 15,000 o bobl yn Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru, ac mae tua 13,000 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr, i fod yn deg. Ond mae ystyriaeth ddynol aeddfed ac anhunanoldeb yn golygu bod y gofal yn parhau beth bynnag am y ddaearyddiaeth. Ond rydym yn byw mewn cyfnod ansicr. Mae Brexit wedi peryglu ein GIG a staff gofal. Mae pleidleisio dros Brexit caled yn cyflwyno ffyrdd Torïaidd eraill o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus hefyd, megis preifateiddio graddol y gwasanaeth iechyd fel yn Lloegr. Rhaid i grwpiau comisiynu yno gomisiynu o’r tu allan i’r GIG. Rhaid iddynt breifateiddio; nid oes ganddynt unrhyw ddewis. Mae rhaniadau a chystadleuaeth yn rhemp; peidio â rheoleiddio a chyfrinachedd sy’n teyrnasu; ac mae ysgrifennydd iechyd Torïaidd yn Lloegr wedi ysgogi streiciau gan feddygon iau am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd. Yng Nghymru, mae’n wahanol. Na, amddiffynwch Gymru ac amddiffynwch ein GIG. Diolch yn fawr.