6. 6. Dadl Plaid Cymru: Preifateiddio’r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:01, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu ei bod yn hollol briodol fod rhai gwasanaethau’n cael eu darparu yn Lloegr ac na ellir darparu gwasanaethau prin, arbenigol yng Nghymru oni bai bod nifer ddigonol o gleifion â’r cyflwr i gynnal y rhagoriaeth glinigol y mae pob claf yn dymuno ei chael. Felly, rwy’n cytuno â Dai Lloyd fod rhai o’r gwasanaethau arbenigol ar Lannau Mersi a Manceinion yn dibynnu ar nifer yr atgyfeiriadau o ogledd Cymru, ond mae’r un peth yn berthnasol i bobl yn Swydd Gaerhirfryn ag sy’n berthnasol i bobl yn y gogledd. Mae pawb eisiau gwasanaeth ardderchog ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi allu cael llif digonol o gleifion i glinigwyr allu cynnal eu rhagoriaeth glinigol. 

Ond rwy’n anghytuno ag Angela Burns. Nid newyddion ffug yw poeni bod canlyniadau gwariant allanol ar iechyd yn Lloegr o ddifrif yn fygythiad posibl i’r symiau cyffredinol yn y grant bloc a ddaw i Gymru, ac ni allwn anwybyddu hynny. Mae’n rhaid i ni gydnabod hynny a’i glustnodi fel testun pryder go iawn y gallai rhai pobl fod eisiau ei ystyried pan fyddant yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol.

Credaf ein bod i gyd yn cefnogi’r ffaith fod y GIG yn wasanaeth am ddim yn y man darparu, ac na ddylid defnyddio anffawd neb sy’n mynd yn sâl fel ffordd i rywun arall wneud elw ar eu traul. Rwy’n gobeithio y gall pawb ohonom gefnogi hynny, ond credaf fod y sefyllfa’n fwy cymhleth nag y mae’r cynnig yn ei awgrymu o bosibl. Er enghraifft, mae pob meddyg teulu’n gontractwr annibynnol, fel y gŵyr Dai Lloyd, ac er bod y mwyafrif helaeth yn gwbl ymrwymedig i wasanaethu’r cleifion ar eu rhestr, cafwyd rhai enghreifftiau o feddygon teulu’n addasu eu gweithgaredd i elwa ar gymhellion ariannol penodol, naill ai drwy’r fframwaith canlyniadau ansawdd neu drwy gael perthynas amhriodol gyda chwmni fferyllol penodol er mwyn hyrwyddo meddyginiaeth arbennig ar draul un arall ratach. Ni allwn ddianc rhag hynny. Ceir cryn dystiolaeth o hynny ac mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni ei gadw mewn cof. Awgrymwyd hefyd y gallai ysbyty fod yn awyddus i bresgripsiynu meddyginiaethau cyn i glaf adael yr ysbyty am y gallant wneud arian allan o’r trafodiad hyd yn oed pan fyddai meddyginiaethau’n cael eu rheoli’n well gan feddyg teulu neu fferyllfa leol y claf. Mae’r tensiynau hyn yn bodoli ac mae angen eu rheoli. Y gobaith yw y dylai’r strwythur integredig presennol sydd gennym ar gyfer gofal iechyd, gyda saith bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal sylfaenol ac eilaidd, ei gwneud yn haws i gael gwared ar arferion amhriodol o’r fath. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod nad yw hynny’n digwydd bob amser.

Rhan o’r egwyddor gofal iechyd darbodus yw y dylai gwasanaethau gael eu darparu gan y person sy’n gymwys i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw a dim mwy. Mewn egwyddor, gallai gael ei ddarparu gan sefydliad yn y sector preifat mewn rhai achosion. Ddoe, ymwelais â phanel amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar sut i reoli mynychwyr rheolaidd yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd a’r Fro. Roedd un unigolyn wedi defnyddio’r gwasanaeth y tu allan i oriau, yr adran ddamweiniau ac achosion brys neu’r gwasanaeth ambiwlans dros 50 o weithiau yn ystod y mis diwethaf, a hynny oherwydd eu bod wedi bod yn aros ers 18 mis i gael eu gweld gan seiciatrydd. Roedd un arall yn hunan-niweidio, gan gynnwys llyncu gwrthrychau miniog, yn ôl pob golwg er mwyn osgoi gorfod cyfarfod â’i swyddog prawf. Mae’r achosion hyn yn bodoli, ac mae’n rhaid i ni fod yn greadigol yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â heriau o’r fath.

Mewn rhai achosion, efallai mai’r ffordd orau o wasanaethu unigolion sy’n isel eu hysbryd, yn ynysig neu’n gaeth i rywbeth yw cyrsiau meithrin hyder, cyrsiau byw bywyd llawn, sy’n dod â hwy’n ôl i’r gymuned am fod eu hiselder yn gysylltiedig â’u harwahanrwydd. Mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu ar hyn o bryd gan Cymunedau yn Gyntaf, ond gallai cwmni sector preifat eu darparu mewn egwyddor. Nid wyf yn dweud y dylent, ond mae angen i ni o leiaf ei drafod. Mae cwmnïau preifat wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG erioed. Fodd bynnag, ceir anfanteision strwythurol, er enghraifft, ansefydlogrwydd—gallai’r corff symud allan os yw eu helw’n gostwng; cost—mae’n bosibl y bydd rhaid iddynt dalu eu cyfranddalwyr; y prosesau trafodaethol y dylid eu hosgoi pan fyddwn yn trafod darpariaeth gyfannol gwasanaethau gan weision cyhoeddus; ac yna ceir y diffyg atebolrwydd y dylai pawb ohonom boeni yn ei gylch. Ond byddai’r GIG yn chwalu heb fewnbwn cwmnïau preifat. Maent yn darparu’r holl offer, yn adeiladu’r ysbytai, yn gwneud y cyffuriau ac yn y byd TG, caiff y cyfan o’r TG mewn gofal sylfaenol ei redeg yn breifat. Felly, ceir digonedd o dystiolaeth y gall darparwyr eraill herio darpariaeth y wladwriaeth, ac o bryd i’w gilydd, gallant wella syniadau, gweledigaeth a pherthynas gyda defnyddwyr gwasanaethau, ac felly mae’n rhaid i ni gael ymagwedd ehangach tuag at y mater hwn.