Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 10 Mai 2017.
Rwyf am siarad am integreiddio gofal cymdeithasol a iechyd, a’r problemau y byddai creu darpariaeth a system a fyddai’n mynd yn fwy a mwy darniog ei natur yn eu creu pe baem ni’n symud at ddefnyddio mwy a mwy o gontractwyr preifat.
Rydym wedi trafod yr angen i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol sawl tro. Mae nifer o broblemau yn cael eu hachosi wrth i sefydliadau gwahanol ddadlau dros y gwahanol elfennau—er enghraifft, brwydrau gweinyddol a biwrocrataidd ynglŷn â lle mae’r cyfrifoldeb dros gleifion yn cael ei basio rhwng sefydliadau, cleifion yn methu cael eu rhyddhau i’r gymuned oherwydd diffyg cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol iechyd i alluogi pobl i fyw yn annibynnol, a dadlau am bwy sydd yn talu am beth.
Erbyn hyn, rydym i gyd, fwy neu lai, yn cytuno bod angen integreiddio a bod angen trafodaeth ar hynny, a thrafodaeth ar frys, yn wir, ond un peth a fyddai’n gwneud integreiddio yn anodd fyddai mwy o dendro cystadleuol a rhagor o ddarparwyr yn cystadlu dros gytundebau proffidiol, tra wedyn yn gadael y gwasanaethau hanfodol sydd ddim yn broffidiol yn nwylo system sy’n cael ei gwaedu o fuddsoddiad. Dyna ydy’r perygl a dyna all ddigwydd yng Nghymru os ydy’r Deyrnas Unedig yn arwyddo bargeinion masnach sy’n gorfodi ein gwasanaethau iechyd a gofal i agor eu drysau i ddarparwyr preifat.
Bydd rhai pobl yn codi’r pwynt bod llawer o gontractwyr preifat yn darparu gwasanaethau gofal a iechyd yn barod, ond dyna’n union ydy’r broblem: mae contractio gwasanaethau allan i ddarparwyr sydd o safon isel wedi arwain at weithlu gofal cymdeithasol sydd ddim yn cael eu talu’n ddigonol, ac sy’n dioddef o amodau gwaith sâl. Yn ei dro, mae hynny yn arwain at ddiffyg statws a pharch i’r sector ofal. Os ydym yn cael ein gorfodi i agor ein gwasanaeth iechyd i ddarparwyr preifat oherwydd fod Llywodraeth Lloegr wedi ymrwymo yn ideolegol i’r sector breifat, ac yn arwyddo bargeinion masnach ar ran Cymru, mae perygl gwirioneddol y byddwn ni yn colli rhagor o sgiliau ac y bydd safonau yn disgyn eto.
Rydym yn barod wedi gweld problemau system ddarniog Lloegr yn sgil pasio’r Ddeddf iechyd a gofal cymdeithasol yn 2012. Mae’r penderfyniad i roi dyletswyddau iechyd cyhoeddus i awdurdodau lleol wedi arwain at benderfyniad gwarthus gan yr NHS yn Lloegr, sef peidio ariannu’r cyffur PrEP, gan ei fod yn atal trosglwyddiad HIV ac felly yn cael ei gyfrif fel ‘iechyd cyhoeddus’. Ac oherwydd y penderfyniad trychinebus i wneud toriadau anferth i awdurdodau lleol er mwyn talu am warchod yr NHS, mae gwariant ar iechyd cyhoeddus wedi gostwng. Mae iechyd cyhoeddus mewn systemau iechyd yn cael ei ddominyddu gan y sector breifat yn rhwym o wynebu tanfuddsoddiad, oherwydd nid oes arian i’w wneud yn y maes yna. Ac wrth weld y pwyslais yn symud at drin afiechyd yn hytrach na gwasanaethau ataliol, nid yw hynny’n gwneud synnwyr busnes, wrth gwrs, achos mae hi’n ddrytach yn y pen draw.
Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n cadw’r gwasanaeth iechyd cyhoeddus yn nwylo’r cyhoedd ac yn cadw dwylo’r Toriaid a’u cytundebau masnachol allan o Gymru. Bydd Plaid Cymru yn amddiffyn gwasanaeth iechyd cyhoeddus Cymru bob cam o’r ffordd.