Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Neil Hamilton, am ildio. Ac rydych yn hollol iawn i ddweud bod y ddyled genedlaethol, wrth gwrs, wedi cynyddu ers 2010, ond y diffyg oedd y pwynt. Mae’r diffyg wedi cael ei leihau, ac roedd y Canghellor George Osborne bob amser yn onest am y ffaith y byddai’n cymryd amser hir i droi’r llong fawr hon o gwmpas. Ni allwch wneud hynny dros nos, oni bai eich bod am achosi difrod enfawr i’r economi.