Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 16 Mai 2017.
Wel, mae'n bwysig nodi nad yw rhai o'r dulliau ar gyfer gwella ansawdd aer, fel mesurau cyllidol sy'n ymwneud â cherbydau diesel, wedi'u datganoli. Mae lefel yr ymrwymiad i gymryd camau ar lefel Llywodraeth y DU yn aneglur ar hyn o bryd, ond, fel tystiolaeth o'n hymrwymiad i wneud popeth y gallwn i wella ansawdd aer ar lefel genedlaethol Cymru, rydym ni wedi dweud yng nghynllun y DU y byddwn, o fewn 12 mis, yn ymgynghori ar fanylion cynnig ar gyfer fframwaith parth aer glân ar gyfer Cymru.