Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 16 Mai 2017.
Wel, rwy’n cymeradwyo'r astudiaeth honno, oherwydd, os edrychwch chi ar yr Almaen, mae parthau aer glân wedi bod yn hynod lwyddiannus yn eu dinasoedd nhw, gan leihau allyriadau huddygl o bibellau gwacau o fwy na 50 y cant yn Berlin, er enghraifft. Ond mae’r polisïau hyn yn gofyn am newid ymddygiad, annog beicio ac ati, mynediad at ardaloedd o ddinasoedd a pharcio am ddim i gerbydau glanach, a gwell defnydd o seilwaith presennol, h.y. ail-ddynodi rhai o'n llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ac, yn wir, rwy’n meddwl y dylem ni fod â’r uchelgais i ddatgan bod Caerdydd yn barth aer glân, felly rwy'n eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosibl.