Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Mai 2017.
Rydym ni’n gwybod bod amgylchedd diogel yn hanfodol i blant a phobl ifanc os ydynt am fwynhau chwaraeon. Rydym ni’n gwybod bod safonau ar un adeg yn llawer mwy llac nag y maen nhw erbyn hyn. Materion i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac i'r heddlu yw’r rhain yn bennaf. Ond mae'n hynod bwysig y gellir rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl, y bydd unrhyw honiadau yn y gorffennol neu, yn wir, y presennol, yn cael eu hymchwilio’n llawn, fel y gallwn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i gael amgylchedd mwy diogel nawr ac yn y dyfodol.