Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 16 Mai 2017.
Ro’n i’n falch iawn bod y Cynulliad yma’n unfrydol yr wythnos diwethaf wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a fydd yn golygu y bydd cael strategaeth gan y Llywodraeth i daclo gordewdra rŵan ar wyneb y Bil hwnnw. Ac rwy’n ddiolchgar i Aelodau pob plaid a’r Llywodraeth am gefnogi hynny. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i’n clybiau a’n sefydliadau chwaraeon proffesiynol ni, yn ogystal â chwaraeon llawr gwlad, allu bwydo mewn rŵan i greu y strategaeth yna, er mwyn sicrhau bod gennym ni strategaeth a all yn wirioneddol fynd i’r afael â’r broblem fwyaf, o bosib, sy’n ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd?