1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0593(FM)
Er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bersonél presennol y lluoedd arfog, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur yn ein rhaglen lywodraethu ein hymrwymiad i gefnogi personél presennol a'u teuluoedd fel nad ydynt dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth.
Diolch. Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud mwy â’r gymuned lluoedd arfog ehangach. Yn gynharach eleni, ar eu cais nhw, cefais i, ac Andrew R.T. Davies, gyfarfod gyda grŵp o gyn-filwyr benywaidd, pob un ohonynt wedi dioddef anafiadau wrth wasanaethu, a phob un ohonynt yn dweud wrthym eu bod hefyd yn ymdopi â materion iechyd meddwl o ganlyniad i'w gwasanaeth. Sut ydych chi’n ymateb i'r pryder a fynegwyd ganddynt i ni—ac rwy'n eu dyfynnu—'gyda mwy a mwy o gyn-filwyr yn dychwelyd o Irac ac Affganistan mae’n cymryd tri mis erbyn hyn i gael apwyntiad gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr, wedyn tri i chwe mis i weld arbenigwr ac yna dim ond ymdrin â thrawma ysgafn i ganolig y maen nhw’n gallu ei wneud gan nad oes unrhyw wasanaethau acíwt, ac maen nhw’n gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl ac yn dibynnu ar elusennau?
Os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion am hynny, byddaf wrth gwrs yn ymchwilio. Ond yn gyffredinol, rydym ni wedi cynhyrchu llyfryn 'Croeso i Gymru', yn benodol ar gyfer personél y lluoedd arfog a'u teuluoedd tra eu bod yn byw yng Nghymru. Mae'n rhoi gwybodaeth am y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael mewn un man. Maen nhw’n cynnwys nofio am ddim, wrth gwrs, ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau lleol, llwybr atgyfeirio carlam ar gyfer gofal iechyd arbenigol, cynnig gofal plant hyblyg gwell, a mynediad at addysg wrth gwrs. Rydym ni’n gweithio'n eithaf agos gyda sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r hyn y maen nhw’n ei haeddu i’r cyn-filwyr sydd wedi rhoi cymaint, pan eu bod yn byw yng Nghymru.
Prif Weinidog, mae plant personél lluoedd arfog sydd wedi eu hanfon dramor mewn perygl o dderbyn addysg anghyson. Mewn lleoliadau lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ysgol swyddogol, mae'r plant hyn yn cael eu hanfon i ysgolion rhyngwladol, efallai na fydd yn dilyn cwricwlwm penodol. O ganlyniad, efallai y bydd y plant ar y blaen mewn rhai meysydd ac ar ei hôl hi mewn eraill. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod plant personél lluoedd arfog sydd wedi mynychu ysgolion rhyngwladol yn cael eu hasesu'n llawn ac yn derbyn cymorth ychwanegol os oes angen?
Mae'r prosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg o fewn CLlLC wedi ei ariannu trwy gronfa gymdeithasol Ewrop ers 2014 i liniaru problemau symudedd a lleoliad. Mae'r prosiect wedi llunio canllaw i rieni plant y lluoedd arfog ar y system addysg yng Nghymru, ac ar gyfer athrawon ar gefnogi plant y lluoedd arfog. Yr adnodd diweddaraf i gael ei lunio gan y prosiect hwn yw'r adnodd straeon digidol, a lansiwyd ddiwedd y flwyddyn diwethaf. Hefyd, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gweithredu’r gronfa cymorth addysg, er ein bod ni’n deall y bydd y cyllid hwnnw’n dod i ben y flwyddyn nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn gofyn iddynt esbonio’r sefyllfa honno.