Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth ystyried yr ysgolion rhagorol yr wyf wedi cael y fraint o ymweld â nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amlwg i mi fod pob un yn elwa ar arweinyddiaeth o ansawdd uchel. Ein her ni, fel y nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yw sicrhau dull system gyfan o weithredu arweinyddiaeth, a gwneud hynny’n brif sbardun ein diwygiadau addysg. Er mwyn llwyddo, mae angen arweinwyr ysbrydoledig ar bob ysgol, a chredaf fod sefydlu ein hacademi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn gam pwysig ymlaen. O’i osod ochr yn ochr â safonau proffesiynol newydd, diwygio addysg gychwynnol athrawon a diwygio cwricwlwm, mae'n rhan o ddull cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth.
Ers cyhoeddi sefydlu bwrdd cysgodol yr academi fis Tachwedd diwethaf, rwyf wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y cynnydd a wnaed mewn cyfnod byr o amser. Mae'r bwrdd cysgodol, dan arweiniad Ann Keane, wedi profi i fod yn broffesiynol, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i'r dasg hon. I fod y gorau, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni ddysgu oddi wrth y gorau, ac, felly, rwy’n falch eu bod wedi ystyried enghreifftiau rhyngwladol o ddatblygu arweinyddiaeth, o rai o'r systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd, megis Canada, Singapore a Seland Newydd. Ac maent yn glir: mae'n rhaid i ni adeiladu ar dystiolaeth ryngwladol er mwyn creu dull a wnaed yng Nghymru. Mae'r bwrdd wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch diffinio gweledigaeth, gwerthoedd a swyddogaeth yr academi, ynghyd â llywodraethu ei strwythur sefydliadol.
Wrth ganolbwyntio ar arweinyddiaeth dysgu, gan gefnogi pedwar diben ein cwricwlwm newydd, mae’r academi wedi gosod gweledigaeth i fod: yn gynhwysol a chydweithredol, gan alluogi mynediad teg at gyfleoedd, yn eiddo i'r sector, ac yn ganolog i ddatblygu arweinyddiaeth gydweithredol a arweinir gan ddiwylliant; yn ysbrydoledig ac ysgogol, gan hyrwyddo datblygiad arweinyddiaeth wych yn awr ac yn y dyfodol, gan gysylltu yn gydlynol â’r agenda ddiwygio genedlaethol; yn meithrin gallu, gan alluogi arweinyddiaeth i ffynnu, a grymuso arweinwyr, a sicrhau ein cyflenwad o arweinwyr yn y dyfodol; a chael ansawdd ac effaith, gan wneud swyddogaeth arweinyddiaeth yn glir, a'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i’n system, ac ategu hynny gydag ymchwil a sylfaen dystiolaeth gref.
Mae'r bwrdd wedi cyrraedd consensws unfrydol y dylai'r academi fod yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Byddai hyn yn galluogi strwythur llywodraethu hyblyg, sy'n gallu diwallu cynrychiolaeth sector yn well, a fyddai'n cael ffurf gyfreithiol a ffafrir gan y Comisiwn Elusennau, ac a allai gyflogi staff yn ei enw ei hun. Rwyf felly wedi dweud wrth swyddogion i ddechrau cwmpasu’r amserlen a'r adnoddau sydd eu hangen i sefydlu'r academi, yng ngwanwyn 2018, fel cwmni cyfyngedig trwy warant. Rwy’n disgwyl iddo fod yn sefydliad bach a hyblyg, gyda bwrdd strategol bach, ac yn cael ei arwain gan brif weithredwr. Byddwn yn parhau i ymgynghori ar swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi, a phrofi'r amserlenni ar gyfer y camau nesaf. Bydd cyfres o sioeau teithiol rhanbarthol yn digwydd fis nesaf, a byddwn yn annog rhanddeiliaid i fynd iddynt a dysgu mwy, ac i roi eu hadborth.
Fy mwriad i, yn seiliedig ar gyngor y bwrdd cysgodol, yw y bydd yr academi yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o raglenni, yn cael rhan i sicrhau darpariaeth ar draws y rhanbarthau, yn cefnogi arweinyddiaeth ar bob lefel, ac yn gweithio gydag eraill i nodi a chefnogi arweinwyr y presennol a'r dyfodol. Rwyf wedi dweud lawer gwaith yn y Siambr hon, a'r tu allan, na all ansawdd ein system addysg ragori ar ansawdd ein hathrawon. Dros y pum mlynedd nesaf, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol gydol gyrfa sy'n meithrin capasiti o addysg gychwynnol athrawon ac sy’n rhan annatod o waith ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn system hunanwella i ysgolion.
Fy ngweledigaeth ar gyfer dysgu proffesiynol yw un lle mae ymgysylltu gweithredol mewn dysgu proffesiynol yn gyfrifoldeb sylfaenol pob unigolyn, a'i ddiben yw datblygu arbenigedd unigol ac ar y cyd i godi safonau ar gyfer ein holl ddysgwyr. Caiff yr effaith honno ei gweld wrth ymgorffori’r pedwar diben cwricwlwm i mewn i ddysgu a phrofiad ein holl ddysgwyr. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddulliau sy'n gydweithredol, cydlynol ac arloesol, sydd hefyd yn cael eu harwain gan ymchwil.
Bydd y safonau addysgu proffesiynol newydd arfaethedig yn dwyn ynghyd safonau ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth er mwyn adlewyrchu llwybrau gyrfa gwell o fynediad i mewn i'r proffesiwn ac ymlaen ac mewn ffordd sy'n rhoi eglurder o ran disgwyliadau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n dewis canolbwyntio ar eu harfer yn yr ystafell ddosbarth a'r rhai sy'n dewis symud i swyddogaethau arweinyddiaeth mwy ffurfiol, hyd at, ac yn cynnwys, prifathrawiaeth. Mae'r safonau arfaethedig yn seiliedig ar bum maes ymarfer: addysgeg, cydweithredu, arloesi, dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol. Bydd arweinyddiaeth yn un o'r pum maes ymarfer ar gyfer pob athro yn y safonau newydd arfaethedig. Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel yn hanfodol os ydym am wella ansawdd addysgu a gwella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae cynnydd hefyd wedi ei wneud o ran y ddarpariaeth bresennol. O ran prifathrawiaeth, rydym wedi gweithio gyda chonsortia ac rydym wedi gwella'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Mae carfan bresennol o ymarferwyr yn mynd trwy'r rhaglen hon a byddaf yn gofyn am eu barn am y gwelliannau pellach y bydd angen i ni eu gwneud. Er fy mod yn cydnabod nad yw recriwtio penaethiaid heb ei broblemau mewn rhai ardaloedd, nid wyf yn barod i gyfaddawdu ar ansawdd newydd-ddyfodiaid i brifathrawiaeth yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen gosod safon uchel ar gyfer y rhai yr ydym yn ymddiried arweinyddiaeth ein hysgolion ynddynt. Felly, er fy mod yn cydnabod bod angen i'r CPCP ddatblygu, rwy’n glir y dylem gynnal y gofyniad a'i gadw fel trothwy ar gyfer mynediad i brifathrawiaeth.
Rydym hefyd wedi bod yn gwella ystod o raglenni arweinyddiaeth ar gyfer penaethiaid ac arweinwyr canol i sicrhau bod gennym gynnig gwell a chydlynol ar draws Cymru. O fis Medi 2017 ymlaen bydd gennym amrywiaeth o raglenni cyffredin, ac, unwaith eto, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr yn ddiweddarach.
Bydd sefydlu academi genedlaethol o arweinyddiaeth addysgol, ochr yn ochr â safonau arweinyddiaeth broffesiynol newydd wedi’u halinio i safonau addysgu proffesiynol, yn sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn cael eu cefnogi'n dda i ddatblygu ac ysbrydoli cydweithwyr ac i gydweithio er mwyn ymgorffori'r cwricwlwm newydd. Gyda'i gilydd, bydd y diwygiadau hyn yn sbarduno ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sydd yn destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol.