Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 16 Mai 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi cipolwg o’r datganiad hwn inni cyn iddi wneud hynny yn y Siambr y prynhawn yma? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth yn rhywbeth yr oeddem yn ei gefnogi yn fawr iawn pan gyhoeddodd hi hynny ym mis Tachwedd y llynedd. Os oes unrhyw feirniadaeth, mae'n ymwneud â'r cyflymder, mewn gwirionedd, o gyflawni yn erbyn y cyhoeddiad hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, rydych wedi cyfeirio heddiw at y ffaith na fydd y peth hwn mewn gwirionedd ar waith tan y gwanwyn 2018. Nid yw hynny'n swnio fel y math o gyflymder sydd ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau gwirioneddol sydd gennym wrth gyflwyno arweinyddiaeth o ansawdd uchel yn y system addysg yng Nghymru.
Ddoe ddiwethaf, clywsom rai o'ch uwch swyddogion yn dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad fod rhai arweinwyr mewn ysgolion yng Nghymru yn euog o hapchwarae’r system arholiadau—peidio â gadael i bobl ifanc, o bosibl, gyrraedd y graddau uwch hynny a cheisio bancio graddau is. Credaf fod hynny, yn wir, yn crynhoi system nad yw'n caniatáu i bawb gyflawni eu potensial. Rwy’n gwybod bod gennych rai pryderon am hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech, efallai, roi sylwadau ar hynny mewn ymateb i bopeth sydd gennyf i’w ddweud.
Wrth gwrs, mae gennym arweinyddiaeth ragorol. Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eich bod wedi ymweld â llawer o ysgolion eisoes ac wedi gweld yr arweinyddiaeth honno—mae gennyf rywfaint o arweinyddiaeth ragorol yn fy etholaeth fy hun. Yna, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o arweinyddiaeth wael ledled Cymru. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato yn eich datganiad oedd ceisio troi rhywfaint o'r arweinyddiaeth dda sydd gennym yn ein sectorau prifysgol ac addysg bellach i mewn i'n hysgolion, ac a allai fod swyddogaeth i’r academi arweinyddiaeth genedlaethol wrth helpu i hwyluso hynny. Rwy'n gwybod, unwaith eto, fod rhywfaint o groesi cleddyfau wedi bod am hyn yn y gorffennol. Ond mae ein colegau addysg bellach yn benodol, yn fy marn i, yn dangos sut y gallwch gynnal sefydliadau mawr eithaf sylweddol sydd eisoes â rhywfaint o gydweithio gyda'n hysgolion uwchradd, a does dim rheswm—ni allaf weld unrhyw reswm—pam na ddylai rhywfaint o'r arweinyddiaeth honno fod yn dylanwadu ar ein hysgolion uwchradd yn benodol. Wrth gwrs, yn ogystal â hyn, mae gennym rywfaint o gydweithio da iawn bellach o ran modelau ffederal—ffederasiynau o ysgolion—o gwmpas Cymru. Ond tybed a yw clystyru ysgolion at ei gilydd gydag arweinyddiaeth gref yn ffordd bosibl arall ymlaen ac, unwaith eto, a fydd yr academi arweinyddiaeth genedlaethol yn gallu cael rhywfaint o fewnbwn i mewn i hynny.
Sylwaf eich bod yn dweud y bydd y bwrdd cysgodol a'r academi yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o raglenni yn y dyfodol. Tybed sut byddai hynny'n rhan o’r trefniadau presennol. Yn amlwg, mae gennym Gyngor y Gweithlu Addysg, mae gennym Estyn ac eraill, i gyd â diddordeb yn y maes hwn. Mae'n ymddangos i mi fod angen cael rhyw fath o ddull cydweithredol.
Rydych wedi sôn am y ffaith ein bod ni'n mynd i gael bwrdd, ac rydych am iddo fod yn fwrdd bach, ond mae'n amlwg bod llawer o randdeiliaid a fydd â diddordeb mewn gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn gweithio'n gywir. Rydym wedi gweld byrddau’n cael eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol ac mae pethau’n mynd o chwith. Mae CBCA yn dod i'r meddwl, er enghraifft. Felly, yn amlwg mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bwrdd hwn o’r ffurf a’r maint cywir, ond hefyd y gellir ei ddal yn atebol am ei weithredoedd, gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r sector yn ei gyfanrwydd. Felly, sut ydych chi'n gweld y mathau hynny o drefniadau yn gweithio i wneud yn siŵr bod llywodraethu'r bwrdd newydd hwn yn mynd i fod yn iawn mewn gwirionedd?
A gaf i hefyd ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych yn mynd i fesur llwyddiant? Yn amlwg, rydym yn cael cipluniau yn flynyddol gydag adroddiad blynyddol Estyn a’u barn ar berfformiad ar draws Cymru. Rydym yn cael ciplun bob tro y mae arolygiad wedi ei gwblhau. Rydym wedi cael cipluniau gydag adroddiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ogystal â'r system addysg yng Nghymru. Ond sut ydych chi mewn gwirionedd yn mynd ati i fesur llwyddiant yr academi hon? Ai drwy ganlyniadau gwell i ddisgyblion, i ddysgwyr, neu drwy’r ffaith bod pobl wedi mynd ar gyrsiau? Oherwydd ni allaf weld unrhyw le yn y datganiad heddiw lle’r ydych yn benodol yn mynd i fod yn gallu mesur hynny.
Rydych wedi sôn am rai o'r heriau recriwtio sydd gennym, ac rwy’n cydnabod y rheini hefyd, yn sicr yn rhai rhannau o Gymru. Roedd ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn benodol, yn wynebu rhai heriau wrth recriwtio penaethiaid newydd yn y gorffennol, fel y mae rhai o'n hysgolion arbenigol a'n hysgolion ffydd hefyd. Felly, tybed a ydych yn mynd i gael pwyslais penodol ar rywfaint o'r ddarpariaeth arbenigol lle mae’r gwendidau hyn gennym o ran gallu nodi penaethiaid newydd, a sut ydych yn disgwyl i’r academi genedlaethol hon fod yn gallu llenwi rhai o’r bylchau hynny. Diolch.