6. 5. Datganiad: Y Cynllun Gweithredu Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 16 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:21, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r datganiad hwn heddiw yn amserol, gan ein bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia. Rwy’n gobeithio bod pawb yn defnyddio'r wythnos hon i gymryd camau i godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth a dealltwriaeth i'r rhai sydd ei angen.

Ym mis Hydref y llynedd, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, roeddwn i’n falch o lansio’r ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Un o’r camau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni yw datblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Mae hyn mewn ymateb i ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, i wneud Cymru yn genedl sy’n deall dementia. Rydym wedi dod yn bell i wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl sy’n deall dementia, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Yn rhan o hyn, rydym wedi symud ymlaen i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia, fel yr addawyd yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Felly, roeddwn yn falch o lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn Llys Oldwell yng Nghaerdydd ym mis Ionawr eleni.

Ni ddylem fyth anghofio bod mwy o bobl yn byw'n hirach, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. A dementia yw un o'r heriau gofal iechyd mwyaf y mae ein cenhedlaeth ni yn ei wynebu. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Mae effaith dementia yn y gymdeithas yn ehangach o lawer pan fyddwn yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu. Y llynedd, cyhoeddasom nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â nhw, gan gynnwys darparu mwy na £8 miliwn o arian ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i’r bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Ac adeiladwyd ar y negeseuon hyn drwy gydol ein cynllun gweithredu drafft. Ond, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn briodol, mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu’n cael eu heffeithio, boed hynny’n bersonol neu’n broffesiynol, fel ein bod yn deall beth sydd bwysicaf i bobl. Mae'n rhaid i ni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt.

Mae'r safbwyntiau a’r profiadau a rannwyd gyda ni wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'r teulu, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol a phobl eraill â diddordeb. Gwnaed hyn mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer a Phrosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia, a adnabyddir hefyd fel DEEP. Mae dros 1,200 o bobl yr effeithir arnynt yn bersonol gan ddementia wedi cymryd rhan drwy gydol y cyfnod ymgynghori, a diolchwn i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.

Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fydd unrhyw ddau unigolyn sydd â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, ag anghenion sydd yn union yr un fath. Yr adborth ysgubol o’r ymgysylltiad a wnaed yw bod pobl yn dymuno i gymorth a gwasanaethau gael eu darparu gydag ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau, y dylai’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i wahanol anghenion ar wahanol gyfnodau o fyw gyda'r cyflwr, a bod y camau hynny’n dangos dull llwybr cyfan. Erbyn hyn, mae'r cynllun yn cefnogi'r dull hwn ac yn cynnwys nifer o themâu y mae angen eu gweithredu ymhellach yn ystod y pum mlynedd nesaf. Cafodd y themâu eu llywio gan adborth o’r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2016, pryd y cyfeiriwyd at ddementia, a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol, yn ogystal â thrwy adolygu strategaethau dementia perthnasol eraill. Mae'r themâu’n cynnwys: codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu ffrindiau dementia a chymunedau a sefydliadau sy’n cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol ac yn sensitif a bod pobl yn gallu cael asesiad a diagnosis yn brydlon; cymorth a thriniaeth cynnar i bobl â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn dilyn diagnosis; a bod mwy o gefnogaeth ar gael, boed hynny yng nghartref yr unigolyn, yn yr ysbyty, neu mewn cartref gofal.  

Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ar 3 Ebrill a chawsom 119 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn, nifer o'r colegau brenhinol, a rhanddeiliaid allweddol megis Cyngor Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Alzheimer a DEEP. Mae'r ymatebion hyn, a’r adborth o'r digwyddiadau rhanddeiliaid, yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd i lywio'r adroddiad terfynol.

Darparodd yr ymatebwyr awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella’r cynllun terfynol, ac roedd yr awgrymiadau hynny’n cynnwys: cryfhau'r dull sy'n seiliedig ar hawliau drwy'r ddogfen gyfan; pwyslais pellach ar ddull ar draws y Llywodraeth i gynnwys trafnidiaeth, tai a chynllunio, yn ogystal ag agweddau ar iechyd a gofal cymdeithasol; tynnu sylw at bwysigrwydd proffesiynau meddygol cysylltiedig wrth gefnogi pobl â dementia a'u teuluoedd neu ofalwyr; pwyslais pellach a chamau gweithredu penodol o ran cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig; canolbwyntio mwy ar ddementia cynnar, gofal lliniarol, cymorth cymheiriaid a dulliau a arweinir gan y gymuned; mwy o gymorth i ofalwyr, gan gynnwys ychwanegu mesurau clir ar gyfer darpariaeth seibiant; a mwy o ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael eisoes, gan gynnwys hyrwyddo’r llinell gymorth dementia genedlaethol ymhellach. Wrth gwrs, roedd llawer o ymatebwyr hefyd eisiau gweld targed diagnosis mwy uchelgeisiol. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw hyn ac rwyf wedi cytuno y bydd y mater hwn yn parhau i gael ei adolygu.  

Bydd y canfyddiadau o'r ymgynghoriad yn cael eu hymgorffori'n briodol yn y cynllun terfynol, ac yn cael eu cyflwyno gyda chynllun gweithredu manwl sy'n cynnwys camau gweithredu a thargedau mesuradwy i'w cyflawni yn ystod oes y cynllun. Yn dilyn darparu cyfoeth o arferion nodedig o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, byddwn hefyd yn cyhoeddi dogfen gryno sy'n tynnu sylw at enghreifftiau o arferion ar draws y llwybr fel ein bod yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd eisoes.  Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn greu Cymru sydd wirioneddol yn deall dementia a mynd i’r afael â phroblemau eraill, megis unigrwydd ac unigedd. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus eisoes wedi ein helpu i ddysgu o brofiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu cynllun gweithredu cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, rwy’n ffyddiog o hynny.

Ond nid wyf yn dymuno iddo orffen yn y fan honno. Rwy’n dymuno gweld y trydydd sector yn chwarae rhan fwy gweithredol yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu llunio a'u cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, a ddylai fod yn enghraifft wych o egwyddorion iechyd a gofal doeth ar waith. Rwy’n dymuno i ni fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â dementia a chael gwared ar yr ofn y gallai fod gan lawer trwy ddiffyg gwybodaeth. Gwyddom o'n hymgynghoriad bod cyfoeth o brosiectau cymunedol drwy’r wlad sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia a fydd yn helpu i leihau’r stigma. Rwy’n dymuno gweld mwy o gymunedau yng Nghymru yn dod i ddeall dementia ac yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bawb sydd ei angen.

Fy ngobaith i, felly, ar adeg yr adolygiad tair blynedd, yw y gallaf i, neu unigolyn cyfatebol—pwy bynnag sy'n darparu'r adroddiad—sefyll ar fy nhraed fel yr wyf i’n ei wneud yma heddiw a darlledu’r cynnydd a'r newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud tuag at wneud Cymru yn genedl sydd wirioneddol yn deall dementia. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed i gynhyrchu dogfen mor gynhwysfawr sy'n adlewyrchu lleisiau llawer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn sicr yn gwrando ar y cyfraniadau a wneir yn natganiad heddiw, cyn i ni gyhoeddi'r cynllun terfynol yn yr haf. Rwy’n awyddus i’r cynllun terfynol fod yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, ac y gallwn barhau i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.