– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 16 Mai 2017.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r datganiad hwn heddiw yn amserol, gan ein bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia. Rwy’n gobeithio bod pawb yn defnyddio'r wythnos hon i gymryd camau i godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth a dealltwriaeth i'r rhai sydd ei angen.
Ym mis Hydref y llynedd, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, roeddwn i’n falch o lansio’r ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Un o’r camau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni yw datblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Mae hyn mewn ymateb i ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, i wneud Cymru yn genedl sy’n deall dementia. Rydym wedi dod yn bell i wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl sy’n deall dementia, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Yn rhan o hyn, rydym wedi symud ymlaen i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia, fel yr addawyd yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Felly, roeddwn yn falch o lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn Llys Oldwell yng Nghaerdydd ym mis Ionawr eleni.
Ni ddylem fyth anghofio bod mwy o bobl yn byw'n hirach, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. A dementia yw un o'r heriau gofal iechyd mwyaf y mae ein cenhedlaeth ni yn ei wynebu. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Mae effaith dementia yn y gymdeithas yn ehangach o lawer pan fyddwn yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu. Y llynedd, cyhoeddasom nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â nhw, gan gynnwys darparu mwy na £8 miliwn o arian ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i’r bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Ac adeiladwyd ar y negeseuon hyn drwy gydol ein cynllun gweithredu drafft. Ond, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn briodol, mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu’n cael eu heffeithio, boed hynny’n bersonol neu’n broffesiynol, fel ein bod yn deall beth sydd bwysicaf i bobl. Mae'n rhaid i ni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt.
Mae'r safbwyntiau a’r profiadau a rannwyd gyda ni wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'r teulu, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol a phobl eraill â diddordeb. Gwnaed hyn mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer a Phrosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia, a adnabyddir hefyd fel DEEP. Mae dros 1,200 o bobl yr effeithir arnynt yn bersonol gan ddementia wedi cymryd rhan drwy gydol y cyfnod ymgynghori, a diolchwn i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.
Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fydd unrhyw ddau unigolyn sydd â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, ag anghenion sydd yn union yr un fath. Yr adborth ysgubol o’r ymgysylltiad a wnaed yw bod pobl yn dymuno i gymorth a gwasanaethau gael eu darparu gydag ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau, y dylai’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i wahanol anghenion ar wahanol gyfnodau o fyw gyda'r cyflwr, a bod y camau hynny’n dangos dull llwybr cyfan. Erbyn hyn, mae'r cynllun yn cefnogi'r dull hwn ac yn cynnwys nifer o themâu y mae angen eu gweithredu ymhellach yn ystod y pum mlynedd nesaf. Cafodd y themâu eu llywio gan adborth o’r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2016, pryd y cyfeiriwyd at ddementia, a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol, yn ogystal â thrwy adolygu strategaethau dementia perthnasol eraill. Mae'r themâu’n cynnwys: codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu ffrindiau dementia a chymunedau a sefydliadau sy’n cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol ac yn sensitif a bod pobl yn gallu cael asesiad a diagnosis yn brydlon; cymorth a thriniaeth cynnar i bobl â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn dilyn diagnosis; a bod mwy o gefnogaeth ar gael, boed hynny yng nghartref yr unigolyn, yn yr ysbyty, neu mewn cartref gofal.
Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ar 3 Ebrill a chawsom 119 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn, nifer o'r colegau brenhinol, a rhanddeiliaid allweddol megis Cyngor Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Alzheimer a DEEP. Mae'r ymatebion hyn, a’r adborth o'r digwyddiadau rhanddeiliaid, yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd i lywio'r adroddiad terfynol.
Darparodd yr ymatebwyr awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella’r cynllun terfynol, ac roedd yr awgrymiadau hynny’n cynnwys: cryfhau'r dull sy'n seiliedig ar hawliau drwy'r ddogfen gyfan; pwyslais pellach ar ddull ar draws y Llywodraeth i gynnwys trafnidiaeth, tai a chynllunio, yn ogystal ag agweddau ar iechyd a gofal cymdeithasol; tynnu sylw at bwysigrwydd proffesiynau meddygol cysylltiedig wrth gefnogi pobl â dementia a'u teuluoedd neu ofalwyr; pwyslais pellach a chamau gweithredu penodol o ran cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig; canolbwyntio mwy ar ddementia cynnar, gofal lliniarol, cymorth cymheiriaid a dulliau a arweinir gan y gymuned; mwy o gymorth i ofalwyr, gan gynnwys ychwanegu mesurau clir ar gyfer darpariaeth seibiant; a mwy o ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael eisoes, gan gynnwys hyrwyddo’r llinell gymorth dementia genedlaethol ymhellach. Wrth gwrs, roedd llawer o ymatebwyr hefyd eisiau gweld targed diagnosis mwy uchelgeisiol. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw hyn ac rwyf wedi cytuno y bydd y mater hwn yn parhau i gael ei adolygu.
Bydd y canfyddiadau o'r ymgynghoriad yn cael eu hymgorffori'n briodol yn y cynllun terfynol, ac yn cael eu cyflwyno gyda chynllun gweithredu manwl sy'n cynnwys camau gweithredu a thargedau mesuradwy i'w cyflawni yn ystod oes y cynllun. Yn dilyn darparu cyfoeth o arferion nodedig o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, byddwn hefyd yn cyhoeddi dogfen gryno sy'n tynnu sylw at enghreifftiau o arferion ar draws y llwybr fel ein bod yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd eisoes. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn greu Cymru sydd wirioneddol yn deall dementia a mynd i’r afael â phroblemau eraill, megis unigrwydd ac unigedd. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus eisoes wedi ein helpu i ddysgu o brofiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu cynllun gweithredu cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, rwy’n ffyddiog o hynny.
Ond nid wyf yn dymuno iddo orffen yn y fan honno. Rwy’n dymuno gweld y trydydd sector yn chwarae rhan fwy gweithredol yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu llunio a'u cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, a ddylai fod yn enghraifft wych o egwyddorion iechyd a gofal doeth ar waith. Rwy’n dymuno i ni fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â dementia a chael gwared ar yr ofn y gallai fod gan lawer trwy ddiffyg gwybodaeth. Gwyddom o'n hymgynghoriad bod cyfoeth o brosiectau cymunedol drwy’r wlad sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia a fydd yn helpu i leihau’r stigma. Rwy’n dymuno gweld mwy o gymunedau yng Nghymru yn dod i ddeall dementia ac yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bawb sydd ei angen.
Fy ngobaith i, felly, ar adeg yr adolygiad tair blynedd, yw y gallaf i, neu unigolyn cyfatebol—pwy bynnag sy'n darparu'r adroddiad—sefyll ar fy nhraed fel yr wyf i’n ei wneud yma heddiw a darlledu’r cynnydd a'r newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud tuag at wneud Cymru yn genedl sydd wirioneddol yn deall dementia. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed i gynhyrchu dogfen mor gynhwysfawr sy'n adlewyrchu lleisiau llawer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn sicr yn gwrando ar y cyfraniadau a wneir yn natganiad heddiw, cyn i ni gyhoeddi'r cynllun terfynol yn yr haf. Rwy’n awyddus i’r cynllun terfynol fod yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, ac y gallwn barhau i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i gefnogi cynlluniau a luniwyd neu hyd yn oed a arweiniwyd gan y rhai sy'n byw gyda dementia, naill ai’n uniongyrchol neu fel aelodau o'r teulu, ffrindiau neu ofalwyr, ac, fel y dywedwch, sefydliadau gwirfoddol eraill a'r rhai â diddordeb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Rydym yn sicr yn cefnogi'r dull a arweinir gan hawliau, ond roeddwn yn awyddus i bwyso arnoch, yn gyntaf oll, ynghylch cydbwysedd y mecanweithiau cyflawni y cyfeiriwyd atynt yn y cynllun drafft.
Nawr, mae’n ymddangos mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw’r rhan fwyaf o'r camau gweithredu allweddol arfaethedig, ac o ran ymyrraeth feddygol uniongyrchol, gallaf weld pam mai felly y byddai—diagnosis gweithwyr proffesiynol, cymorth seicolegol a fferyllol, a gofalu am unigolyn, efallai mewn cartref nyrsio neu leoliad meddygol arall lle y gallai fod yn derbyn cymorth ar draws nifer o gyd-afiachedd, ddywedwn ni. Ond gyda gwell diagnosis, mae mwy o gyfle, rwy’n credu, i gael cymorth nad yw'n feddygol, yn enwedig yn gynnar. Rwy'n credu bod gormod o bwyslais ar y bwrdd iechyd, os mynnwch chi, efallai bron â bod, i rai pobl, fel ildio i’r ffaith y byddant angen gofal meddygol. Hyd yn oed os bydd hynny’n wir yn nes ymlaen, yn sicr nid yw o reidrwydd yn wir ar y dechrau. Tybed a allai'r rhan gyntaf o’r llwybrau cymorth yr ydych chi’n cyfeirio atynt yn y fan hon fod yn ymwneud yn llai ag arweiniad y bwrdd iechyd a mwy am unigolion a phartneriaid eraill a allai fod yn well gyda’r dull cefnogi teuluoedd, emosiynol mewn ffordd, i bethau, yn hytrach na throi at y BILl am arweiniad drwy'r amser. Clywais yr hyn a ddywedasoch am y trydydd sector ac rwy’n cefnogi'r hyn yr ydych yn ei ddweud yn hynny o beth, mewn gwirionedd, ond mae'r syniad o gyd-gynhyrchu yn mynd y tu hwnt i’r trydydd sector hyd yn oed ac fe ddylem fod yn edrych, efallai, ychydig mwy at strwythurau cymunedol, sy'n cynnwys y teulu, wrth gwrs, neu ffrindiau, i helpu â'r camau cynnar hynny yn dilyn diagnosis.
Tybed a allwch chi ddweud wrthyf ychydig bach hefyd ynghylch sut bydd gweithiwr cymorth dementia yn edrych yn y dyfodol. Rwy’n gwerthfawrogi bod gennym eisoes rywfaint yn gweithio mewn nifer o sectorau ar hyn o bryd, ond mae'r cynllun yn cyfeirio at ymyrraeth arbenigol ar gyfer y rhai â dementia drwy alcohol neu’r rhai â dementia cynnar. A ydym ni am fod yn siarad am yr un gweithiwr cymorth dementia unigol, neu a ydym ni nawr yn sôn am amrywiaeth o weithwyr cefnogi dementia ar gyfer unigolyn? Rwy'n dyfalu mai’r ateb i hynny yw hyblygrwydd i ymateb yn uniongyrchol i anghenion unigolion penodol, ond byddwn yn gwerthfawrogi ychydig o arweiniad ynghylch pa un a fyddwn ni angen mwy o weithwyr cymorth ar gyfer dementia, a fydd angen sgiliau gwahanol ac, unwaith eto, pa un a fyddant o reidrwydd yn dod o’r tu mewn i’r sector iechyd.
Yn amlwg, mae llawer o waith wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac rwyf i’n sicr yn croesawu hynny, er nad wyf yn gwbl glir pwy fydd yn gyfrifol am hynny. Ond yr un mor bwysig, mae’n ymddangos bod llawer o waith wedi mynd i mewn i ymwybyddiaeth a hyfforddiant dementia o fewn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig. Mae gen i ddau gwestiwn ynglŷn â hynny.
Y cyntaf yw bod hyfforddiant ymwybyddiaeth gyffredinol ar lefel y boblogaeth yn golygu bod llawer ohonom yn fwy ymwybodol nag yr oeddem o'r blaen, ond rwy’n credu o hyd mai ychydig iawn ohonom fydd yn meddu ar yr hyder a'r wybodaeth i godi’r testun gyda chymydog neu rywun yr ydym yn ei weld yn rheolaidd yn y siop neu'r dafarn—rhywun sydd y tu allan i'n teulu agos ond sy’n dal o fewn ein cymuned—oherwydd nid pawb sy’n cael eu canfod drwy lwybrau proffesiynol, yn enwedig os ydynt yn byw ar eu pennau eu hunain. Tybed ai’r cynllun hwn yw'r lle i’n helpu, yn gyffredinol—hynny yw, aelodau o'r cyhoedd—i fod yn rhan o helpu, yn sicr â dementia cyfnod cynnar. Yna, yr ochr arall i hynny yw sut y gall hyfforddiant manylach gyrraedd gweithgareddau sy'n wynebu'r cyhoedd y tu allan i'r sector cyhoeddus—felly, lletygarwch, manwerthu, cludiant cyhoeddus—fel bod modd mewn gwirionedd i gyflawni’r hawliau yr oeddech chi’n sôn amdanynt. Rwy'n gwybod bod rhai enghreifftiau gwych o ddulliau gwirfoddol o fynd o gwmpas hyn, a buom yn siarad am Tesco yn cynnal ei ddiwrnod siopa araf, er enghraifft. Rwy'n credu bod mwy o le ar gyfer hynny.
Yna, yn olaf, mae’r cynllun drafft—ac rwy’n credu fy mod i’n dyfynnu eich araith yn y fan yma—yn dweud mwy o gymorth i ofalwyr, gan gynnwys 'mesurau clir ar gyfer darpariaeth seibiant' i ofalwyr. Rwy’n cytuno, ond dyma faes polisi lle mae’r geiriau 'seiliedig ar hawliau', math o beth, mewn llawer o achosion, yn ddim ond geiriau, ac nid yw adnabod anghenion o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn trosi’n gymorth gwirioneddol i ofalwyr—sylw yw hwn, ac nid beirniadaeth. Felly, fy nghwestiwn i am hynny yw: beth yw eich barn chi ynglŷn â sut y gallem i gyd weithio, mewn gwirionedd, i helpu i sicrhau hawliau i ofalwyr o ran seibiant, a hynny ar draws y sector a, chyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ar draws portffolio? Diolch.
Diolch am y gyfres yna o gwestiynau. Wrth gwrs, i fod yn glir iawn, mae gennym ymrwymiadau maniffesto cenedlaethol ynghylch gwella gofal seibiant i ofalwyr. Gallwch ddisgwyl i ni wneud cynnydd ar hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon. O ran eich pwynt cyffredinol ynghylch ymwybyddiaeth yn gyffredinol, sy’n hollol deg yn fy marn i, ar draws y sector cyhoeddus—. Mae'n rhywbeth yn ymwneud â’r hyn sy’n gymuned sy’n deall dementia yn gyffredinol, nid yw’n ymwneud yn unig â llond llaw o unigolion na dim ond am wasanaethau cyhoeddus, mae'n ymdrin â rhyngweithio gyda'r cyhoedd, ac mae hynny'n cynnwys unigolion a chwmnïau yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n cael ei gydnabod yn yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni wrth gael cymunedau sy’n deall dementia yn gyffredinol.
Gofynasoch bwynt penodol ynghylch sut bydd gweithiwr gofal neu weithiwr cymorth arbenigol yn edrych yn y dyfodol ac, wrth gwrs, rhywbeth i ni ei ddatblygu fydd hynny wrth ddeall anghenion unigolion a sut y gallwn ddeall sut yr ydym yn comisiynu ac yn darparu hynny mewn gwirionedd, boed hynny drwy'r sector statudol neu'r sector gwirfoddol. Enghreifftiau yw, er enghraifft, dealltwriaeth, sy’n cael ei datblygu trwy’r gwaith a wnaed yng Nghymru, o bobl, er enghraifft, â dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a beth allwn ni ei wneud i gefnogi'r bobl hynny mewn maes penodol ac arbennig yn ogystal. Felly, mae gwaith penodol yr ydym ni’n ei wneud i geisio deall sut y gallai ac y dylai hynny edrych.
Yna, wrth gwrs, rydym yn dod yn ôl at y cwestiwn ehangach o sut yr ydym yn comisiynu’r cymorth hwnnw a sut y caiff ei ddarparu wedyn yn ymarferol. Ac yma rwy'n credu bod hynny’n mynd yn ôl at eich nifer o gwestiynau agoriadol am y swyddogaeth ar gyfer y GIG a phwy fydd yn gyfrifol am gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn y cynllun. Wel, wrth gwrs, o safbwynt y Llywodraeth, petawn yn nodi bod yn rhaid i’r trydydd sector ymgymryd ag ystod o weithgareddau, mae'n anodd i unigolion yn y lle hwn, neu hyd yn oed y cyhoedd, ein dwyn i gyfrif am yr hyn y mae’r trydydd sector yn ei wneud neu ddim yn ei wneud o'i wirfodd. Mae yna rywbeth amdanom sy’n deall y cydbwysedd yn y cynllun gweithredu, a fydd yn nodi beth y gallai’r Llywodraeth, neu sefydliadau yn y Llywodraeth, yn rhesymol ddisgwyl cymryd cyfrifoldeb dros eu gwneud. Ond mae hefyd yn dod yn ôl at y pwynt bod hwn wedi’i lunio yn rhan o'r cyn-ymgynghoriad o fewn y sector a gydag unigolion. Felly, mae llawer o'r hyn a welwch yma yn dod yn uniongyrchol gan y sefydliadau a’r unigolion hynny a ddywedodd, ‘Dyma beth yr ydym ni’n dymuno ei weld'. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n dangos ein bod wedi gwrando o ddifrif ar yr hyn yr oedd gan bobl i’w ddweud, ond maen nhw’n cydnabod, hefyd, bod angen darparu’r cydbwysedd hwn mewn cymorth anfeddygol, a chael hynny’n iawn yn y dyfodol.
Felly, mae'n ymwneud â’r comisiynu a dealltwriaeth o’r anghenion yn y lle cyntaf. Unwaith eto, fe welwch y broses honno’n digwydd o fewn y bensaernïaeth a luniwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol a’r Ddeddf llesiant, ond fe welwch hynny wrth i ni fynd ymlaen i gyflawni hyn. Fel y dywedais yn fy araith, mae dull ar draws y Llywodraeth sy’n angenrheidiol i wneud hynny, ond hefyd dull y tu allan i'r Llywodraeth, i lywodraeth leol, i'r trydydd sector, ac, wrth gwrs, fel y soniasoch yn gywir, unigolion a chymunedau.
Mae’n braf gallu nodi ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia. Rwy’n llongyfarch pawb sy’n ymwneud â gweithgareddau’r wythnos yma. Mi oedd hi’n braf gweld ein cyfeillion ni o Gymdeithas Alzheimer Cymru yma yn y Cynulliad heddiw, ac, wrth gwrs, mae yna ddigwyddiadau yn digwydd ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi cael e-bost y prynhawn yma yn tynnu sylw at ddigwyddiad yn neuadd y dre, Llangefni, rhwng 10 a.m. a 4 p.m. ddydd Iau. Mae hyn yn grêt—mae pobl yn siarad am ddementia, ond nid dim ond codi ymwybyddiaeth am ddementia sydd ei eisiau. Mae mwy a mwy o bobl yn dod i ddeall ac ymwneud â phobl sydd â dementia, ond beth sydd ei eisiau yw codi ymwybyddiaeth mwy a fwy o’r diffygion sydd yna yn y gofal i gleifion sydd â dementia, ac yn y gynhaliaeth i’w teuluoedd a’u gofalwyr nhw.
Mi fyddwn i yma yn dymuno talu teyrnged i Beti George, sydd wedi gwneud cymaint i hoelio’n sylw i ar y materion yma. Rhannodd Beti ei hanes hi yn gofalu am ei phartner, David Parry-Jones, mewn rhaglen ryfeddol o deimladwy ar y BBC yn ddiweddar—‘Lost for Words’. Yn drist iawn, mi gollodd Beti David fis diwethaf. Rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yma’n cydymdeimlo â Beti, ond mae’n rhaid inni i gyd ymrwymo i beidio â llacio ein penderfynoldeb ni i gael strategaeth sydd wirioneddol yn ceisio creu Cymru sy’n falch o fod yn gallu dweud, ‘Ydym, rydym yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer dioddefwyr dementia a’u teuluoedd’.
We are on a path that could lead us to being a nation that is dementia friendly—genuinely—which is able to say that we care always to the best of our ability for those with dementia, and give support to their carers and families. We have a strategy that is being created, and a strategy that can, as I say, be something that genuinely allows Wales to put its stamp on this matter that is such a painful part of so many people’s lives. But it does mean, of course, responding to the consultation, as we have done in the Health, Social Care and Sports Committee. We’ve considered ourselves, through the work that we’ve done, to be a key stakeholder in the work of creating that strategy that we all need.
Three questions: you said that the consultation findings will be incorporated into the final plan. Does this mean that you accept that the fall in the number of nights of respite care needs to be halted and reversed? Because that is something that’s come through very clear, certainly to us as a committee, in responding to the initial consultation document.
You’ve also highlighted the importance of the third sector, but this is a bit of a stuck record. The funding arrangements here are not particularly conducive to long-term service planning and retention of the best staff. So, what changes will you be requiring local authorities to make in commissioning services so that long-term planning can take place?
And finally, a very specific issue, and one of interest to me—we know that learning another language can help to prevent dementia. What actions are the Government taking to ensure that people understand this and have the opportunity to learn another language—it could be Welsh or it could be another language?
Diolch. I fod yn onest, nid wyf yn credu y byddwn yn sôn yn y strategaeth am y cyfle i ddysgu iaith arall yn benodol, ond mae ystod o weithgareddau yr ydym yn deall y gall pobl eu gwneud i helpu i leihau eu risg o gaffael dementia neu i oedi ei gychwyniad, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau ac unigolion i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hynny, a, gobeithio, i annog pobl i gymryd perchnogaeth o'r dewisiadau y gallent ac y dylent eu gwneud drostynt eu hunain.
Rwy'n glir iawn y byddwn yn ystyried yr ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr adroddiad y mae'r pwyllgor wedi’i ddarparu a byddwn yn ystyried yr hyn a ddywedir yn nhrafodaethau heddiw. Fel mewn unrhyw ymgynghoriad, bydd gennym ystod o syniadau y gallem ac y dylem eu cymryd i ystyriaeth a gwneud rhywbeth â nhw. Bydd rhannau hefyd nad oes modd i ni eu gwneud, ond mae’n rhaid cael rhywfaint o onestrwydd i ddweud, 'Mae hwn yn ymarfer ystyrlon'. Rwy’n credu y bydd yr Aelodau ac, yn wir, y rhanddeiliaid yn gweld sut y maen nhw wedi cael dylanwad ar y cynllun terfynol pan gaiff ei gyhoeddi.
Unwaith eto, rwy’n clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud, gennych chi a Suzy Davies, ar seibiant i ofalwyr, ac rwy'n glir iawn bod hwn yn ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth ei hun ynghylch gwella faint o ofal seibiant sydd ar gael.
O ran eich pwynt ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yn y tymor hwy, mae angen rhywfaint o onestrwydd ynghylch hyn ymhlith pobl yn y Siambr hon, waeth beth yw ein cefndir pleidiol. Pan fydd gan awdurdodau lleol gyllidebau blynyddol i gynllunio ar eu cyfer a’u rheoli, pan nad ydym yn gwybod maint y toriadau sy'n ein hwynebu a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran cynllunio cyllidebau ar gyfer ein hunain, heb sôn am actorion ac asiantau eraill yn y wlad, mae'n anodd iawn dweud wedyn, 'Rydym ni angen rhywun arall i gynllunio ar sail tymor hwy o lawer.'
Y gwir anorfod yw bod y sefyllfa’n ddeinamig, oherwydd nad ydym yn gwybod beth yr ydym am ei gael yn y lle hwn i fynd ati i’w rannu wedyn a’i drosglwyddo i actorion ac asiantau y tu allan i’r fan hon, ond fe ddylai cael strategaeth a siâp ar gyfer yr hyn yr ydym yn dymuno’i gyflawni helpu wrth fframio sut y mae'r penderfyniadau comisiynu hynny’n cael eu gwneud, lle maen nhw'n cael eu gwneud yn unigol gan awdurdodau lleol, o ba bynnag arweinyddiaeth wleidyddol—mae hyn yn her ar draws y wlad; nid yw ddim ond ar gyfer eich plaid chi, fi nac unrhyw un arall—mae'n cynnwys pob plaid a chynrychiolydd annibynnol sy'n rhedeg llywodraeth leol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn her i fyrddau iechyd i weithio gyda'u partneriaid yn ogystal wrth geisio penderfynu sut maen nhw’n diwallu’n briodol y cynllun gweithredu a'r pwyslais a'r sylw y bydd gennym gydag ef. Felly, mae yna bwynt gonest yn y fan yna, er fy mod yn credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn hoffi gweld y gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio ar sail tymor hwy o lawer, yn gyson â'r strategaeth a chael mesurau canlyniad real a chyraeddadwy. Byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn ac y dylem ei wneud wrth gynllunio strategaeth i helpu â'r defnydd gorau o'r adnoddau hynny.
Gwych oedd mynd i Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia heddiw —digwyddiad y tu allan i'r Senedd. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl sy’n deall dementia yn un yr ydym ni i gyd yn ei rhannu. Erbyn hyn, dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac fe ddisgwylir i nifer y bobl yr effeithir arnynt gan ddementia gynyddu gan oddeutu 40 y cant yn ystod y degawd nesaf.
Mae'n bwysig ein bod ni’n mabwysiadu dull cyfan, sy'n golygu gwrando ar bobl â dementia ynghylch eu hanghenion a barn aelodau o'r teulu, gweithwyr proffesiynol a gofalwyr. Felly, mae'n galonogol gweld y bu llawer o gydweithrediad â’r Gymdeithas Alzheimer a'r tîm prosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia. Dim ond drwy gasglu gwybodaeth, ac mae'n rhaid i hynny fod yn barhaus, y gallwn ni gyrraedd pobl ag anghenion mor unigol.
O ran y strategaeth ddementia ddrafft ei hun, mae gennyf ychydig o gwestiynau yn ymwneud â'r mesurau perfformiad lefel uchel. Rydych chi wedi gosod targed o sicrhau bod dwy ran o dair o ddioddefwyr dementia yn cael diagnosis ffurfiol. A allwch chi ddweud wrthyf i pryd y bydd yn bosibl i ni weld bod y targed hwn yn realistig ac, yn wir, a ydym am fod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwn?
Mae'r strategaeth yn gosod targed ar gyfer y ganran o staff y GIG sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd i gael eu hyfforddi mewn gofal dementia hefyd. Y targed yw tri chwarter y gweithlu erbyn 2019, a hoffwn ofyn pryd y gallwn ddisgwyl gweld 100 y cant o staff y GIG yn cael eu hyfforddi ar y lefel briodol o ofal dementia.
Mae Llywodraeth Cymru yn hollol iawn i ddymuno gweld gostyngiad yn y ganran o bobl â dementia sy'n cael presgripsiwn am feddyginiaeth gwrth-seicotig. Fodd bynnag, nid ydych chi wedi nodi targed ar gyfer y gostyngiad hwnnw, ac, yn ddigon teg, efallai y bydd rhai achosion lle bo hyn yn angenrheidiol, ond mae pob un o'r arbenigwyr yn cytuno na ddylem fod yn defnyddio’r meddyginiaethau hyn i drin dementia. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n defnyddio canllawiau i sicrhau bod meddyginiaeth gwrth-seicotig ond yn cael ei defnyddio pan fo angen gwirioneddol?
Rydych chi wedi amlygu’n flaenorol y gall dementia ddod ar unrhyw oed ac, yn wir, y rhan y gall alcohol ei chwarae. Mae angen i ni addysgu'r cyhoedd yn well ynghylch peryglon dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a niwed i'r ymennydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y ffaith y gall camddefnyddio alcohol arwain at ddementia? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i wella’r cyfleoedd i ddefnyddio clinigau camddefnyddio sylweddau, fel y gallwn, gobeithio, atal mwy o bobl rhag datblygu dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn y dyfodol?
Mae dementia yn un o'r heriau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac felly, mae’n hanfodol ein bod yn cael y strategaeth hon yn iawn. Edrychaf ymlaen at weld a gweithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i rannu ein nod cyffredin o genedl sy’n deall dementia. Diolch.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Mi ddechreuaf i â’ch pwynt am y targed diagnosis. Mae'r drafft yn nodi ei fod ar gyfer oes y cynllun. Nodais yn fy sylwadau agoriadol ei fod yn rhywbeth yr wyf yn fodlon parhau i’w adolygu, gan fy mod yn gwybod bod nifer o actorion a rhanddeiliaid yn dymuno cael targed mwy uchelgeisiol, ond rwy'n benderfynol bod gennym darged heriol ond gonest. Nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol gosod targed uchelgeisiol na ellir ei gyflawni yn ystod oes y cynllun. Rwy’n dymuno cael rhywbeth sy'n real ac yn gyraeddadwy, ond fel y dywedais, sy’n heriol, ac yn cydnabod yr angen i wella ymhellach. Mae hynny'n fy helpu i i ymdrin â'ch pwynt ynghylch nifer y staff sy’n derbyn hyfforddiant. Rydym wedi gosod targed eisoes yr ydym yn credu sy’n un heriol. Yr hyn na fyddaf i’n ei wneud heddiw, i fynd â fi drwy ddadl, yw dewis ffigwr o’r awyr o '100 y cant o staff' neu 'bydd y nifer uchaf posibl o staff, felly, wedi eu hyfforddi'. Ond, eto, mae'n rhywbeth i ni ei adolygu a’i ystyried wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen, ac wrth i ni wneud cynnydd gwirioneddol trwy gydol oes y cynllun hwn tuag at gyflawni ein nodau a'n hamcanion.
Mae'r un peth yn wir am gyffuriau gwrth-seicotig. Rydym yn hyderus bod angen newid a herio’r ffordd y mae ymddygiad rhoi presgripsiynau yn digwydd. Mae gan bob clinigydd unigol gyfrifoldeb am y farn sydd ganddynt a'r gofal y maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer unigolyn o fewn ei gyd-destun. Rydym yn dymuno gweld eglurder o ran y gallu i leihau rhagnodi cyffuriau gwrth-seicotig yn amhriodol. Ond nid wyf am ddweud heddiw y bydd unrhyw dargedau penodol yn cael eu gosod. Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei ystyried wrth lunio a dod i gasgliad terfynol yn y cynllun gweithredu. Unwaith eto, fe ddywedais i fod heddiw, o leiaf yn rhannol, yn ymarfer gwrando ar gyfer yr Aelodau ynghylch yr hyn y bydd gennym mewn gwirionedd yn y cynllun terfynol, i ystyried pa un a fydd targed yn ddefnyddiol—a fydd yn mynd â ni i bwynt lle’r ydym yn dymuno bod—ac yna sut y gallwn fesur yn briodol y cynnydd yr ydym yn ei wneud neu nad ydym yn ei wneud ar gael ymarferwyr clinigol i wneud gwahanol benderfyniadau.
Yna, eich pwynt olaf ynghylch atal camddefnyddio sylweddau ac adferiad. Fe wyddoch fod Rebecca Evans yn arwain ar bolisi camddefnyddio sylweddau a chamau gweithredu ar gyfer y Llywodraeth. Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y maes hwn er gwaethaf y gostyngiadau yn y gyllideb gyffredinol. Mae hynny ynddo'i hun yn arwydd o’r realiti ein bod yn cydnabod bod hwn yn faes hynod o bwysig, nid yn unig o ran lleihau dementia. Rwy'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed ar ddechrau’r ddadl hon am y cynnydd mewn dementia yr ydym yn gwybod ein bod yn ei wynebu fel gwlad. Mae rhan o hynny yn gysylltiedig ag oedran, ond mae llawer ohono'n gysylltiedig ag ymddygiad hefyd. Mae pob un ohonom yn gwybod ein bod yn gwneud dewisiadau drosom ein hunain sydd â chanlyniad posibl. Gwyddom o astudiaeth Caerffili, a gynhaliwyd dros gyfnod sylweddol o amser ar bobl yn byw yn yr un math o gymunedau yng Nghymru, bod gwneud dewisiadau gwahanol ar y prif ymddygiadau a phenderfynyddion canlyniadau iachach—ar ysmygu, alcohol, deiet ac ymarfer corff—yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar ordewdra fel y gwnaethom ddarganfod yn gynharach, ac a fydd yn cael ei drafod yn nes ymlaen heddiw pryd yr wyf yn gobeithio y byddwn yn pasio Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ond hefyd mewn ystod eang o feysydd eraill. Mae effaith sylweddol o’r dewisiadau a wnawn. Bydd gwneud dewisiadau gwahanol yn well i ni yn y presennol ac nid yn unig ar gyfer ein dyfodol. Mae'n un o'n heriau mawr fel cenedl: pa un a allwn ni benderfynu ar y cyd y byddwn yn gwneud dewisiadau iachach ar gyfer ein hunain ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod falch ein bod yn cael y cyfle hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia i wrando unwaith eto ar farn yr Aelodau. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd amser i ystyried ymgynghoriad sydd wedi cael ymateb da. Rwy'n credu mai’r ymagwedd hollol gywir yw cael y strategaeth hon yn iawn, er y byddwn yn ychwanegu fy mod yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod gennym ar ddiwedd y broses hon strategaeth sy’n ddigon uchelgeisiol i ddiwallu maint yr her yr ydym yn ei hwynebu gyda dementia yng Nghymru.
Croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am y pwyslais cryf ar ddull seiliedig ar hawliau, sydd yn fy marn i wedi dod o fewnbwn rhagorol y prosiect ymgysylltu a grymuso dementia, ac rwy’n achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r bobl sy'n byw gyda dementia yr wyf yn gwybod sydd wir wedi gweddnewid gwaith Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau penodol. Mae’r cyntaf ar gyfraddau diagnosis, a chlywais yr hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y pwynt na fyddai 50 y cant yn ddigon ar gyfer clefyd fel canser, ac ni ddylai fod yn ddigon ar gyfer pobl â dementia. Rwy’n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am yr angen i fod yn realistig, ond hoffwn weld y gwaith yr ydych yn ei wneud i barhau i adolygu hyn â’r nod o darged diagnosis mwy uchelgeisiol. Byddai gennyf hefyd ddiddordeb mewn cael gwybod yn eich ymateb heddiw i ba raddau y mae cyfraddau diagnosis wedi dod i’r amlwg fel problem yn yr ymgynghoriad hwn, gan fy mod yn gwybod ei fod yn ymateb y pwyllgor iechyd, roedd yn sicr yn fy ymateb i ar ran y grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n amau ei fod yn y mwyafrif helaeth o'r ymatebion, bod pobl yn dymuno i’r uchelgais hwnnw fod yno ar gyfer cael targed gwell o ran cyfradd diagnosis.
Mae sawl un wedi crybwyll y mater gweithwyr cymorth. Fy mhryder i’n benodol, fel y bu drwy’r adeg, yw y bydd angen mwy ohonyn nhw nag y mae'r cynllun yn ei gynnig. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut y mae eich syniadau’n datblygu yn gysylltiedig â hynny, gan nad yw'r 32 a nodwyd ar hyn o bryd am fod yn ddigon, a hoffwn wybod a ydych chi’n ailasesu hynny.
Byddwch yn ymwybodol—ac rwy'n ddiolchgar i chi am ddod i'r grŵp trawsbleidiol i siarad â ni ac i siarad â phobl sy'n byw gyda dementia—bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn fater pwysig iawn a ddaeth allan o'r cyfarfod hwnnw, ac rwy'n falch bod hynny wedi’i nodi yn y datganiad. Byddwn yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut mae eich syniadau’n datblygu yn gysylltiedig â hynny.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am ailafael yn y materion a godais i yn dilyn y grŵp trawsbleidiol ynghylch y gymuned Sipsiwn / Teithwyr, a’ch cydnabyddiaeth na wnaed digon o waith i ganfod anghenion y gymuned honno o ran dementia. Felly, hoffwn ofyn sut mae’r gwaith hwnnw wedi dod yn ei flaen, am fy mod yn gwybod eich bod yn bwriadu ymgynghori ymhellach â'r gymuned honno.
Ac yn olaf gair bach i ddweud fy mod i heddiw wedi bod i fyny yn Big Pit yn fy etholaeth i, yn lansiad y daith dan ddaear sy’n addas i bobl â dementia, ac rwy'n siŵr y byddech chi’n dymuno ymuno â mi i longyfarch Big Pit ac Amgueddfa Cymru ar fenter ragorol sy’n torri tir newydd. Ond a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn eich tyb chi fydd swyddogaeth y Llywodraeth bellach o ran gwneud yn siŵr bod yr holl arferion da yr ydym yn eu gweld, o ganlyniad i waith caled iawn mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru—ac mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud allan yna—yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru? Diolch.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Rwy'n falch o glywed eich bod yn cydnabod y dylem ei gael yn iawn eleni, a gyda digon o uchelgais dyna’n union yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni.
Hoffwn ymdrin â'ch pwynt am ofal diwedd oes a'r cysylltiad â hynny. Yn y datganiad blaenorol, cawsom gwestiwn gan Julie Morgan am ofal diwedd oes a'r cysylltiad o ran yr angen i wella gofal diwedd oes i bobl sy'n byw gyda dementia hefyd. A'r pwyntiau am gynllunio gofal ymlaen llaw: mae angen i chi gael y sgwrs honno’n ddigon buan fel bod pobl yn gwneud dewisiadau gweithredol, yn hytrach na chael rhywun yn gwneud y dewisiadau drostynt, ac mae’n rhaid i bobl ddychmygu beth y gallai neu y byddai rhywun wedi’i ddymuno. Mae honno’n sefyllfa anodd iawn i roi pobl ynddi.
Ac rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud yn gyson am weithwyr cymorth, ynghylch deall yr angen, ynghylch deall y meysydd y gellir eu defnyddio ac ynghylch yr adnoddau. Rydym eisoes wedi ymrwymo adnoddau sylweddol hyd yma, ond mae'r dewisiadau gwahanol y byddwn yn dewis eu gwneud, ar ôl cael penderfyniad strategol am y cynllun gweithredu, ac yna gwneud yn siŵr bod adnoddau'n cyd-fynd â hwnnw i gyflawni ar y nodau a'r amcanion.
Unwaith eto, rwy’n cydnabod eich bod chi wedi bod yn gyson iawn am gyfraddau diagnosis. Roedd yn fater arwyddocaol yn yr ymgynghoriad. Ceisiais gydnabod hynny yn fy natganiad agoriadol. Mae'n bwysig, unwaith eto, fod gennym darged uchelgeisiol a heriol, ond un sy’n realistig. Rwy’n dymuno gweld gwelliant gwirioneddol yn digwydd ac nid wyf yn dymuno gweld esgusion am beidio â chyflawni targed. Mae'n rhaid i ni gael rhywbeth a all herio, ond hefyd a all gael ei gyflawni. Mae'n rhywbeth sy’n ymwneud nid yn unig â’r diagnosis sy’n digwydd a'r cymorth a’r hyfforddiant ychwanegol y mae pobl eu hangen i wneud y diagnosis, ond hefyd â sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd y diagnosis wedi’i wneud hefyd. Gwn fod hynny’n fater a godwyd yn y cyfarfod gyda'r grŵp trawsbleidiol y bûm i ynddo.
Ac yn olaf, dau bwynt. Rwy'n teimlo bod y cysylltiad â'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia wedi bod yn ymarfer pwysig iawn, cyn lansiad yr ymgynghoriad—y cyn-ymgynghoriad—ac yn ystod yr ymgynghoriad hefyd. Mae'n bwysig iawn, os ydym am siarad am gyd-gynhyrchu a bod y dinesydd yn bartner cyfartal yn ei ofal iechyd, bod ystyr i hynny o ran y ffordd yr ydym yn dylunio polisi hefyd. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â chael eiriolwyr proffesiynol yn siarad ar ran pobl â dementia. Mae pobl sy'n byw’n uniongyrchol gyda dementia eu hunain wedi bod yn rhan bwysig o’r cynllunio a chyflawni hyd yn hyn a byddant yn parhau i fod wedyn wrth ddarparu’r gwasanaethau.
Ac yn olaf, rwy’n cydnabod bod angen cyflwyno arfer da. Dyna pam y bydd gennym ddogfen gryno i fynd gyda hwn er mwyn deall beth sy’n digwydd eisoes a lle mae arfer da yn bodoli, fel bod pobl eraill yn gallu edrych ar sut a pham y mae hynny'n cael ei greu. Mae her bob amser i weld a yw arferion da yn teithio mewn gwirionedd ac y gellir eu cyflwyno ar draws y system. Pa mor aml y mae arfer da wir yn ymwneud â chyfres o amgylchiadau mewn ardal a grŵp o unigolion ysbrydoledig sy'n dod at ei gilydd ar hap a damwain, yn hytrach na thrwy gynllunio'r ffordd y dylai'r system gyfan weithio? Ond i ddeall sut y mae hynny’n edrych fel bod gwell gobaith i hynny ddigwydd mewn gwirionedd.
Yn olaf, i longyfarch Big Pit ar y daith sy’n addas i bobl â dementia. Byddwn wedi bod wrth fy modd o gael ymuno â chi y bore yma ar y daith. Cefais un o fy niwrnodau gorau allan yn yr amgueddfa genedlaethol yn Big Pit gyda’m tad-yng-nghyfraith. Mae'n brofiad gwych, ac mae gwneud yn siŵr bod yna daith sy’n addas i bobl â dementia erbyn hyn yn gam mawr ymlaen.
Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym oherwydd ymdriniwyd â’r rhan fwyaf ohonynt. O ran lleihau’r risg, rwy'n credu bod y chwe phwynt a 'Law yn Llaw at Gymru sy’n Deall Dementia’ yn gwbl hanfodol, a tybed beth arall y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i roi cyhoeddusrwydd i’r camau hynny. Rwy’n teimlo, yn amlwg, mai’r un pwysig iawn yw rhoi cynnig ar bethau newydd—cyflwynodd Rhun ap Iorwerth y syniad o ddysgu iaith, yr iaith Gymraeg—ac roeddwn i eisiau tynnu sylw, rwy’n credu mod i wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen, at ganu ar gyfer pobl â dementia a'r Forget-me-Not Chorus, sy'n cwmpasu Caerdydd, y Fro a Chasnewydd ac sy'n weithgaredd mor ysbrydoledig sy'n cynnwys pobl â dementia ac, wrth gwrs, eu gofalwyr hefyd. Felly, tybed a oedd unrhyw gynlluniau i annog a chefnogi gweithgareddau o’r fath, sydd y tu allan i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl. Credaf ei fod yn cael ei wneud ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, hynny yw y gweithgaredd penodol hwnnw.
Rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi rhoi cymaint o bwyslais ar godi ymwybyddiaeth. Credaf ei bod yn bwysig iawn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ar gyfer yr unigolion a chyrff cyhoeddus, ond cwmnïau preifat hefyd. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi gweld beth mae Nwy Prydain yn ei wneud ynglŷn â hyn, cwmni sy’n gwneud ei orau glas i fod yn sefydliad sy’n deall dementia. Mae wedi cael ei lethu gan gynigion gan staff i fod yn eiriolwyr dementia. Rwy'n credu mai ei nod oedd cael 15 ond cafwyd 50 ar unwaith. Nawr mae eu peirianwyr yn cael hyfforddiant, sy'n golygu pan fyddant yn mynd i mewn i gartrefi pobl eu bod yn ymwybodol o'r holl faterion sy'n gysylltiedig â dementia. Rwy'n credu bod yna waith mawr i'w wneud yn hynny o beth, y tu hwnt i'r mannau lle mae gennym ein ysgogwyr naturiol o fewn y sector cyhoeddus. Nid wyf yn gwybod a oedd ganddo unrhyw fwriad i edrych ar hynny.
Rydych chi wedi cynnwys gofal diwedd oes yn eich ymateb i Lynne Neagle, ond roeddwn i eisiau ailadrodd fy nghefnogaeth at yr hyn a ddywedodd Lynne Neagle am anghenion penodol y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae ganddynt gyfradd marwolaeth gynnar iawn o'i chymharu â gweddill y cyhoedd, ac rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig mynd i'r afael â’r anghenion penodol sy’n gysylltiedig â’r strategaeth dementia.
Diolch. Roeddwn i ar fai drwy beidio ag ymateb i bwynt Lynne Neagle am y gymuned Sipsiwn / Teithwyr. Mae'n werth cymryd hynny i ystyriaeth a meddwl sut y gellid mynd â hynny yn ei flaen—angen cydnabyddedig nad yw’n cael y sylw iawn. Yn un o ddigwyddiadau blaenorol y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr fe wnes i gydnabod yn arbennig, gyda'r gwaith ymchwil a gyhoeddwyd, bod diffygion parhaus o hyd yn ein gallu i gynnig darpariaeth iechyd a gofal digonol gyda’r gymuned arbennig honno. Dim ond rhywfaint o hynny sy’n ymwneud â'r rhwystrau diwylliannol sy'n bodoli. Mae llawer ohono mewn gwirionedd ynghylch parodrwydd gwasanaethau i ymgysylltu'n briodol ac yn effeithiol. Rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu sylw at enghraifft Nwy Prydain. Cyfeiriwyd at gwmnïau eraill heddiw, lle mae codi ymwybyddiaeth yn digwydd yn uniongyrchol gyda staff, ac ynghylch pobl yn deall drostynt eu hunain, ac, o fewn y grŵp staff mawr hwnnw, y bydd pobl yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Ac yn aml mae ymateb hael pan fydd y mater yn cael ei drafod a'i ddadlau mewn grwpiau o bobl. Ein her fydd pa mor llwyddiannus y byddwn ni o ran cael mwy a mwy o sefydliadau i ymgymryd â'r math honno o ymagwedd.
Rwy’n cydnabod bod amser wedi mynd ymlaen ac rwyf am geisio bod yn gryno wrth ateb gweddill eich pwyntiau. Rwy'n falch eich bod, yn gynharach, wedi cyfeirio at y pwynt o roi cynnig ar rywbeth gwahanol. I rai pobl, mae gwneud rhywbeth gwahanol, fel canu, yn rhan bwysig o hynny, ond mae'n mynd ymlaen i'r ail bwynt o wneud rhywbeth i brocio a chadw'r cof ac, yn aml, mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o sbarduno a chadw cof. A’r atgofion eraill hefyd, fel yr Atgofion Chwaraeon yr oedd Lesley Griffiths yn eu hyrwyddo yn gynharach eleni, hefyd—enghraifft bwysig iawn o ddeall yr hyn sydd wedi rhoi ystyr i fywyd a mwynhad rhywun, hefyd. Felly, mae yna lawer iawn o wahanol feysydd yr ydym yn dymuno rhoi cynnig ar eu hyrwyddo, ac, eto, gan feddwl am yr arfer da hwnnw, lle mae'n bodoli. Yn aml, mae’n hawdd gwneud llawer o hynny heb fod angen llawer iawn o arian; mae yn gofyn am rywfaint o amser a dealltwriaeth.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.