Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch. I fod yn onest, nid wyf yn credu y byddwn yn sôn yn y strategaeth am y cyfle i ddysgu iaith arall yn benodol, ond mae ystod o weithgareddau yr ydym yn deall y gall pobl eu gwneud i helpu i leihau eu risg o gaffael dementia neu i oedi ei gychwyniad, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau ac unigolion i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hynny, a, gobeithio, i annog pobl i gymryd perchnogaeth o'r dewisiadau y gallent ac y dylent eu gwneud drostynt eu hunain.
Rwy'n glir iawn y byddwn yn ystyried yr ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr adroddiad y mae'r pwyllgor wedi’i ddarparu a byddwn yn ystyried yr hyn a ddywedir yn nhrafodaethau heddiw. Fel mewn unrhyw ymgynghoriad, bydd gennym ystod o syniadau y gallem ac y dylem eu cymryd i ystyriaeth a gwneud rhywbeth â nhw. Bydd rhannau hefyd nad oes modd i ni eu gwneud, ond mae’n rhaid cael rhywfaint o onestrwydd i ddweud, 'Mae hwn yn ymarfer ystyrlon'. Rwy’n credu y bydd yr Aelodau ac, yn wir, y rhanddeiliaid yn gweld sut y maen nhw wedi cael dylanwad ar y cynllun terfynol pan gaiff ei gyhoeddi.
Unwaith eto, rwy’n clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud, gennych chi a Suzy Davies, ar seibiant i ofalwyr, ac rwy'n glir iawn bod hwn yn ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth ei hun ynghylch gwella faint o ofal seibiant sydd ar gael.
O ran eich pwynt ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yn y tymor hwy, mae angen rhywfaint o onestrwydd ynghylch hyn ymhlith pobl yn y Siambr hon, waeth beth yw ein cefndir pleidiol. Pan fydd gan awdurdodau lleol gyllidebau blynyddol i gynllunio ar eu cyfer a’u rheoli, pan nad ydym yn gwybod maint y toriadau sy'n ein hwynebu a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran cynllunio cyllidebau ar gyfer ein hunain, heb sôn am actorion ac asiantau eraill yn y wlad, mae'n anodd iawn dweud wedyn, 'Rydym ni angen rhywun arall i gynllunio ar sail tymor hwy o lawer.'