Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 16 Mai 2017.
Y gwir anorfod yw bod y sefyllfa’n ddeinamig, oherwydd nad ydym yn gwybod beth yr ydym am ei gael yn y lle hwn i fynd ati i’w rannu wedyn a’i drosglwyddo i actorion ac asiantau y tu allan i’r fan hon, ond fe ddylai cael strategaeth a siâp ar gyfer yr hyn yr ydym yn dymuno’i gyflawni helpu wrth fframio sut y mae'r penderfyniadau comisiynu hynny’n cael eu gwneud, lle maen nhw'n cael eu gwneud yn unigol gan awdurdodau lleol, o ba bynnag arweinyddiaeth wleidyddol—mae hyn yn her ar draws y wlad; nid yw ddim ond ar gyfer eich plaid chi, fi nac unrhyw un arall—mae'n cynnwys pob plaid a chynrychiolydd annibynnol sy'n rhedeg llywodraeth leol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn her i fyrddau iechyd i weithio gyda'u partneriaid yn ogystal wrth geisio penderfynu sut maen nhw’n diwallu’n briodol y cynllun gweithredu a'r pwyslais a'r sylw y bydd gennym gydag ef. Felly, mae yna bwynt gonest yn y fan yna, er fy mod yn credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn hoffi gweld y gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio ar sail tymor hwy o lawer, yn gyson â'r strategaeth a chael mesurau canlyniad real a chyraeddadwy. Byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn ac y dylem ei wneud wrth gynllunio strategaeth i helpu â'r defnydd gorau o'r adnoddau hynny.