Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Rwy'n falch o glywed eich bod yn cydnabod y dylem ei gael yn iawn eleni, a gyda digon o uchelgais dyna’n union yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni.
Hoffwn ymdrin â'ch pwynt am ofal diwedd oes a'r cysylltiad â hynny. Yn y datganiad blaenorol, cawsom gwestiwn gan Julie Morgan am ofal diwedd oes a'r cysylltiad o ran yr angen i wella gofal diwedd oes i bobl sy'n byw gyda dementia hefyd. A'r pwyntiau am gynllunio gofal ymlaen llaw: mae angen i chi gael y sgwrs honno’n ddigon buan fel bod pobl yn gwneud dewisiadau gweithredol, yn hytrach na chael rhywun yn gwneud y dewisiadau drostynt, ac mae’n rhaid i bobl ddychmygu beth y gallai neu y byddai rhywun wedi’i ddymuno. Mae honno’n sefyllfa anodd iawn i roi pobl ynddi.
Ac rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud yn gyson am weithwyr cymorth, ynghylch deall yr angen, ynghylch deall y meysydd y gellir eu defnyddio ac ynghylch yr adnoddau. Rydym eisoes wedi ymrwymo adnoddau sylweddol hyd yma, ond mae'r dewisiadau gwahanol y byddwn yn dewis eu gwneud, ar ôl cael penderfyniad strategol am y cynllun gweithredu, ac yna gwneud yn siŵr bod adnoddau'n cyd-fynd â hwnnw i gyflawni ar y nodau a'r amcanion.
Unwaith eto, rwy’n cydnabod eich bod chi wedi bod yn gyson iawn am gyfraddau diagnosis. Roedd yn fater arwyddocaol yn yr ymgynghoriad. Ceisiais gydnabod hynny yn fy natganiad agoriadol. Mae'n bwysig, unwaith eto, fod gennym darged uchelgeisiol a heriol, ond un sy’n realistig. Rwy’n dymuno gweld gwelliant gwirioneddol yn digwydd ac nid wyf yn dymuno gweld esgusion am beidio â chyflawni targed. Mae'n rhaid i ni gael rhywbeth a all herio, ond hefyd a all gael ei gyflawni. Mae'n rhywbeth sy’n ymwneud nid yn unig â’r diagnosis sy’n digwydd a'r cymorth a’r hyfforddiant ychwanegol y mae pobl eu hangen i wneud y diagnosis, ond hefyd â sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd y diagnosis wedi’i wneud hefyd. Gwn fod hynny’n fater a godwyd yn y cyfarfod gyda'r grŵp trawsbleidiol y bûm i ynddo.
Ac yn olaf, dau bwynt. Rwy'n teimlo bod y cysylltiad â'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia wedi bod yn ymarfer pwysig iawn, cyn lansiad yr ymgynghoriad—y cyn-ymgynghoriad—ac yn ystod yr ymgynghoriad hefyd. Mae'n bwysig iawn, os ydym am siarad am gyd-gynhyrchu a bod y dinesydd yn bartner cyfartal yn ei ofal iechyd, bod ystyr i hynny o ran y ffordd yr ydym yn dylunio polisi hefyd. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â chael eiriolwyr proffesiynol yn siarad ar ran pobl â dementia. Mae pobl sy'n byw’n uniongyrchol gyda dementia eu hunain wedi bod yn rhan bwysig o’r cynllunio a chyflawni hyd yn hyn a byddant yn parhau i fod wedyn wrth ddarparu’r gwasanaethau.
Ac yn olaf, rwy’n cydnabod bod angen cyflwyno arfer da. Dyna pam y bydd gennym ddogfen gryno i fynd gyda hwn er mwyn deall beth sy’n digwydd eisoes a lle mae arfer da yn bodoli, fel bod pobl eraill yn gallu edrych ar sut a pham y mae hynny'n cael ei greu. Mae her bob amser i weld a yw arferion da yn teithio mewn gwirionedd ac y gellir eu cyflwyno ar draws y system. Pa mor aml y mae arfer da wir yn ymwneud â chyfres o amgylchiadau mewn ardal a grŵp o unigolion ysbrydoledig sy'n dod at ei gilydd ar hap a damwain, yn hytrach na thrwy gynllunio'r ffordd y dylai'r system gyfan weithio? Ond i ddeall sut y mae hynny’n edrych fel bod gwell gobaith i hynny ddigwydd mewn gwirionedd.
Yn olaf, i longyfarch Big Pit ar y daith sy’n addas i bobl â dementia. Byddwn wedi bod wrth fy modd o gael ymuno â chi y bore yma ar y daith. Cefais un o fy niwrnodau gorau allan yn yr amgueddfa genedlaethol yn Big Pit gyda’m tad-yng-nghyfraith. Mae'n brofiad gwych, ac mae gwneud yn siŵr bod yna daith sy’n addas i bobl â dementia erbyn hyn yn gam mawr ymlaen.