Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 16 Mai 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod falch ein bod yn cael y cyfle hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia i wrando unwaith eto ar farn yr Aelodau. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd amser i ystyried ymgynghoriad sydd wedi cael ymateb da. Rwy'n credu mai’r ymagwedd hollol gywir yw cael y strategaeth hon yn iawn, er y byddwn yn ychwanegu fy mod yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod gennym ar ddiwedd y broses hon strategaeth sy’n ddigon uchelgeisiol i ddiwallu maint yr her yr ydym yn ei hwynebu gyda dementia yng Nghymru.
Croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am y pwyslais cryf ar ddull seiliedig ar hawliau, sydd yn fy marn i wedi dod o fewnbwn rhagorol y prosiect ymgysylltu a grymuso dementia, ac rwy’n achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r bobl sy'n byw gyda dementia yr wyf yn gwybod sydd wir wedi gweddnewid gwaith Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau penodol. Mae’r cyntaf ar gyfraddau diagnosis, a chlywais yr hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y pwynt na fyddai 50 y cant yn ddigon ar gyfer clefyd fel canser, ac ni ddylai fod yn ddigon ar gyfer pobl â dementia. Rwy’n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am yr angen i fod yn realistig, ond hoffwn weld y gwaith yr ydych yn ei wneud i barhau i adolygu hyn â’r nod o darged diagnosis mwy uchelgeisiol. Byddai gennyf hefyd ddiddordeb mewn cael gwybod yn eich ymateb heddiw i ba raddau y mae cyfraddau diagnosis wedi dod i’r amlwg fel problem yn yr ymgynghoriad hwn, gan fy mod yn gwybod ei fod yn ymateb y pwyllgor iechyd, roedd yn sicr yn fy ymateb i ar ran y grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n amau ei fod yn y mwyafrif helaeth o'r ymatebion, bod pobl yn dymuno i’r uchelgais hwnnw fod yno ar gyfer cael targed gwell o ran cyfradd diagnosis.
Mae sawl un wedi crybwyll y mater gweithwyr cymorth. Fy mhryder i’n benodol, fel y bu drwy’r adeg, yw y bydd angen mwy ohonyn nhw nag y mae'r cynllun yn ei gynnig. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut y mae eich syniadau’n datblygu yn gysylltiedig â hynny, gan nad yw'r 32 a nodwyd ar hyn o bryd am fod yn ddigon, a hoffwn wybod a ydych chi’n ailasesu hynny.
Byddwch yn ymwybodol—ac rwy'n ddiolchgar i chi am ddod i'r grŵp trawsbleidiol i siarad â ni ac i siarad â phobl sy'n byw gyda dementia—bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn fater pwysig iawn a ddaeth allan o'r cyfarfod hwnnw, ac rwy'n falch bod hynny wedi’i nodi yn y datganiad. Byddwn yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut mae eich syniadau’n datblygu yn gysylltiedig â hynny.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am ailafael yn y materion a godais i yn dilyn y grŵp trawsbleidiol ynghylch y gymuned Sipsiwn / Teithwyr, a’ch cydnabyddiaeth na wnaed digon o waith i ganfod anghenion y gymuned honno o ran dementia. Felly, hoffwn ofyn sut mae’r gwaith hwnnw wedi dod yn ei flaen, am fy mod yn gwybod eich bod yn bwriadu ymgynghori ymhellach â'r gymuned honno.
Ac yn olaf gair bach i ddweud fy mod i heddiw wedi bod i fyny yn Big Pit yn fy etholaeth i, yn lansiad y daith dan ddaear sy’n addas i bobl â dementia, ac rwy'n siŵr y byddech chi’n dymuno ymuno â mi i longyfarch Big Pit ac Amgueddfa Cymru ar fenter ragorol sy’n torri tir newydd. Ond a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn eich tyb chi fydd swyddogaeth y Llywodraeth bellach o ran gwneud yn siŵr bod yr holl arferion da yr ydym yn eu gweld, o ganlyniad i waith caled iawn mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru—ac mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud allan yna—yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru? Diolch.