Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol. Mae’n bleser gennyf gyflwyno'r pedwerydd cyfnod a'r cyfnod olaf o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad heddiw.
Mae'r Bil hwn wedi bod ar daith hir er mwyn cyrraedd y pwynt hwn, trwy wahanol gyfnodau o ymgynghori a mireinio pellach. Mae heddiw yn nodi penllanw’r daith honno. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeiryddion ac aelodau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu diwyd ar y Bil. Yn yr un modd, hoffwn ddiolch i’r ystod eang o randdeiliaid sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol drwy gydol y broses ar draws pob un o'r meysydd y mae'r Bil yn ymdrin â nhw. Mae'r Bil sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn parhau traddodiad cryf Cymru o ddefnyddio deddfwriaeth yn rhan bwysig o'n hymdrechion i wella a diogelu iechyd, ochr yn ochr â'n gwasanaethau, rhaglenni, polisïau ac ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus wedi'u teilwra. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i'n cymunedau mewn nifer o ffyrdd.
Rydym wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd i amddiffyn y boblogaeth rhag niwed o ganlyniad i ysmygu, yn enwedig ein plant a'n pobl ifanc. Bydd y Bil yn torri tir newydd pwysig drwy ymestyn y gofynion di-fwg, am y tro cyntaf erioed, i fannau agored penodol. Bydd hyn, ynghyd â darpariaethau eraill y Bil ar gyfer cynhyrchion tybaco a nicotin, yn ymwreiddio ymhellach y cynnydd sylweddol yr ydym wedi'i wneud yn y maes hwn. Bydd pobl sy'n dewis cael triniaethau penodol, gan gynnwys tyllau yn y corff a thatŵio, yn cael eu hamddiffyn yn well rhag risgiau posibl o haint, drwy'r system drwyddedu newydd. Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa ar y newidiadau i’r modd y mae gwasanaethau fferyllol a mynediad i doiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd yn cael eu cynllunio, a hefyd yn elwa ar yr asesiadau effaith iechyd a fydd yn cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Bil hwn eisoes wedi elwa ar graffu llawn yn y pedwerydd Cynulliad ac, o ganlyniad, yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau ar gyfer gwella a diogelu iechyd a llesiant ymhellach yng Nghymru. Serch hynny, mae gwaith y Cynulliad hwn wedi arwain at nifer o newidiadau o bwys sydd wedi cryfhau’r Bil yn sylweddol. O ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith hwn, bydd plant hyd at 18 oed bellach yn cael eu hamddiffyn rhag y niwed y gellir ei achosi gan dyllu rhannau personol o’r corff. Bydd y gofynion di-fwg mewn mannau agored yn cael eu hymestyn i gynnwys lleoliadau gofal plant yn yr awyr agored, gan amddiffyn plant ymhellach rhag y niwed o ganlyniad i ysmygu a’i atal rhag cael ei ystyried yn weithgaredd dyddiol arferol. Ac, yn bwysig iawn, mae'r Bil bellach yn rhoi pwyslais deddfwriaethol clir i gamau gweithredu gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r mater iechyd cyhoeddus sy’n flaenoriaeth, sef gordewdra, drwy'r strategaeth genedlaethol a fydd yn awr yn cael ei pharatoi.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am y ffordd gydweithredol y maent wedi ymgysylltu â'r materion a gweithio gyda'r Llywodraeth i wella'r Bil yn y ffyrdd pwysig hyn. Wrth gwrs, er bod heddiw yn nodi diwedd taith y Bil drwy'r Cynulliad, os caiff ei basio, bydd hefyd yn nodi cychwyn cyfnod newydd allweddol. Edrychaf ymlaen at weithredu elfennau amrywiol y Bil i wireddu'r llu o fanteision y mae'n ceisio eu cyflawni i bobl Cymru, ac ymgysylltu parhaus y Cynulliad ar y gwaith hwnnw.
Cyn i mi gau, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant iawn i bob un o'r swyddogion sydd wedi cefnogi’r gwaith ar y Bil mor ofalus ac mor ddyfal wrth iddo fynd ar ei hynt drwy'r Cynulliad. Llywydd, rwy’n cymeradwyo'r Bil i'r Cynulliad.