Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 16 Mai 2017.
Rwy'n codi ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, yn absenoldeb fy nghydweithiwr, Angela Burns, i ddweud yn syml ein bod yn falch iawn o allu cefnogi Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) y prynhawn yma, wrth iddo wneud ei daith olaf trwy’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae mewn cyflwr llawer gwell na’r fersiwn flaenorol o’r Bil, a oedd, wrth gwrs, yn ceisio cyflwyno cyfyngiadau diangen ar e-sigaréts. Roeddwn yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweld synnwyr ar y mater hwnnw ac wedi tynnu’n ôl y cyfyngiadau arfaethedig ar y rheini o’r Bil diwygiedig a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad y llynedd.
Rydym yn falch iawn o weld y cyfyngiadau ychwanegol ar ysmygu tybaco. Fel y gwyddoch, rydym wedi cymryd rhan mewn rhai trafodaethau defnyddiol iawn ar estyniadau pellach posibl i'r ardaloedd hynny lle gwaherddir ysmygu yn y dyfodol, yn enwedig o gwmpas llochesi bysiau ac mewn lleoliadau eraill lle bydd plant ifanc yn aml yn ymgasglu. Rydym yn falch iawn hefyd o weld y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynllunio cyfleusterau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gweld rhai gwelliannau sylweddol o ran sicrhau na cheir yr achosion o gau cyfleusterau cyhoeddus yr ydym wedi eu gweld yn sgil y gofyniad i gynhyrchu strategaethau lleol.
Ac, wrth gwrs, cafwyd y gwelliant pwysig iawn a basiwyd yng Nghyfnod 3, gyda chefnogaeth yr holl bleidiau yr wythnos diwethaf, o ran yr angen am strategaeth gordewdra genedlaethol. Rwy'n credu y cafwyd dadl gref a phwerus iawn a argyhoeddodd bawb yn y Siambr hon i gydnabod pwysigrwydd gordewdra i iechyd y cyhoedd a'r angen am raglen genedlaethol o gamau i’w gweithredu, os ydym ni’n mynd i gyflawni canlyniadau iechyd gwell yn y dyfodol. Felly, roeddem yn falch iawn o gefnogi'r gwelliant hwnnw.
O ran gwasanaethau fferyllol, rydym yn gwybod yn aml iawn fod trafodaethau hirfaith yn digwydd mewn cymunedau lleol lle ceir newidiadau arfaethedig, ar hyn o bryd, i wasanaethau fferyllol lleol, hyd yn oed i bethau syml fel adleoli. Felly, rwy’n credu y bydd y rheoliadau newydd a'r darpariaethau newydd yn y Bil hwn yn helpu i wella hynny. Felly, rwyf eisiau dweud, ar y cyfan, ein bod yn sicr yn cefnogi egwyddorion y Bil hwn. Edrychwn ymlaen at eich dwyn i gyfrif fel Llywodraeth am weithredu'r Bil pan ddaw'n gyfraith ac ar ôl iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol, a byddwn yn parhau i weithio gyda chi i wella iechyd cyhoeddus pobl Cymru.