Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 16 Mai 2017.
Mi fyddwn ninnau’n pleidleisio dros y Bil yma heddiw. Peidiwch â’m cael i’n anghywir: nid ydw i’n awgrymu y dylai pob Bil ddilyn taith debyg i Fil iechyd y cyhoedd drwy’r Cynulliad, ond rydw i’n meddwl bod y ffaith i’r Bil yma, i bob pwrpas, fynd drwy’r Cynulliad yma ddwywaith yn dangos ôl gwaith, meddwl a gwelliant, a hynny o feinciau’r Llywodraeth a’r gwrthbleidiau hefyd. Mae o’n Fil cryf, rydw i’n meddwl, sydd o’n blaenau ni ar gyfer cymal 4 heddiw.
Rydw i’n arbennig o falch o’r gwelliant gan Blaid Cymru a gafodd gefnogaeth unfrydol wythnos yn ôl a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Llywodraeth lunio strategaeth i daclo gordewdra, y broblem iechyd fwyaf sy’n ein hwynebu ni fel cenedl, mae’n siŵr. Rydw i’n ddiolchgar am barodrwydd y Gweinidog i gydweithio ar hwn. Yr her rŵan, wrth gwrs, ydy llunio strategaeth a all fod yn wirioneddol drawsnewidiol o ran iechyd ein cenedl ni.
Nid yw hwn yn Fil perffaith, nid ydw i’n meddwl, er hynny. Mi oeddem ni yn sicr ar y meinciau yma yn eiddgar i gryfhau’r Bil mewn perthynas â’r awyr yr ydym ni’n ei anadlu. Chawsom ni ddim gefnogaeth i’r gwelliannau hynny. Wedi dweud hynny, mae’r British Lung Foundation yn falch bod y gwthio rydym ni wedi ei wneud ar hyn wedi arwain at rywfaint o symud o du’r Llywodraeth. Ond mae’n rhaid imi ddweud mi glywsom ni heddiw eto gan y Prif Weinidog fod ei Lywodraeth yn fodlon aros am strategaeth y Llywodraeth yn San Steffan ar daclo llygredd awyr cyn paratoi cynllun i Gymru. Nid oedd o hyd yn oed yn barod i ymateb i gais Simon Thomas yma i osod targedau penodol. Beth bynnag, mi fydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn dal i bwyso am strategaeth gyflawn ar sail iechyd cyhoeddus i wella ansawdd awyr a gostwng peryglon llygredd, ac mi wnaf i edrych ymlaen at barhau i drafod gyda’r Llywodraeth yn y maes yma.
Ond, heddiw, mi gefnogwn ni’r Bil yma sydd, yn ei gyfanrwydd, rydw i’n meddwl, yn Fil, rydym ni’n credu, a all fod yn arf pwysig o ran diogelu y cyhoedd, diogelu iechyd y cyhoedd, ac annog Cymru fwy iach mewn blynyddoedd i ddod.