Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan fy mod yn y misoedd diwethaf wedi gallu cwrdd â chynrychiolwyr o Electrical Safety First a siarad â nhw am yr ystadegau y maent wedi eu darparu, yn enwedig ynghylch tanau a achoswyd oherwydd diffyg gofal gydag offer a dyfeisiau trydanol. Ac rwy’n falch hefyd o roi munud o fy amser i Mike Hedges er mwyn iddo gyfrannu at y ddadl hon.
Mae'n amserol, efallai, fod y cyfle hwn wedi codi i mi siarad yn awr ar y pwnc hwn, gan fod fy mam fy hun wedi dioddef tân yn y cartref yn ddiweddar, sydd wedi achosi iddi orfod symud allan o'i chartref, am sawl mis fwy na thebyg. Achoswyd y tân bron yn sicr gan wifrau diffygiol neu offer trydanol. Roedd hi allan yn cerdded y ci pan ddechreuodd y tân. Yn ffodus dim ond am ryw 20 munud yr oedd hi allan, a phan gyrhaeddodd adref llwyddodd i gael cymorth yn gyflym cyn i’r tân gymryd gafael ar y tŷ cyfan. Er gwaethaf y camau cynnar hynny, roedd y difrod a achoswyd gan y tân a’r mwg yn sylweddol, a bydd rhaid adnewyddu’r tŷ cyfan.
Yng Nghymru, mae ystadegau yn dangos lleihad cyson yn nifer y tanau mawr rhwng 2010 a 2015, ond gwelwyd cynnydd yn y flwyddyn hyd at 2016. Ymddengys bod tanau o nwyddau gwyn ar lefel gyson yn gyffredinol yn ystod yr un cyfnod, a bu gostyngiad amlwg a chyson, fel y byddem fwy na thebyg yn ei ddisgwyl, yn y tanau simnai. Ond nid ydym wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn tanau damweiniol. Gallai'r rheswm am hynny fod yn nheitl y ddadl hon: tanau trydanol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.