Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 16 Mai 2017.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud i mi yn y ddadl hon. Rwyf am sôn am ddau beth: sythwyr gwallt a gwefrwyr. Dyma enghreifftiau o danau o ganlyniad i sythwyr gwallt: gwraig y bu’n rhaid ei hachub o'i chartref a aeth ar dân ar ôl i bâr o sythwyr gwallt gael eu gadael ymlaen ar lawr pren a chychwyn tân. Roedd yn rhaid iddi gael ei hachub gan ddiffoddwyr tân; cafodd dau fachgen ifanc eu hachub o ystafell wely mewn tŷ yn Pinner, yng ngogledd Llundain, gan ddiffoddwyr tân ar ôl tân a ddechreuwyd gan sythwyr gwallt. Mae llawer o bobl yn defnyddio sythwyr gwallt. Nid wyf i, gyda llaw, ond mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny ychwaith, ond efallai fy mod yn anghywir. [Chwerthin.] Mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Maent yn cyrraedd tymheredd uchel iawn a gallant fod yn beryglus. Er na arweiniodd y ddwy enghraifft hyn at farwolaeth, os nad ydym yn mynd i’r afael â hyn bydd marwolaeth yn digwydd yn y pen draw.
A gwefrwyr. Mae’r ffaith bod cymaint o ddewisiadau generig rhad ar gael ar-lein, yn ôl arbenigwyr diogelwch tân, yn hynod beryglus. Gall gwefrwyr ar safleoedd ocsiwn gostio llai na £1 ac mae’r rhai gan y gwneuthurwr priodol yn costio dros £15. A yw'n unrhyw syndod bod pobl yn prynu’r rhai rhatach? Ond yr hyn y mae’r gwefrydd yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw gostwng maint y trydan a ddefnyddir—y foltedd—i lawr i'r foltedd sydd ei angen i wefru’r batris. Ond os ydynt yn wefrwyr generig, yr hyn sy’n digwydd yw nad ydynt o bosib yn gweithio'n effeithiol, a gallant achosi i lawer o wres gael ei gynhyrchu. Canfu'r elusen Electrical Safety First bod hanner y gwefrwyr wedi’u gwifrio â chydran sy’n is na’r safon ofynnol, ac nad oedd yr un ohonynt yn bodloni gofynion diogelwch Rheoliadau Offer Trydanol (Diogelwch) 1994. Oni chaiff rhywbeth ei wneud am hyn, rydym yn mynd i gael tanau ac mae pobl yn mynd i farw.