<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:40, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos hon mewn ateb ysgrifenedig i mi, fe gyhuddoch chi’r cwmni sy’n gyfrifol am Gylchffordd Cymru o lawer o fylchau sylweddol a gwallau yn y wybodaeth y maent wedi ei darparu i chi. Nawr, mae hynny’n gryn dipyn o honiad i unrhyw un ei wneud, heb sôn am Lywodraeth, am barti i gontract y byddwch, mewn ychydig wythnosau, yn gwneud penderfyniad gyda hwy ynglŷn â phrosiect £425 miliwn y buoch yn ei drafod ers dros chwe blynedd. Onid y gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet, yw mai eich Llywodraeth chi sydd wedi bod yn wallus? Fe addawoch, wrth sefyll yn y fan honno ym mis Chwefror, broses rhwng pedair a chwe wythnos o hyd, sef yr amserlen safonol ar gyfer diwydrwydd dyladwy cadarnhaol. Yr hyn rydych wedi’i wneud yw cynnal archwiliad fforensig gyda’r bwriad penodol, ymddengys i mi, o ganfod rhyw esgus—unrhyw esgus o gwbl—i gyfiawnhau dweud ‘na’. Ac onid yw hefyd yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl gohirio’r penderfyniad yn gyntaf tan ar ôl etholiadau lleol mis Mai, eich bod bellach yn ei ohirio tan ar ôl 8 Mehefin? Nid oherwydd unrhyw fylchau yn y wybodaeth, ond am nad ydych eisiau bod yn agored ac yn onest gyda phobl Blaenau Gwent, sydd wedi cael eu camarwain gennych gyda gobeithion ffug ac addewidion gwag ers chwe blynedd.