Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Mai 2017.
Dim o gwbl. Mae’r Aelod yn gyfan gwbl anghywir. Gofynnodd gyfres o gwestiynau; rhoddais gyfres o atebion gonest. Nid wyf erioed wedi gweld llefarydd yr wrthblaid yn beirniadu Gweinidog am roi atebion gonest. Fy nyletswydd yw sicrhau bod prosiectau a all greu swyddi, sy’n gynaliadwy, yn cael cymorth gan y Llywodraeth hon. Fy ngwaith yw gwneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi ein hadnoddau lle ceir cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r prosiect hwn yn fy nghyffroi, ond ni fyddaf yn osgoi proses diwydrwydd dyladwy, yn wahanol i’r Aelod, a fyddai wedi’i gymeradwyo y llynedd gyda £18 miliwn arall, gyda llaw, o warantau arian cyhoeddus.