<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:48, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu addewid Theresa May i gael gwared ar dollau pont Hafren ar ôl i’r berchnogaeth gael ei throsglwyddo i Highways England y flwyddyn nesaf, gan ddod ag o leiaf £100 miliwn, wrth gwrs, i economi Cymru bob blwyddyn—amserlen fwy uniongyrchol o lawer na’r un—efallai y gwnaiff Joyce Watson wrando ar hyn—ym maniffesto’r Blaid Lafur, sydd ond yn addo:

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y tollau ar Bont Hafren.

O gofio y byddai Llywodraeth Geidwadol ar 8 Mehefin yn agor Cymru i fwy byth o ffyniant economaidd, pa bryd y bydd y gwaith ar ffordd liniaru’r M4 yn dechrau er mwyn cefnogi’r cynnydd sylweddol yn y traffig a ddaw yn ei sgil?