Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 17 Mai 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Rwyf wrth fy modd gydag ymagwedd dro pedol y Ceidwadwyr yn San Steffan. Serch hynny, croesawaf y ffaith eu bod yn symud i’r cyfeiriad y mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi rhoi cyfarwyddyd clir a chadarn iawn yn ei gylch. Rwy’n hyderus fod yr ymchwiliad cyhoeddus lleol yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen a amlinellwyd. Yn dilyn canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, bydd penderfyniad yn cael ei wneud, ac rwyf wedi amlinellu sut rwy’n rhagweld ac yn bwriadu sicrhau y gwneir gwaith yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw a heb unrhyw oedi.