Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch am eich cwestiwn. O ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad Llywodraeth y DU i galedi, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 9 y cant yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn. Er gwaethaf y toriadau a orfodwyd arnom, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi yn GIG Cymru. Golyga hynny y byddwn, yn nwy flynedd gyntaf y Llywodraeth hon, wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn o gyllid ychwanegol yn GIG Cymru.