2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 17 Mai 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu’r gwasanaeth iechyd sydd ei angen ar bobl Cymru yng ngoleuni’r heriau economaidd presennol? OAQ(5)0172(HWS)
Diolch am eich cwestiwn. O ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad Llywodraeth y DU i galedi, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 9 y cant yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn. Er gwaethaf y toriadau a orfodwyd arnom, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi yn GIG Cymru. Golyga hynny y byddwn, yn nwy flynedd gyntaf y Llywodraeth hon, wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn o gyllid ychwanegol yn GIG Cymru.
Mae hynny’n braf i’w glywed, ond credaf hefyd y dylid tanlinellu’r pwynt nad heriau economaidd yn unig y mae’r GIG yn eu hwynebu; ceir problemau penodol mewn perthynas â recriwtio. Ac yn ogystal â mewn rhannau o Loegr, ceir problemau penodol yn y Gymru wledig mewn perthynas â recriwtio, lle mae bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi ymrwymo i ailgyflwyno’r gwasanaeth ymgynghorol 12 awr yn yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Llwynhelyg, pan fyddant wedi llwyddo i gryfhau eu tîm clinigol. Y broblem yw bod Coleg Brenhinol y Pediatregwyr wedi awgrymu y dylid cau 41 y cant o’r clinigau newyddenedigol ar draws y DU dros dro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd anawsterau recriwtio, ac mae Llwynhelyg yn pysgota o’r un pwll am yr arbenigwyr hynny.
Tybed sut rydym yn mynd i afael â’r mater hwnnw, ac a allwch gadarnhau y gall adran ddamweiniau ac achosion brys Llwynhelyg ymdrin ag achosion pediatrig mewn argyfwng?
Diolch am eich cwestiwn. O ran y pwynt olaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gallu pediatrig yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys i ddiwallu anghenion cleifion sydd angen triniaeth mewn argyfwng.
Edrychwch, mae yna her ehangach yma rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw ati o ran ein gallu i recriwtio a’r prinder arbennig mewn rhai ardaloedd, lle maent yn broblemau ledled y DU a thu hwnt i hynny—ledled gorllewin Ewrop, mae heriau mewn rhai meysydd recriwtio. Felly, mae hynny’n rhan o’r her onest y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi ar gyfer gwella a diwygio’r ffordd y mae ein gwasanaeth iechyd yn gweithio yn y dyfodol. Dyna pam fod cael modelau gofal deniadol wedi’u trefnu ar draws y gymuned, a lle bo angen, mewn ysbyty, yn wirioneddol bwysig. Os ydym am recriwtio’r bobl orau, os ydym am recriwtio pobl i’r proffesiynau hyn sydd â phrinder staff, mae angen i ni sicrhau bod gennym le deniadol i weithio.
Ac er yr holl lwyddiant rydym wedi’i gael gyda cham cyntaf ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.’ ar gyfer recriwtio meddygon—cam pwysig ymlaen i Gymru—rydym yn cydnabod bod angen inni wneud rhagor ac na fydd yr ymgyrch honno ynddi ei hun yn datrys y problemau mewn rhai o’r meysydd arbenigol hyn. Felly, mae meddwl yn glir ac yn ofalus iawn am ddyfodol y gwasanaeth, sut y caiff ei drefnu, pwy rydym yn awyddus i’w denu, ar ba delerau y byddwn yn gofyn i bobl weithio, a chyda phwy y byddant yn gweithio mewn gwirionedd yn bwysig iawn ar gyfer y dyfodol mewn ystod o wahanol feysydd.
Ym mis Mawrth, Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd yr Ysgrifennydd cymunedau a phlant fod tai da a diogel nid yn unig yn lleihau’r baich ar wasanaethau eraill, megis y GIG neu ofal cymdeithasol, ond y byddant hefyd yn gwella ansawdd bywyd pobl, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, byddwn yn mynd gam ymhellach ac yn dweud bod tai a gynlluniwyd i fod yn hawdd i’w haddasu, tai a gynlluniwyd o bosibl o dan arweiniad arbenigwyr adsefydlu, hefyd yn bwysig, gan eu bod yn caniatáu i bobl hŷn aros yn eu heiddo am gyfnod hirach heb orfod symud allan o ardal gyfarwydd, er enghraifft. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa fath o sgyrsiau trawsbortffolio rydych wedi’u cael ynglŷn â pharatoi canllawiau ar gyfer y diwydiant adeiladu, yn enwedig y rhai sy’n adeiladu tai cyngor, canllawiau a fydd yn rhagweld newidiadau ym mywydau pobl oherwydd iechyd a henaint ac a fydd yn ei gwneud yn rhatach iddynt addasu mewn gwirionedd a chael gofal adsefydlu yn eu cartrefi yn y dyfodol?
Diolch am eich cwestiwn. Rwy’n falch o gadarnhau bod y buddsoddiad a wnaeth Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd cartrefi pobl, yn enwedig sicrhau eu bod yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, wedi bod o fudd gwirioneddol mewn termau ariannol, ond o ran canlyniadau iechyd hefyd. Mae tystiolaeth yn datblygu bod y bobl hynny’n cael gwell canlyniadau iechyd o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth Llywodraeth Cymru.
Ac o ran y pwynt ynglŷn â nid yn unig addasu, ond y math o dai a gomisiynwn drwy ein defnydd o gyfalaf, rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau ynglŷn â’r ffordd y gwneir defnydd o gyfalaf. Ac mae angen i hynny fod yn rhan o thema sy’n datblygu gan y Llywodraeth hon i sicrhau ein bod nid yn unig yn cyrraedd ein targedau mewn perthynas ag adeiladu tai, ond fod y math o dai a adeiladwn, y ffordd y mae awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd yn comisiynu gofal, a pha ddarpariaeth y maent yn chwilio amdani yn cael eu hystyried yn drylwyr gan adeiladwyr tai, ac yn arbennig, gan sector y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ond yn fwy cyffredinol hefyd. Ac rwy’n hyderus y byddwch yn gweld mwy o gynnydd ac ymagwedd fwy cydgysylltiedig gan y Llywodraeth hon. Rwy’n siŵr y bydd gennyf fwy i’w ddweud ynglŷn â hyn dros y misoedd nesaf.