<p>Heriau Economaidd Presennol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:30, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hynny’n braf i’w glywed, ond credaf hefyd y dylid tanlinellu’r pwynt nad heriau economaidd yn unig y mae’r GIG yn eu hwynebu; ceir problemau penodol mewn perthynas â recriwtio. Ac yn ogystal â mewn rhannau o Loegr, ceir problemau penodol yn y Gymru wledig mewn perthynas â recriwtio, lle mae bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi ymrwymo i ailgyflwyno’r gwasanaeth ymgynghorol 12 awr yn yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Llwynhelyg, pan fyddant wedi llwyddo i gryfhau eu tîm clinigol. Y broblem yw bod Coleg Brenhinol y Pediatregwyr wedi awgrymu y dylid cau 41 y cant o’r clinigau newyddenedigol ar draws y DU dros dro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd anawsterau recriwtio, ac mae Llwynhelyg yn pysgota o’r un pwll am yr arbenigwyr hynny.

Tybed sut rydym yn mynd i afael â’r mater hwnnw, ac a allwch gadarnhau y gall adran ddamweiniau ac achosion brys Llwynhelyg ymdrin ag achosion pediatrig mewn argyfwng?