Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 17 Mai 2017.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, yn enwedig am ran olaf eich ateb. Fel y dywedais, rwy’n fwy na pharod i groesawu popeth sydd yn y datganiad, ond yn amlwg, byddaf yn craffu arnoch i weld pa mor dda rydych yn gwylio sut y caiff hwnnw ei wario. Bydd y £3 miliwn a roddwyd i awdurdodau lleol ar gyfer seibiant, yn amlwg, ac yn enwedig o ystyried yr hyn y buom yn sôn amdano yma ddoe, yn bwysig iawn. Mae’n faes lle mae’r ddarpariaeth yn arbennig o wan, ac rwy’n awyddus iawn i wybod beth a wnewch i sicrhau bod hwnnw’n cael ei wario ar ddarpariaeth seibiant rheng flaen ac nad yw’n cael ei lyncu gan y prosesau caffael neu gomisiynu, sy’n tueddu i lowcio arian, yn enwedig yn achos seibiant ar gyfer gofal cymdeithasol, lle mae angen pob ceiniog arnom.