<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:37, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Blaenoriaethais seibiant i ofalwyr am fod hwn yn un o’r meysydd y mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson eu bod angen mwy o gefnogaeth ynddo, ac mae angen i ni edrych ar ôl ein gofalwyr i sicrhau eu bod yn gallu parhau i ofalu am y bobl y maent hwy’n gofalu amdanynt. Felly, byddaf yn gweithio ar y manylion penodol o ran yr hyn y byddwn yn gofyn amdano gan awdurdodau lleol mewn perthynas â’r cyllid ar gyfer gofal seibiant yn benodol, ac unwaith eto, bydd hwnnw’n cael ei roi drwy gyllid grant, gyda gofynion penodol i awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y byddem yn disgwyl iddynt ei weld am yr arian hwnnw, ac ar gyfer cefnogaeth i ofalwyr yn lleol hefyd, oherwydd rydym yn gwbl glir fod yn rhaid i hyn wneud gwahaniaeth i ofalwyr ar y rheng flaen, a fydd yn cael seibiant, fel y dywedais, er mwyn eu galluogi i barhau â’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud.