3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 17 Mai 2017.
Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi bod y seilwaith TG yng Nghymru wedi’i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus i gleifion Cymru yn dilyn yr ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr? TAQ(5)0173(HWS)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ddoe ynglŷn â’r ymosodiad meddalwedd wystlo yr wythnos diwethaf yn y DU a effeithiodd ar sefydliadau yn fyd-eang, gyda’r GIG yn Lloegr a’r GIG yn yr Alban yn brif ffocws y sylw. Er nad ydym wedi cael ein heffeithio ar yr achlysur hwn, mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod ein systemau mor wydn â phosibl rhag ymosodiadau ar y rhwydwaith yn y dyfodol, sy’n anochel, yn anffodus.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod y digwyddiad yr wythnos diwethaf wedi codi llawer o gwestiynau, ac yn bwysicaf, oll sut y byddwn yn diogelu ein cleifion yn y GIG. Fel y dywedwch, mae’r adroddiadau wedi awgrymu bod 47 o ymddiriedolaethau yn Lloegr wedi cael eu heffeithio, a 13 yn yr Alban, am eu bod wedi methu cymhwyso diweddariadau diogelwch a allai fod wedi’u diogelu. Nawr, rwy’n credu ei bod yn werth nodi bod yr effaith yn fwy na’r aflonyddwch a’r anghyfleustra; gallai hyn, mewn gwirionedd, arwain at ganlyniadau sy’n newid bywydau ac sy’n bygwth bywydau. Os meddyliwch am yr effaith ar unigolion sy’n aros am sganiau ar gyfer triniaethau canser, rwy’n credu y gallai’r effaith fod yn anfesuradwy ac mae ymosodiad o’r fath gan derfysgwyr seiber, rwy’n credu, yn rhywbeth na ellir ei amddiffyn yn foesol.
Nawr, golygodd natur gydgysylltiedig y GIG yng Nghymru a’r buddsoddiad o £11 miliwn mewn cyfrifiaduron fod llai o fannau gwan yng Nghymru. Rwy’n credu, wrth gwrs, fod yn rhaid i ni nodi nad oes gennym unrhyw le i fod yn hunanfodlon, ond rwy’n credu y byddem yn esgeulus pe na baem yn cydnabod ymdrechion Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a’r timau TG ar draws y GIG yng Nghymru am ein hamddiffyn rhag yr ymosodiad diweddaraf hwn. Nid yw hynny’n golygu y dylem fod yn hunanfodlon—gallai ddigwydd eto—ond fe wnaethant ein diogelu ar yr achlysur hwn ac rwy’n credu y dylem ddiolch iddynt am hynny.
Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy’n hapus iawn i gydnabod a diolch i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gyhoeddus, nid yn unig oherwydd y ffordd y maent wedi cyflwyno’r achos dros, a chymhwyso’r mesurau seiberddiogelwch ychwanegol a ddarparwyd gennym ar draws y gwasanaeth, ac nid yn unig oherwydd eu bod, mewn gwirionedd, wedi manteisio ar y diweddariadau diogelwch na fanteisiwyd arnynt yn y GIG yn Lloegr mae’n debyg, ond oherwydd y ffaith eu bod, dros y penwythnos ac ar ddechrau’r wythnos hon, wedi chwilio am wendidau yn y system, wedi canfod mannau lle cafodd y firws ei ddal gan y mesurau a roesom ar waith, ac wedi gallu datrys rhai o’r risgiau mewn gwirionedd. Roedd hynny, er enghraifft, yn cynnwys cau rhannau o’r GIG i negeseuon e-bost allanol: y peth cywir i’w wneud er mwyn sicrhau nad oedd ein system yn cael ei pheryglu. Ond mae’r proffesiynoldeb hwnnw yno i fod yn wyliadwrus o hyd, oherwydd nid mater sy’n mynd i ddiflannu yr wythnos hon yw hwn. Yn sicr ni allwn ddawnsio ymaith a dweud, ‘Ni fydd problem yr wythnos nesaf, yr wythnos wedyn na’r flwyddyn nesaf eto.’ Mae yna her yma sy’n ymwneud â phenderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf hefyd. Nid yw buddsoddi mewn meysydd fel hyn yn benderfyniad poblogaidd bob amser, ond mae’n hanfodol, mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion. Felly, gallwn ddiolch i’n lwc dda a synnwyr bod un cam ar y blaen drwy benderfynu buddsoddi mewn seiberddiogelwch.
Rydym yn croesawu’r datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog ddoe ynglŷn ag effaith yr ymosodiadau seiber byd-eang ar y GIG yn Lloegr yn ddiweddar. Mae’n gadarnhaol na chafodd y GIG yng Nghymru ei effeithio’n sylweddol a bod y gwasanaethau wedi parhau’n ddi-dor i raddau helaeth. Fodd bynnag, nodwn ei fod wedi tarfu ar driniaethau 40 o gleifion canser yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, ac mae’n rhaid bod hynny wedi bod yn go drawmatig iddynt. Mae’n amlwg o ailadrodd digwyddiadau o’r fath ein bod yn byw mewn byd lle mae data a gedwir yn electronig yn agored i berygl a gall gwasanaethau ddod i stop mewn eiliadau wedi ymosodiad. Mae’n amlwg yn annerbyniol fod defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu heffeithio yn y ffordd hon, ond rydym hefyd yn nodi nad ydym eisiau gorymateb a thaflu’r tedi o’r pram. Mae storio data electronig, i raddau helaeth, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel na systemau papur. Felly, mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu ein seilwaith gwybodaeth ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod gennym y dechnoleg ddiweddaraf. O ystyried hyn, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ofyn i’r ganolfan seiberddiogelwch newydd sydd wedi’i lleoli ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU i adolygu seiberddiogelwch ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, nid fi yw’r Prif Weinidog, ond rwy’n siŵr y bydd yn ystyried eich cais. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae yna adolygiad eisoes i’w gynnal yn y gwasanaeth yma i ddysgu gwersi o’r hyn a weithiodd a pham a beth arall sydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud hynny—er mwyn deall lefel y risg sydd gennym, er mwyn deall yr hyn rydym yn ei wneud o fewn y system, a sut i leihau’r perygl yn gynyddol yn y dyfodol. Dyna’r peth iawn i’w wneud a dyna rydym eisoes yn ei wneud ein hunain ac er ein mwyn ein hunain, fel y dylem ei wneud. Rydym yn ffodus i gael saernïaeth genedlaethol gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, lle mae pobl yn ymrwymedig—yn ymrwymedig i’r dull ‘unwaith i Gymru’ rydym yn ceisio’i fabwysiadu gan fanteisio ar y datblygiadau wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i wella gofal iechyd—nid y broses yn unig ond y profiad a’r canlyniadau i bobl hefyd—yn ogystal â deall y risgiau sydd ynghlwm wrth hynny. Mae cyfarfod o’r bwrdd gwybodeg cenedlaethol—teitl bachog da yn y byd gofal iechyd—a byddant unwaith eto’n edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd yn ogystal ag edrych i’r dyfodol hefyd. Felly, dull cytbwys priodol—heb fod yn hunanfodlon, ond heb anghofio, fel y dywedwch, y manteision gwirioneddol a’r potensial gwirioneddol i wella gofal iechyd drwy ryddhau’r potensial digidol mawr sy’n bodoli.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae’r cwestiwn amserol nesaf gan Simon Thomas.