Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 17 Mai 2017.
Gallaf ddweud fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig yr Aelod, a hyd nes y gwelais hyn ar y papur trefn nid oeddwn yn gwybod ei fod yn arfer mor gyffredin ag y deallwn yn awr. Ac rwy’n ei llongyfarch am gyflwyno syniad sy’n amlwg yn cyfeirio at angen mawr ar hyn o bryd, a ffordd o newid y gyfraith i’w gwneud yn llawer mwy addas i’r diben a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed.