5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:33, 17 Mai 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ac rwy’n galw ar Dawn Bowden i wneud y cynnig. Dawn Bowden.

Cynnig NDM6301 Dawn Bowden

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy’n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:33, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Iawn. ‘Ystafell rad ac am ddim i fenyw sy’n barod i ymgymryd â gwaith tŷ yn noeth.’ ‘Llety am ddim, yn barod i gynnig ffafrau mwy personol.’ Dyfyniadau o gylchgrawn neu nofel ddi-chwaeth? Na. Mae’r rhain yn rhan o hysbysebion go iawn a osodwyd ar Craigslist neu Gumtree gan landlordiaid, yn cynnig llety di-rent yn gyfnewid am ffafrau rhywiol. Ai enghreifftiau ynysig yw’r rhain? Wel nage, yn anffodus.

Os chwiliwch am #sexforrent, fe welwch gannoedd o hysbysebion fel hyn. I ddechrau, mae’n ymddangos bod yr arfer wedi datblygu mewn dinasoedd mawr, fel Llundain, Birmingham a Bryste, ond mae’n sicr yn lledaenu ar draws y DU. Ac mae’n ymddangos yn awr ei fod wedi lledaenu i’r Alban, ac yn anffodus, rydym yn dechrau ei weld yn digwydd yng Nghymru.

Er enghraifft, roedd hysbyseb diweddar am fflatiau yng Nghaerdydd yn dweud, ‘Fflatiau i’w gosod. Fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely yng Nghaerdydd a’r Cymoedd. Rhaid i denantiaid ar fudd-daliadau gynnwys llun wrth ateb.’ Ym Mhen-y-bont ar Ogwr: ‘Croeso i rywun sy’n mwynhau ffordd o fyw noethlymunwyr. Os ydych yn chwilio am ystafell i’w rhentu ac yn mwynhau’r ffordd o fyw honno, cysylltwch gan roi rhai manylion amdanoch eich hun. Nid yw hyn ar sail y cyntaf i’r felin, byddwn eisiau eich cyfarfod a dod i’ch adnabod, a thrafod y rheolau a’r gwasanaethau angenrheidiol.’

Roedd ymchwil gan Shelter yn Awst 2016 yn datgelu 288 o hysbysebion a gynigiai lety am ddim ar safle Craigslist, a 51 pellach a gynigiai llety am lai na £10 y mis, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt naill ai’n cynnwys cyfeiriadau uniongyrchol at ffafrau rhywiol yn gyfnewid am hynny, neu’n awgrymu hynny.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:35, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ildio. Pan glywodd un o fy etholwyr am y ddadl hon, daethant ataf i ddweud eu bod am dynnu sylw at y ffaith mai anaml iawn y bydd eiddo’n cael ei osod am ddim yn gyfnewid am ryw, ond eu bod yn aml yn cael eu gosod am bris gostyngol, a chredaf fod yr Aelod newydd gyfeirio at hynny. Ac yn ei phrofiad hi, dyma a ddigwyddai yn Llundain yn aml iawn, fod eiddo’n cael ei osod am bris gostyngol. Felly, a fyddai’n cytuno bod arfer o’r fath yn digwydd?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Yn sicr dyna’r wybodaeth a welsom, ac mae hyd yn oed rhai o’r hysbysebion a welsom yng Nghaerdydd mewn gwirionedd yn cynnig rhent am gyn lleied â £1 y mis am lety, ond gan gydymffurfio i roi ffafrau rhywiol. Felly, pam ein bod yn sydyn yn gweld lledaeniad yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel arfer ffiaidd ac ecsbloetiol? Rwy’n credu na all fod llawer o amheuaeth fod problem ddigartrefedd, sy’n effeithio ar lawer o ardaloedd yn y DU, ond sy’n fwy cyffredin mewn dinasoedd ac ardaloedd difreintiedig, wedi caniatáu i landlordiaid diegwyddor a rheibus fanteisio ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i fodloni eu hymddygiad aflan eu hunain. Gwelsom hyn yn digwydd ym Mharis yn ystod anterth eu hargyfwng tai yn y degawd blaenorol, pan ddaeth yr arfer o lety’n gyfnewid am ffafrau rhywiol yn gyffredin, a gorfu i’r Llywodraeth yno weithredu drwy gyflwyno rhaglen fawr i ddarparu tai fforddiadwy a nodwyd ganddynt fel y prif ffactor a gyfrannodd at y broblem.

Yn y wlad hon, mae rhai cyfryngau cenedlaethol wedi rhoi sylw i’r mater, gan gynnwys y BBC, ‘The Guardian’ a ‘The Times’, a chafodd ei drafod yn ddiweddar hefyd yn Senedd San Steffan gan yr AS dros Hove, Peter Kyle, mewn perthynas â’r problemau yn Lloegr. Cafodd ei ddwyn i fy sylw gan Cartrefi Cymoedd Merthyr, a diolch yn fawr iawn iddynt am wneud hynny.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â chymhellion landlordiaid o’r fath, a’r sail sydd ganddynt dros gredu y gallant ymddwyn yn y fath fodd, nid oes ond angen i chi edrych ar y ffordd roeddent yn cyfiawnhau eu hymddygiad i’r cyfryngau pan gawsant eu holi ynglŷn â’r hysbysebion a osodwyd ganddynt. Roedd un landlord yn ei amddiffyn wrth BBC South East fel bod yn ‘ffrind gyda threfniant budd-daliadau’, gan ychwanegu,

Gallwch ddadlau bod y rhent uchel sy’n cael ei godi gan landlordiaid yn ffordd o gymryd mantais hefyd. Nid oes gorfodaeth arnynt i wneud hyn... Mae gan y ddwy ochr rywbeth y mae’r person arall ei eisiau. Rwy’n ei gweld fel sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Rwy’n siŵr ei bod. Ond ni all fod unrhyw amheuaeth fod y landlordiaid hyn yn camfanteisio ar bobl agored i niwed nad ydynt yn gallu fforddio rhenti sy’n codi o hyd drwy eu hudo â bargen rhyw-am-rent. Heb os, byddent yn dadlau bod tenantiaid wedi dewis y trefniadau hyn o’u gwirfodd. Y drafferth yw pan fydd gennych rywun sy’n agored i niwed, sydd wedyn yn cael eu hecsbloetio, mae’r cysyniad o ddewis yn diflannu, ac mae hyn yn gyfystyr â rhyw fath o gaethwasiaeth fodern.

Trwy hysbysebion o’r fath, mae’r dynion hyn—ac ym mhob un o’r achosion a nodwyd, dynion ydynt—yn mynd ati’n fwriadol i dargedu menywod bregus, a dynion weithiau, sy’n teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall—menywod a dynion a allai fod wedi dioddef trais rhywiol neu drais domestig eisoes. Dangosodd ymchwil fod cyfran fawr o’r bobl sy’n cysgu allan, targed go amlwg i’r landlordiaid hyn, wedi profi rhyw fath o drais yn y cartref, rhywbeth y gallaf ei ategu o’r hyn a ddarganfûm yn ystod fy amser fel gwirfoddolwr yn y lloches nos ym Merthyr dros y gaeaf. Ond mae’n fwy na’r ecsbloetio sy’n digwydd pan fydd y person sy’n agored i niwed yn symud i mewn i’r eiddo o dan drefniant o’r fath. Mae llawer o’r hysbysebion yn debyg i’r un ym Mhen-y-bont ar Ogwr y cyfeiriais ato’n gynharach, ac yn gofyn i ddarpar denant gyfarfod â’r landlord ymlaen llaw i gael eu holi. Mae hyn ynddo’i hun yn gwneud y person bregus dan sylw yn agored i risg bellach.

Felly, fy mhryder mwyaf yw y bydd yr arfer hwn yn dod yn fwy cyffredin oni roddir camau ar waith i’w atal. Ac er bod y sylw i’r mater hwn gan y cyfryngau cenedlaethol i’w groesawu wrth gwrs, mae’n creu risg o wneud landlordiaid mwy diegwyddor yn ymwybodol o’r arfer, a’u hannog efallai i ymddwyn yn yr un modd ffiaidd. Ond ni allwn anwybyddu’r ffaith chwaith fod hyn yn digwydd yng nghyd-destun effaith rhaglen y Llywodraeth o doriadau i fudd-daliadau. Bydd cap y Torïaid ar lwfans tai lleol i rai dan 35 oed, a chapiau eraill ar fudd-daliadau i rai dan 22 oed, yn rhoi llawer mwy o bobl mewn sefyllfa fregus, gan eu gwneud yn dargedau ac yn ddioddefwyr mwyaf tebygol i’r ysglyfaethwyr rhywiol hyn. Llywydd, y peth rhyfeddol am yr holl fater aflan yw ei fod yn gyfreithiol mewn gwirionedd. Pam? Wel, oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes arian yn cael ei gyfnewid yn rhan o unrhyw drefniant, ac o’r herwydd nid yw’n cael ei gynnwys mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud â phuteinio.

Felly, rwy’n croesawu’r cyfle i gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw oherwydd na all y sefyllfa hon fod yn iawn, a chredaf y dylem wneud popeth a allwn i gynnal ein hanes balch yma yng Nghymru o fod ar flaen y gad yn cyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod o’r Cynulliad hwn yn rhannu fy ffieidd-dod tuag at arfer o’r math a ddisgrifiais yma y prynhawn yma, ac y byddwch yn ymuno â mi i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru i ystyried unrhyw ddiwygiadau i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a fyddai’n gwneud Cymru’n genedl gyntaf yn y DU i wneud yr arfer o hysbysebu rhent am ddim neu renti gostyngol yn gyfnewid am ffafrau rhywiol yn anghyfreithlon. Yn sicr, ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn a’r Llywodraeth hon yng Nghymru yn sefyll yn ôl a chaniatáu i ymelwa ofnadwy o’r fath barhau oherwydd bylchau yn y gyfraith. Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o roi diwedd ar hyn yng Nghymru.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:41, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddweud fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig yr Aelod, a hyd nes y gwelais hyn ar y papur trefn nid oeddwn yn gwybod ei fod yn arfer mor gyffredin ag y deallwn yn awr. Ac rwy’n ei llongyfarch am gyflwyno syniad sy’n amlwg yn cyfeirio at angen mawr ar hyn o bryd, a ffordd o newid y gyfraith i’w gwneud yn llawer mwy addas i’r diben a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:41, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Os yw’r arfer hwn yn amlwg—ac rwy’n credu ein bod wedi clywed tystiolaeth o hynny hyd yn oed yng Nghymru, ac mae’n sicr yn amlwg mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig—ac yn un sy’n tyfu, mae’n ddrwg gennyf ddweud, mae’n amlwg yn arfer sy’n foesol wrthun. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un edrych ar ffeithiau’r mater hwn a theimlo fel arall. Fel y dywedodd Dawn, gall y gyfraith fod yn amwys yn y maes ac felly dylid ei gwneud yn fwy eglur, ond nid oes amheuaeth fod arferion o’r fath yn ecsbloetiol tu hwnt. Mae’n rhaid ei fod yn rhoi rhai pobl mewn sefyllfa ofnadwy, lle maent yn agored i niwed o’r cychwyn yn sgil mympwy neu newid yn y sefyllfa honno, lle mae posibilrwydd o gam-drin a thrais, ac nid yw’n unrhyw fath o sefyllfa i neb fynd iddi mewn gwirionedd, ac wrth gwrs, ni fyddent yn mynd iddi o wirfodd; credaf fod hynny’n amlwg iawn. 

Rwy’n credu bod Dawn yn iawn i siarad am y materion ehangach, yn enwedig problem yr argyfwng tai. Mae gennym brinder enfawr o dai fforddiadwy, ac roedd yn ddiddorol clywed am y dull a ddefnyddiwyd ym Mharis—eu bod yn ei weld fel gwreiddyn y broblem, a dyna’r hyn y maent wedi ceisio mynd i’r afael ag ef. Rwyf wedi galw yn y Siambr hon ers amser hir am fwy o uchelgais o ran adeiladu tai, ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig tu hwnt. Rwy’n credu bod ein cenhedlaeth wedi colli golwg ar hyn—nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol yma; rwy’n credu ei fod yn wir am bob plaid—ynglŷn ag angen mor hanfodol yw tai. Ar ôl yr ail ryfel byd, sylweddolodd pobl hyn, yn amlwg, yn yr amgylchiadau dychrynllyd hynny. Rwy’n credu y gallaf ddechrau deall sut y gallai rhai pobl fod mewn sefyllfaoedd mor enbyd fel y byddent yn meddwl am rywbeth mor ofnadwy â hyn fel dewis arall. Efallai y gallwn ddeall eu sefyllfa, ond nid wyf yn credu ein bod yn gwneud llawer i’r bobl hynny os nad ydym yn mynd i’r afael â gwreiddyn y broblem.

Roeddwn yn meddwl bod Dawn wedi edrych yn briodol iawn hefyd ar y ffordd y mae’r cyfryngau modern a llwyfannau hysbysebu wedi gwneud y math hwn o weithgaredd yn fwy dichonadwy, mae’n debyg. Ac unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni fod yn ymwybodol iawn o’r ffaith fod yna gyfran fechan, o blith yr holl bobl ar lawr gwlad sy’n landlordiaid da, a allai gael eu temtio i arfer y math hwn o ymddygiad ffiaidd. Nawr, yn anffodus, mae’r modd i gyflawni’r dibenion ysgeler hyn ar gael yn rhwyddach. Pe bai’n llawer anos gwneud hyn, efallai na fyddent yn cael eu temtio yn y lle cyntaf, ond ar hyn o bryd rwy’n meddwl bod rhaid i ni wynebu’r ffaith fod cyfryngau a hysbysebu modern yn agor y drws i gamfanteisio o’r fath.

A gaf fi orffen drwy ganmol Swyddfa’r Llywydd ar y fenter hon? Oherwydd mae’n beth newydd ein bod yn caniatáu i Aelodau nad ydynt yn anffodus wedi ennill y bleidlais—rwyf bob amser wedi meddwl ei bod yn rhyfedd eich bod yn ennill pleidlais, ond dyna ni, dyna, mae’n debyg, yw’r hyn y mae’n rhaid i ni ei alw. Wrth gwrs, mae’n serendipaidd os ydych yn ennill ac yn gallu datblygu eich syniad. Rwy’n credu bod dadleuon fel hyn yn caniatáu i Aelodau sydd wedi cael syniadau pwysig i sôn amdanynt. Wyddoch chi, mae’r Llywodraeth yn gwrando ac mae pleidiau eraill yn gwrando o ran ffurfio eu maniffesto nesaf. Rwy’n gobeithio y byddwn ar ryw adeg yn gweld newid yn y gyfraith yn dechrau o ddadl fel hon. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:45, 17 Mai 2017

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma. Yn amlwg, mae’n hollol annerbyniol fod landlordiaid yn gosod eiddo yn ddi-rent gan ddisgwyl cael eu ‘talu’, mewn dyfynodau, efo ffafrau rhywiol. Rydw i wir yn gobeithio fod yna ffordd i atal hyn rhag digwydd. Yn anffodus, fel rydym ni wedi’i glywed, mae yna dystiolaeth fod hyn ar waith yn Llundain, Bryste, Birmingham, yr Alban, ac, yn anffodus, erbyn hyn yma yng Nghymru hefyd. Mae yna dystiolaeth i ddangos ei fod o’n digwydd ar draws y byd, ac fe gafwyd adroddiadau o bobl mewn sawl gwlad yn hysbysebu eiddo yn ddi-rent er mwyn cael manteision rhywiol, boed yn rhannu tŷ, fflat neu ystafell sbâr. Mae pobl yn cael eu gorfodi i’r sefyllfaoedd annerbyniol yma yn sgil cyfuniad o resymau mae’n debyg, gan gynnwys rhent drud a phrisiau tai drud mewn dinasoedd a’r ffaith fod angen i’r mwyafrif o bobl ifanc fyw yn y dinasoedd hyn er mwyn cychwyn eu gyrfaoedd.

Gobeithio y gall y gwelliant yma i’r Ddeddf tai atal hyn rhag digwydd yng Nghymru, os ydy’r gwelliant yn cael ei dderbyn. Ond, wrth gwrs, hyd yn oed os ydy’r ymarfer yn cael ei wahardd, mi fydd hi’n anodd gweithredu yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith oherwydd natur ddirgel y drosedd. Yn gyntaf, nid ydy pobl sy’n rhentu ystafell yn eu tŷ eu hunain ddim yn dod o dan y system trwyddedu landlordiaid, ac, yn ail, fe all dioddefwyr benderfynu peidio ag adrodd am y drosedd i’r heddlu gan eu bod nhw’n ofn wedyn y byddan nhw’n cael eu hel allan gan y landlord ac yn cael eu gwneud yn ddigartref. Mae adroddiad y Metropolitan Support Trust yn dweud y bydd adrodd am y drosedd yn creu gofid ychwanegol i rai dioddefwyr. Felly, nid oes yna ddim sicrwydd y byddai cynnwys y gwelliant yma a newid y ddeddfwriaeth yn arwain at y newid yr ydym ni am ei weld.

Felly, beth a fyddai’n gwneud gwir wahaniaeth yn y pen draw? Fel y mae David Melding yn sôn, rhan o’r ateb yn sicr ydy darparu mwy o dai fforddiadwy. Os oes yna fwy o dai addas ar gael ar rent fforddiadwy, yna bydd llai o bobl yn cael eu gorfodi i sefyllfaoedd annerbyniol. Mae hefyd angen sicrhau bod yna wasanaethau atal digartrefedd a llochesau o safon dderbyniol, fel bod pobl yn teimlo’n hyderus i adael sefyllfaoedd lle y maen nhw’n dioddef o gamdriniaeth. Ond efallai fod yna gwestiwn cymdeithasol, moesol efallai, ehangach, yn fan hyn hefyd ynglŷn â chyfartaledd rhwng y rhywiau a’r defnydd o ryw fel arf gan un person dros berson arall, ac, yn amlach na pheidio, gan ddyn dros ddynes. Ond efallai fod hynny’n bwnc trafod eang at ddiwrnod arall.

I gloi, felly, mi fyddai gwella’r ddeddfwriaeth yn gallu helpu. Mae trafod y pwnc yma heddiw yma a chodi proffil y mater hefyd yn helpu. Ond rwy’n credu hefyd fod angen rhoi sylw i’r materion hirdymor os ydym ni am weld gwir newid a dileu yr arfer yn llwyr. Diolch yn fawr.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:49, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy’n credu ei fod yn gadarnhaol iawn fod hwn wedi cael ei gyflwyno ar lawr y Senedd a bod pawb ohonom yn cael cyfle i’w drafod. Mae’n fater difrifol iawn ac rwy’n ofni y daw’n berygl llawer mwy yma yng Nghymru wrth i rai o’r newidiadau a welwn ddechrau gadael eu hôl. Gwyddom fod rhagor o ddiwygiadau lles yn ein taro a’n bod yn debygol o weld grwpiau mawr o bobl yn enwedig rhai rhwng 18 a 21 oed yn cael eu heithrio rhag hawlio budd-dal tai a chyfyngiadau ar rai o dan 35 oed, na fyddant ond yn gallu hawlio budd-dal tai ar ystafell mewn tŷ a rennir. Credaf y gallai hyn yn hawdd arwain at gynnydd yn nifer y landlordiaid heb eu cofrestru sy’n caniatáu i fenywod a dynion agored i niwed aros gyda hwy mewn llety sy’n eiddo iddynt, yn ddi-rent yn gyfnewid am ryw. Oherwydd bod rhai o’r bobl hyn wedi’u hymyleiddio i’r fath raddau ac mor agored i niwed, ac oherwydd na fydd y grŵp hwn o landlordiaid yn cael eu cofrestru o dan Rhentu Doeth Cymru, maent yn mynd i fod yn anodd iawn eu canfod a’u hamddiffyn rhag yr arfer hwn o bosibl.

Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cadw mewn cof ar adeg pan fo cyllidebau’n crebachu mewn awdurdodau lleol ei bod yn debygol fod yna lai o gamau gorfodi yn y maes hwn, gan ei gwneud yn anos chwilio am landlordiaid o’r fath a dod o hyd iddynt. Felly, mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn ynglŷn â hynny hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ddwys iawn, ac rwyf innau hefyd yn croesawu’r ffaith fod Swyddfa’r Llywydd yn rhoi’r cyfle hwn inni gael dadl gynnar ar y mater. Siaradais â Llamau—sydd â hanes cadarn iawn, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, o weithio gyda phobl ifanc a menywod agored i niwed—cyn y ddadl hon. Gwn eu bod wedi mynegi cefnogaeth i’r math hwn o fesur, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn awr â sefydliadau sy’n gweithio yn y maes i gael eu barn ar sut y gallai menter o’r fath weithio’n ymarferol. Ac rwy’n gobeithio hefyd y bydd gweithred werthfawr iawn Dawn yn cyflwyno hyn ar lawr y Senedd yn codi proffil y mater ac yn rhybuddio pobl am y peryglon sydd allan yno. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:51, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Fel David Melding, nid oeddwn yn ymwybodol iawn o’r mater hwn nes i mi weld yr hyn a ymddangosodd ar yr agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Felly, rwyf wedi edrych ar yr hysbysebion ar Craigslist ac roeddent yn dipyn o agoriad llygad. Roeddwn yn synnu braidd i weld rhent gostyngol yn cael ei gynnig yn eithaf agored am ffafrau rhywiol, ac yn amlwg, mae hwn yn ddatblygiad anffodus sy’n ein hwynebu, wedi’i achosi gan faterion y mae Aelodau eraill wedi sôn amdanynt, megis diffyg tai, prinder tai. Felly, yn amlwg, mae wedi digwydd yn Llundain yn gyntaf, lle mae ganddynt y galw mwyaf am dai, ond mae Dawn wedi nodi’r ffaith ei fod mewn perygl o ddod yn arfer cyffredin yng Nghymru. Felly, os gallwn roi camau ar waith i atal y datblygiad hwn, yna rwy’n meddwl y byddai hwnnw’n gam da i’w gymryd.

Wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae yna nifer penodol o landlordiaid—cyfran fach o landlordiaid—bob amser wedi bod â diddordeb brwd mewn cyfarfod â darpar denantiaid, neu eu sgrinio’n bersonol, a gwnaed cynigion o’r math hwn, efallai mewn ffordd ychydig yn llai amlwg, ond wrth gwrs, yn aml, gwrthodir y cynigion hyn. Tystiolaeth anecdotaidd yw hon—wyddoch chi, mae hwn wedi bod yn arfer, ond un sy’n effeithio ar nifer fach o denantiaid a landlordiaid yn unig. Felly, yn amlwg, nid ydym am weld hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yn datblygu mewn gwirionedd, fel y dywedodd David Melding, i wneud hwn yn arfer mwy cyffredin. Felly, yn UKIP, rydym yn credu bod annog pobl ifanc yn bennaf yn agored—menywod ifanc yn bennaf, er bod rhai dynion, yn ogystal—i ddod yn rhan o ffurf ar buteindra, a hynny’n unig oherwydd eu hanghenion tai—. Mae’n amlwg yn fater i resynu’n fawr ato ac rydym yn cefnogi’r cynnig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:53, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Dawn am roi’r cyfle inni fynegi ein pryder ynglŷn â’r arfer hwn fod landlordiaid, neu’n fwy cyffredin, y rhai sy’n derbyn lletywyr, yn hysbysebu llety am ddim yn gyfnewid am ffafrau rhywiol. Mae hynny’n ffiaidd i ni i gyd. Rwy’n condemnio’r arfer cyfrwys hwn, sy’n manteisio ar dlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol y bobl y mae’n camfanteisio arnynt, ac rwy’n cytuno’n llwyr y dylem wneud popeth yn ein gallu i ddatgelu ac atal y camfanteiswyr.

I baratoi ar gyfer y ddadl hon, Llywydd, gofynnais i fy swyddogion archwilio’r holl lwybrau posibl ar gyfer gweithredu ar hyn, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy synnu braidd gan rai o’u canfyddiadau. Er enghraifft, fel y cyfeiriodd Dawn Bowden, cyngor swyddogion y Swyddfa Gartref yw nad yw hysbysebu ar gyfer prynu a gwerthu rhyw ynddo’i yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr, ac er y gallai llawer o’r gweithgareddau cysylltiedig, megis camfanteisio, yn hawdd fod yn drosedd, maent yn honni mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd ganddynt fod camfanteisio gwirioneddol yn digwydd yn yr achosion penodol hyn. Wrth gwrs, gall hyn yn hawdd fod yn ganlyniad i lefel o dangofnodi yn hytrach nag absenoldeb camfanteisio. Rwy’n ategu pwynt Sian Gwenllian ar y mater hwnnw na ddylai’r unigolion sy’n cael eu hudo i mewn i’r sefyllfa hon fod ag ofn rhoi gwybod, ac er efallai nad yw’r mater yn anghyfreithlon, mae camfanteisio’n anghyfreithlon, a byddwn yn annog pawb sy’n wynebu sefyllfa o’r fath i ddefnyddio’r llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn sydd gennym ar waith. Gadewch i mi fod yn glir, Llywydd: mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, trais rhywiol a chamfanteisio o bob math yng Nghymru, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref ac asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru i sicrhau cydweithrediad effeithiol.

Mae hwn yn fater cymhleth, ac mae’n yn mynd ymhell y tu hwnt i sut yr awn ati i reoleiddio tai ac yn datgelu rhai tueddiadau cymdeithasol sy’n peri pryder. Yr hyn sy’n fy nharo yma yw bod rhyw am rent yn symptom o broblem fwy sylfaenol: yr anawsterau cynyddol y mae pobl ifanc yn gyffredinol yn eu hwynebu i gael llety fforddiadwy, diogel. Ac er efallai nad oes gennym bwerau i fynd i’r afael â symptomau annymunol penodol, rydym eisoes yn gweithio i ymdrin â’r anawsterau gwaelodol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio cael llety diogel o ansawdd da. Mae’r ateb yn ein hymagwedd at fesurau ataliol ar gyfer lleihau digartrefedd, darparu tai fforddiadwy, lliniaru pwysau economaidd contractau dim oriau a newidiadau i fudd-daliadau, ein polisïau gwrth-gaethwasiaeth, a mentrau’n ymwneud â’n gwasanaethau cymorth i bobl sy’n agored i niwed sydd ag anghenion lluosog.

Gwrandewais ar gyfraniad David Melding, ac rwy’n gobeithio bellach y gallai fod wedi newid ei farn o ran ein safbwynt ar roi diwedd ar yr hawl i brynu. Mae’r Aelod wedi bod yn frwd ac yn glir iawn yn ei gyfraniadau yn y Siambr yma ac yn y pwyllgor am ei bryderon ynglŷn â chael gwared ar yr hawl a rhoi diwedd ar yr hawl i brynu, ond yr hyn y gwyddom am yr hawl i brynu yw bod llawer o’r eiddo sydd wedi cael eu gwerthu o dan yr hawl i brynu’n mynd i’r sector landlordiaid preifat yn y pen draw, a dyma ble mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch hwn yn digwydd. Felly, rwy’n bryderus iawn fod yr Aelod yn dweud y dylem gael mwy o dai, a hefyd y dylem ddiogelu’r cyfleoedd i bobl i fyw’n ddiogel—gobeithio bod yr Aelod wedi newid ei farn; efallai ei fod yn gallu datgan hynny heddiw.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:57, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi newid fy marn, ac rwy’n synnu braidd eich bod wedi gwneud y cysylltiad hwn. Yr hyn sydd angen i ni gytuno yn ei gylch yw bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae angen i lawer o’r cartrefi hynny fod yn y sector cymdeithasol. Mae’n ymddangos i mi nad oes unrhyw anghytundeb am hynny yn y Siambr hon, ac ar hynny y dylem ganolbwyntio.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n siŵr y bydd gan yr Aelod lawer o amser i ystyried ei gyfraniad eto, ac efallai y daw i gytuno â ni, ond rwy’n ddiolchgar iddo am ei sylwadau. Nid yw’r rhain yn faterion y gellir eu hateb yn gyflym ac yn hawdd, ac mae fy nghyd-Aelod yn iawn o ran yr angen inni edrych ar fater penodol rhent am ryw. Fodd bynnag, mae ein safbwyntiau’n gyfyngedig. Ni fydd diwygiad i’r system gofrestru a thrwyddedu o dan Ran 1 y Ddeddf Tai y cyfeiriai Dawn ati yn mynd i’r afael â’r mater hwn ar ei ben ei hun, ond yr hyn y mae’n ei olygu yw na ddylem beidio â gwneud unrhyw beth i geisio atal yr arfer ofnadwy hwn.

Rwy’n deall yn iawn pam y mae hyn yn cael ei weld fel mater sy’n ymwneud â chyfraith tai. Yn gyfreithiol, fodd bynnag, nid yw rolau landlordiaid a thenantiaid yn gymwys lle mae rhyw yn hytrach nag arian yn cael ei gyfnewid am lety, ac nid yw hwn yn syml iawn yn gontract cyfreithiol y gellir ei lywodraethu gan gyfraith tai. Mae hynny hyd yn oed yn gliriach pan fyddwn yn sôn am berchennog yn caniatáu i rywun rannu eu cartref. Mae’r cynllun cofrestru a system drwyddedu landlord ac asiant, Rhentu Doeth Cymru, yn golygu bod angen i landlordiaid ac asiantau sy’n cyflawni gweithgareddau gosod a rheoli tai fod yn unigolion addas a phriodol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac yn cydymffurfio â’r cod. Rwy’n hapus i archwilio ffyrdd y gallem ddefnyddio’r prawf unigolyn addas a phriodol yn yr achos hwn i bennu bod camfanteiswyr sy’n landlordiaid yn anaddas i ddal trwydded fel landlordiaid. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y mater hwn.

Gallwn hefyd geisio atal hysbysebu hyn, ond mae cyfreithlondeb yr hysbysebion hyn yn amwys a cheir prinder manylion penodol yn eu cylch. Rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban wedi ysgrifennu at Craigslist, a byddwn yn edrych ar fanylion yr ymateb hwnnw’n ofalus. Rwy’n bwriadu ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i dynnu sylw at ein pryderon yn y ddadl hon heddiw a’r hyn y dylid ei wneud i asesu, yr hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r materion mewn modd mwy rhagweithiol. Nid wyf yn credu nad yw’r achosion a gafodd sylw yn y wasg, ac eraill tebyg iddynt, yn gyfystyr â chamfanteisio neu unrhyw weithgarwch troseddol arall. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny hefyd.

Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda’r heddlu i weld lle bydd hynny’n ein harwain, ac rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn, wrth gwrs, ar gyfraniadau’r Aelodau heddiw. Rwy’n dal yn agored i awgrymiadau ynglŷn ag unrhyw gamau pellach y dylem eu cymryd. Rydym yn unedig yn ein ffieidd-dod tuag at y rhai sy’n camfanteisio ar bobl eraill ac anghenion pobl agored i niwed yn ein cymunedau. Mae’r cwestiwn yn ymwneud â dod o hyd i ffordd effeithiol o fynd i’r afael â hyn, ac rwy’n siwr y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatrys y mater hwn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:00, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Dawn Bowden i ymateb i’r ddadl.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl? Rwy’n credu bod yr ymatebion yn weddol gyson yn y ddadl o ran edrych ar rai o’r materion sy’n gyfrifol am ledaeniad y math hwn o gamfanteisio. Cydnabu David Melding, yn gwbl briodol, pa mor agored i niwed yw’r bobl sy’n caniatáu i’r math hwn o gamfanteisio ddigwydd, ac mewn gwirionedd, aeth Ysgrifennydd y Cabinet â’r geiriau o fy ngheg am yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu yn awr, ac rwy’n croesawu’r mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi ar waith i geisio mynd i’r afael â hynny—y cartrefi newydd fforddiadwy ac yn y blaen. Rwy’n credu y byddai’n rhy syml inni siarad yn unig am yr argyfwng tai yn yr ystyr ehangach heb edrych ar y rhesymau hanesyddol dros hynny. Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir, Ysgrifennydd y Cabinet, yn nodi’r hanes sy’n sail i’r hawl i brynu, a’r hyn a etifeddwyd yn sgil hynny, sy’n golygu mai’r hyn a adawyd ar ôl yw’r nifer gyfyngedig o dai cymdeithasol sydd gennym, a’r anallu i ddarparu tai fforddiadwy.

Rwy’n credu bod rhaid i ni hefyd gydnabod, fel y cydnabu David Melding a Sian Gwenllian, a Lynne Neagle yn wir, ein bod hefyd yn gweld effeithiau newidiadau i’r system fudd-daliadau, ac nid yw hynny’n mynd i newid yn y dyfodol agos, cyn belled ag y bo gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwy’n ofni bod honno’n digwydd bod yn ffaith. A gaf fi hefyd ddiolch i Gareth Bennett am gefnogaeth UKIP i’r cynnig hefyd? Mewn perthynas â safbwynt y Llywodraeth ar hyn, a gaf fi ddiolch, unwaith eto, i Ysgrifennydd y Cabinet, am ei gynnig i weithio gydag unrhyw sefydliadau a all ddod o hyd i ffordd i geisio ymdrin â’r mater hwn? Nid wyf yn gyfreithiwr; nid wyf yn deall y cyfyngiadau deddfwriaethol, ond rwy’n gwybod eich bod yn cael cyngor gan arbenigwyr cyfreithiol. Ond rwy’n credu y byddwn yn ddiogel i ddweud ei bod yn ymddangos bod cryn dipyn o gefnogaeth drawsbleidiol i’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni yma, sef mynd ati rywsut i gau’r bwlch deddfwriaethol sy’n caniatáu i bobl roi hysbysebion fel hyn ar safleoedd rhyngrwyd, neu mewn mannau eraill sy’n hollol gyfreithiol. Ac a allwn gael mynediad at, neu newid y ffordd o fynd i’r afael â hyn drwy ddefnyddio deddfau’n ymwneud â chamfanteisio—credaf y byddwn yn falch o weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny, naill ai drwy ysgrifennu at y Swyddfa Gartref, cael trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, sy’n amlwg i’w gweld yn ceisio ymdrin â hyn, neu edrych ar unrhyw ffordd arall y gall Llywodraeth Cymru ddeddfu i geisio rhoi terfyn ar y camfanteisio hwn. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:03, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi’r cynnig hwn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.