Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 17 Mai 2017.
Nid wyf wedi newid fy marn, ac rwy’n synnu braidd eich bod wedi gwneud y cysylltiad hwn. Yr hyn sydd angen i ni gytuno yn ei gylch yw bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae angen i lawer o’r cartrefi hynny fod yn y sector cymdeithasol. Mae’n ymddangos i mi nad oes unrhyw anghytundeb am hynny yn y Siambr hon, ac ar hynny y dylem ganolbwyntio.