Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 17 Mai 2017.
Iawn; fe gaiff Lee fynd yn ail. Mewn perthynas â buddsoddi yn y seilwaith, a fyddech yn cytuno y bydd mentrau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â buddsoddi yn y seilwaith o gwmpas y metro yn cael effaith sylweddol? A hefyd o ran y rhaglen galedi, o ran yr effaith enfawr y mae hynny wedi’i chael ar gymunedau’r Cymoedd, fod hwn yn ysgogiad y mae gwir angen inni fod yn gweithio’n galed i gyflwyno deiseb i Lywodraeth y DU yn ei gylch?