Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 17 Mai 2017.
Rwy’n credu, yr Aelod dros Islwyn, y byddwn yn cytuno bod agenda caledi wedi bod yn hunandrechol, ei bod yn anghywir a bod cymunedau tlotaf y DU, gan gynnwys cymunedau’r Cymoedd, wedi dioddef mwy nag eraill o ganlyniad iddi. Wrth gwrs, mae’r prosiect seilwaith o gwmpas y metro yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi’n llawn. Yr hyn y mae gennyf broblem gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yn ei gylch, o ran y seilwaith trafnidiaeth, yw ei bod yn gwneud synnwyr perffaith i ni gynllunio hwnnw ar sail prifddinas-ranbarth y de-ddwyrain—yn wir, roeddwn yn cefnogi SEWTA a ddiddymwyd o dan y Llywodraeth flaenorol, oherwydd roedd hwnnw’n gorff cydgysylltu trafnidiaeth ranbarthol y credaf ei fod wedi gweithio’n effeithiol—ond o ran cynllunio economaidd, rwyf eto i gael sicrwydd gan Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros yr economi ein bod yn mynd i gael ymagwedd briodol sy’n seiliedig ar le tuag at ddatblygu economaidd er mwyn gwneud y gorau o botensial y system metro. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld cynllun datblygu economaidd arloesol a strategaeth ddiwydiannol wedi’u cyhoeddi cyn yr haf gan Lywodraeth Cymru sy’n mynd i ddynodi cyfran economaidd benodol i bob rhan o’r wlad hon yn llwyddiant y wlad hon yn y dyfodol, gan mai dyna’r unig ffordd y cawn ffyniant teg i bawb.
Wrth gwrs, mae heriau’r Cymoedd, yn economaidd, wedi gwreiddio’n ddwfn, yn hirsefydlog ac angen mwy nag un ymyrraeth i wrthdroi’r duedd honno. Dyna pam ein bod yn galw am sefydlu asiantaeth ddatblygu’r Cymoedd, gydag adnoddau addas ac yn briodol atebol. Rydym wedi bod yn cymryd tystiolaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—mae rhai o’r aelodau yma y prynhawn yma—ar bolisi rhanbarthol yn y dyfodol yng Nghymru yn dilyn ein hymadawiad â’r UE. Byddwn yn cynghori’r holl Aelodau i edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd gennym. Cawsom lawer iawn o dreiddgarwch a thystiolaeth ddefnyddiol, nid yn unig ar yr hyn sydd wedi gweithio o ran polisi rhanbarthol yng Nghymru yn y gorffennol a’r hyn nad yw wedi gweithio mor dda efallai, ond rydym hefyd wedi amlygu rhai posibiliadau diddorol a chyffrous ar gyfer y dyfodol. Ymhlith y darnau o dystiolaeth a gawsom roedd adroddiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Roeddent yn disgrifio’r newid y mae angen iddo ddigwydd ac sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd o safbwynt polisi rhanbarthol, ac mae un darn yr hoffwn ei ddyfynnu. Maent yn dweud bod polisïau rhanbarthol yn y gorffennol yn tueddu i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â gwahaniaethau rhwng rhanbarthau drwy ddarparu cymorthdaliadau i’w digolledu am incwm is. Lluniwyd polisïau gan lywodraethau canolog drwy adrannau’r wladwriaeth a gyflwynai raglenni datblygu economaidd wedi’u diffinio’n gul. Câi’r dull hwn ei ystyried yn fwyfwy aneffeithiol ac anghynaliadwy o safbwynt ariannol. Mae’r ymagwedd newydd tuag at bolisïau rhanbarthol yn pwysleisio ffocws ar gystadleurwydd a gweithio gyda rhanbarthau i ddatgloi potensial twf. Mae goblygiadau pwysig i’r ymagwedd hon o ran sut y mae llywodraeth yn gweithio. Mae angen i lywodraethau weithio mewn ffordd fwy integredig ar lefel ranbarthol a lleol.
Hynny yw, nid gwneud pethau i bobl ac nid edrych ar ranbarthau’n benodol o ran eu hanfantais gystadleuol, ond datgloi’r potensial sydd eisoes yn bodoli yn y rhanbarthau a grymuso’r rhanbarthau hynny i fynd ymlaen i gyflawni eu potensial. Felly, mae hyn yn cyfateb i’r ymagwedd sy’n seiliedig ar le y soniais amdani yn fy ymateb i’r Aelod dros Islwyn yn gynharach, gan ddweud i bob pwrpas fod dyddiau llywodraethau’n gwneud pethau i ardaloedd ar ben a bod yn rhaid defnyddio polisi cyhoeddus i rymuso rhanbarthau i wneud pethau drostynt eu hunain.
Mewn astudiaethau a gynhaliwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ymhlith eraill, dangosir bod ymagwedd seiliedig ar le tuag at bolisïau rhanbarthol yn effeithiol am wella perfformiad rhanbarthol yn y rhanbarthau hynny lle ceir hunaniaeth ranbarthol ddiriaethol. Mae’r Cymoedd yn rhanbarth diriaethol. Rydym yn gydgysylltiedig yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn hanesyddol. Mae endid y Cymoedd ymhlith y cryfaf yn y wlad hon, felly ceir cyfle rhagorol i dynnu ar y sail ddiwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol honno a rennir i ddatgloi’r potensial. Felly, mae yna sail ar gyfer ffyniant, boed i’r Llywodraeth roi modd i’r rhanbarth wireddu’r ffyniant hwnnw yn awr. Diolch yn fawr.