Part of the debate – Senedd Cymru am 1:03 pm ar 23 Mai 2017.
Arbennig, ysbrydoledig, didwyll, gwych, gwreiddiol, unigryw: pob un yn ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio Rhodri yn y cannoedd o deyrngedau i mi eu darllen yn ystod y dyddiau diwethaf, a phob un yn ddisgrifiad cywir ohono. Fe wnes i gwrdd â Julie a Rhodri 20 mlynedd yn ôl yn yr ymgyrch 'Ie dros Gymru'. Yna gweithiais ar ddwy ymgyrch arweinyddiaeth Rhodri yn ôl ym 1998 a 1999, ac mae hanes hynny yn adnabyddus iawn. Fodd bynnag, roedd Rhodri yn credu yn bendant y byddai ei amser yn dod, gan ddyfynnu un o'r cyffelybiaethau o fyd chwaraeon yr oedd mor hoff ohono, 'Tri chais i Gymro', ac yn wir, felly y bu hi. Pan ddaeth yn Brif Weinidog Cymru ym mis Chwefror 2000, fe sicrhaodd fod datganoli—a oedd yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar—yn gweithio dros bawb yng Nghymru, drwy lywio’r llong a rhoi arweinyddiaeth eithriadol. Datganoli fydd ei etifeddiaeth wleidyddol. Hebddo fe, byddai wedi bod yn daith llawer mwy anodd.
Cefais y fraint o gael fy ethol gan bobl Wrecsam i wasanaethu o dan Rhodri yn 2007. Fe wnaeth Rhodri a Julie wir fy annog i gynnig fy hun i fod yn gynrychiolydd etholedig. Felly, mae gennyf ddyled fawr iddo, ac ni fyddaf fyth yn anghofio ei gefnogaeth a’i anogaeth bersonol dros y ddau ddegawd diwethaf. Gofynnais yn aml ofyn am ei gyngor a’i ddoethineb, ac rwyf yn cofio, ar un diwrnod arbennig o annymunol yn ystod ymgyrch etholiadol, pan oedd gwrthwynebwyr yn taflu sarhad personol, iddo glywed am hyn a fy ffonio i ddweud wrthyf am godi uwchlaw hynny, a chofio bod gwleidyddiaeth yn ymwneud â chwarae'r bêl ac nid y dyn—cyfatebiaeth arall eto o fyd chwaraeon.
Er fy mod yn dal i fod wedi fy syfrdanu ac yn drist oherwydd ei farwolaeth sydyn, nid oes modd meddwl yn hir am Rhodri heb gofio stori i wneud i chi wenu. Ac mae cymaint o’r straeon hynny i roi cysur ar yr adeg yma. Yn ystod ei ymweliadau lu â Wrecsam, galwai yn aml yn fy nhŷ i'n gweld ni. Un dydd Sul, roedd wedi bod yn cyfarfod ag unigolion a oedd wedi dioddef llifogydd difrifol. Fe gyrhaeddodd yn gobeithio cael cinio dydd Sul cyn mynd adref i’r de. Fodd bynnag, roedd hi’n ben-blwydd fy merch yn chwech oed, felly doedd dim cinio dydd Sul ar gael, dim ond tŷ anhrefnus, ac, fel arfer, fe dorchodd ei lewys, helpu i baratoi ar gyfer y parti pen-blwydd a glanhau’r gegin wedyn.
Bydd cydweithwyr a oedd yma cyn 2011 yn cofio, fel y dywedodd Carwyn, fod Rhodri wedi dewis peidio byth â thanio’i gyfrifiadur pan oedd yn Brif Weinidog. Byddai rhywun yn gwneud hynny drosto, a byddai yntau’n syml yn pwyso’r botymau i bleidleisio. Fodd bynnag, ar ôl iddo ymddeol o fod y Prif Weinidog, penderfynodd ei fod yn hen bryd iddo ddechrau anfon negeseuon e-bost. Ar y dydd Gwener ar ôl iddo ildio’r awenau, anfonodd e-bost ataf yn fy llongyfarch ar gael fy mhenodi'n Ddirprwy Weinidog, gan ddweud wrthyf mai hwn oedd yr e-bost cyntaf iddo ei anfon erioed, ac y dylwn ei drysori.
Wedi i ni ddychwelyd ar ôl egwyl y Nadolig, eisteddai Rhodri yn union y tu ôl i mi yn y Siambr, ac fe arferai ofyn i mi, gan sibrwd yn uchel iawn, a oedd awydd paned arna i, er mawr syndod i’r Llywydd ar y pryd. Felly, penderfynais ddangos iddo sut i ddefnyddio'r system negeseuon sydd gennym ni yn y Siambr, ac yna fe benderfynodd y dylwn fod yn gynorthwy-ydd Technoleg Gwybodaeth iddo, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Roedd hon yn swydd yr oeddwn yn fodlon iawn ei gwneud, gan mai dyma'r peth cyntaf erioed i mi allu ei wneud yn well nag ef.
Roedd Rhodri yn berson di-lol efo’i draed ar y ddaear, ac roedd yn angerddol dros Gymru a'i phobl. Nid oedd ots pa bentref, tref neu ddinas yng Nghymru yr oeddech chi’n ymweld â hi gydag ef, roedd ganddo wybodaeth fel gwyddoniadur am y lle hwnnw, ac roedd yn siarad yn ddieithriad gyda phobl, gan ddod o hyd i gefnder neu hen gyfaill teuluol. Gwnâi i bawb deimlo'n gyfforddus ac yn gartrefol a dyna pam yr oedd yn wleidydd mor boblogaidd, a gai ei adnabod ym mhob man wrth ei enw cyntaf yn unig. Mae cymaint o bobl yn teimlo’r golled ar ei ôl. Amlygwyd hyn i mi ar ymweliad ag Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Iau diwethaf, pan wnaeth chwech o bobl, pob un ohonynt yn ddieithr i mi, ddod ata i ar y coridor i ddweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod wedi colli cyfaill, er nad oedden nhw erioed wedi cwrdd ag ef.
Roedd yn bleser bod yn ei gwmni a gwrando ar ei straeon. Roedd bob amser yn hapus i rannu ei ddoethineb a’i wybodaeth helaeth gyda chi. Roeddwn i’n gwerthfawrogi ei gyfeillgarwch a byddaf yn gweld hiraeth mawr ar ei ôl. Ond wrth gwrs, ei brif flaenoriaeth mewn bywyd oedd ei deulu, ac roedd mor driw iddyn nhw. Mae fy meddyliau i a fy merch gyda Julie a'i holl deulu ar yr adeg anodd iawn yma. Diolch i ti am bopeth, Rhodri. Cysga’n dda, frawd.