Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 23 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am gyflwyno’r pwnc hynod ddiddorol hwn, a chynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddadl hon, ac rydym wedi cyflwyno ein gwelliant oherwydd ein bod o’r farn nad oes diffiniad pendant i ragnodi cymdeithasol, pwynt a gyflwynwyd gan Gydffederasiwn y GIG, yn un, sydd, wrth gwrs, yn cynrychioli’r byrddau iechyd, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn teimlo’n gyfforddus iawn â hyn wrth symud ymlaen. Ac rydym o’r farn bod Cronfa’r Brenin wedi canfod ffordd glir o nodi yn syml iawn yr hyn y mae'n ei olygu, gan gyfeirio ato fel:
modd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol.
Ac, wrth gwrs, mae diffiniad Cronfa'r Brenin yn dilyn, i raddau helaeth iawn, y cyfeiriad yr ydym ni yng Nghymru yn ei ddilyn o ofyn i bobl ddechrau rheoli eu hiechyd eu hunain, cymryd rhan, bod yn rhan o’u hagenda iechyd, a chymryd rhan yn eu bywydau yn y dyfodol. Mae Cronfa'r Brenin yn nodi’n bendant y ceir amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol ac economaidd a fydd yn caniatáu i gleifion, ac angen i gleifion, gael eu trin mewn modd cyfannol. Yn sicr, nid ydym yn dweud mai diffiniad Cronfa'r Brenin ddylai fod 'y' diffiniad. Ond rydym ni eisiau edrych arno fel meincnod—dyna y mae'r GIG yn Lloegr wedi edrych arno; dyma mae'r GIG yn yr Alban wedi edrych arno—oherwydd bod arnom angen man cychwyn i ddatblygu ein fersiwn ein hunain o ragnodi cymdeithasol, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn mynd i ariannu cynllun treialu wrth symud ymlaen ar sut y mae rhagnodi cymdeithasol yn gweithio.
Rydych eisoes wedi sôn am yr effeithiau cadarnhaol. Nid wyf am ailadrodd yr holl ddadleuon hynny, ond gwn, fel pwyllgor, bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar unigrwydd ac ynysu ymhlith pobl hŷn, ac mae hyn yn rhywbeth y gall rhagnodi cymdeithasol wir helpu gydag ef. Gwn y bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad yn nes ymlaen am gydgynhyrchu ac am yr angen i gynnwys trydydd partïon er mwyn cyflwyno rhagnodi cymdeithasol. Ond rwyf i eisiau mynd ar drywydd un o'r pwyntiau yn eich cynnig gwreiddiol yn arbennig lle’r ydych yn dweud 'ystyried'; hoffech i ni ystyried blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol ymhellach, a hoffwn i gynnig dau awgrym i chi. Sut y gall Llywodraeth Cymru annog cyflwyno rhagnodi cymdeithasol yn ehangach i bobl ifanc? Ledled Cymru, mae gennym nifer sylweddol o bobl ifanc sydd mewn lle tywyll iawn: mae ganddyn nhw anhwylderau bwyta, maen nhw’n hunan-niweidio. Mae rhai yn y pen draw yn cyrraedd lle mor dywyll fel mai eu hunig ddewis arall yw lladd eu hunain. Rwyf i’n cynrychioli etholaeth lle bu nifer o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwyddom o dystiolaeth, os gallwch chi ymgysylltu pobl â meysydd fel drama, ymarfer corff, therapi celf, therapi cerddoriaeth—ffyrdd pwysig iawn, iawn o allu tynnu rhywun yn ôl sy’n dechrau mynd tuag at y dibyn—os gallwn ni nodi’r bobl hynny a'u dal cyn iddynt fynd yn rhy bell ar y llwybr hwnnw, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld a allwn ni ddechrau dod â’r agenda rhagnodi cymdeithasol hon yn llawer nes at bobl iau hefyd, ac nid ei gweld fel rhywbeth sydd ond ar gyfer yr henoed neu rai mewn ardaloedd difreintiedig iawn.
Roeddwn hefyd yn meddwl tybed, a dyma fy ail bwynt, wrth gyflwyno hyn: a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithwyr proffesiynol eraill i fod yn rhan o'r tîm rhagnodi cymdeithasol—nid dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol, ond pobl fel cwnselwyr ysgol, neu gydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol? Oherwydd, fel y gwyddom, mae pwysau enfawr ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn llawn dop, nid oes lle i droi, ac, os oes gennych gwnsler ysgol mewn ysgol uwchradd sy’n siarad â pherson ifanc sydd efallai’n cael trafferth gydag, er enghraifft, galar, oherwydd bod rhywun annwyl iawn iddynt wedi marw, dylai'r person hwnnw allu rhagnodi’n gymdeithasol llwybr ar gyfer y person ifanc hwnnw i gyrraedd, o bosibl, rywle fel Cruse neu sefydliad profedigaeth arall. Os ydyn nhw’n canfod plentyn sy’n dechrau hunan-niweidio pan ei fod tua 12 oed, 13 oed, a'r marciau dangosol cyntaf hynny i’w gweld ar ran uchaf y breichiau, a allan nhw wedyn siarad â’r plentyn hwnnw a'i atgyfeirio ar unwaith i ryw fath o grŵp therapi, sesiwn gwnsela, un o ddarparwyr y trydydd sector y mae angen i ni ymgysylltu â nhw er mwyn i ragnodi cymdeithasol lwyddo? Rwy’n credu os gallwn ni ei ehangu, efallai, i gynnwys gweithwyr proffesiynol hyfforddedig eraill, ond mewn meysydd eraill, y gallem efallai leddfu rhywfaint ar yr ôl-gronni neu’r aros sy'n digwydd pan eich bod yn mynd i feddygfeydd meddygon teulu, oherwydd eu bod eisoes o dan bwysau aruthrol, a gallwn gynnwys rhagor o bobl mewn modd gwirioneddol gynhyrchiol i ddechrau cyflawni ateb i bobl sydd mewn angen dybryd. Byddwn i’n ddiolchgar iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe byddech yn meddwl am y ddau syniad yna ac efallai eu hystyried yn rhan o'ch cynnig yma heddiw. Ond rydym yn cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr.