Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 23 Mai 2017.
Rydw i’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar ragnodi cymdeithasol.
Nawr, fel meddygon ifanc dros y degawdau, rydym ni i gyd yn cael ein haddysgu bod yna bedwar agwedd i iechyd ein cleifion: ie, y corfforol, y seicolegol, ond hefyd heb anghofio agweddau cymdeithasol ac ysbrydol. Mae cofio am yr holl ystod yma o ddylanwadau ar iechyd pobl yn ein cyfeirio at feddwl yn ehangach am beth sydd yn gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf a hefyd yn gwneud i ni feddwl am y rhwystrau sy’n gweithredu yn erbyn eu llwyr adferiad.
Rwy’n cofio cwyno i’r awdurdod lleol, flynyddoedd maith yn ôl nawr, fel meddyg teulu cydwybodol, am gyflwr truenus tai fy nghleifion, a oedd yn amharu ar eu hiechyd nhw, a’r cwynion hynny yn cael eu hanwybyddu yn llwyr. Dyma un o’r rhesymau pam gwnes i sefyll ar gyfer y cyngor yn y lle cyntaf. Fel cynghorydd sir wedyn, ond, yn amlwg, nid fel meddyg, roeddwn yn derbyn atebion i’m cwynion am gyflwr gwael tai’r ddinas a hefyd cynllun i wella’r sefyllfa. Dyna beth, yn y bôn, ydy fy nealltwriaeth i o ragnodi cymdeithasol—bod meddygon teulu a nyrsys yn y gymuned yn gallu arallgyfeirio pobl tuag at brosiectau sydd yn taclo eu salwch gan edrych ar y darlun mawr o’u hiechyd yn ei gyfanrwydd, a chyfeirio pobl felly at sefydliadau yn y sector gwirfoddol gan amlaf, fel gweithgareddau celf, gwirfoddoli yn gyffredinol, garddio, coginio, cyngor bwyta’n iach, ac ystod eang o gampau a chwaraeon, megis cerdded. Un o’r pethau hawsaf ydy jest cerdded mwy. Rwyf wastad yn pregethu yn y lle yma am y 10,000 o gamau sydd angen i ni eu cymryd bob dydd—cerdded. Mae cadw’n heini lawn cystal â chyffuriau gwrth-iselder pan nad yw’r iselder ysbryd yn ddifrifol.
Ymgais i lenwi sawl gagendor yn ein rhwydweithiau cymdeithasol ydy rhagnodi cymdeithasol, gydag unigrwydd ac unigedd ar gynnydd—dyna pam rydym yn cynnal ymchwiliad fel pwyllgor iechyd—er ein holl gysylltiadau cyfrifiadurol y dyddiau yma ac er y rhyngrwyd, achos rydym yn cydnabod bod yna fwy i adferiad ein cleifion na dim ond materion y corff yn unig.
’Slawer dydd, roedd ein capeli a’n heglwysi ni yn hynod weithredol yma yng Nghymru, gyda channoedd o bobl yn y gynulleidfa bob dydd Sul a rhyw gyfarfod neu’i gilydd bob nos o’r wythnos yn ogystal, yn llawn ystod eang o weithgareddau. Roedd y fath gymuned glos yn naturiol yn gymorth yn aml i nifer o bobl yn eu hiselder ysbryd a’u hunigrwydd. Ond, bu tro ar fyd, ac mae angen atebion i’r un un gofynion ysbrydol oesol heddiw.
Yn aml, fel meddyg, rwy’n teimlo ychydig fel gweinidog neu ficer wrth gynghori fy nghleifion, ond mae esgeuluso'r agweddau cymdeithasol ac ysbrydol a dim ond canolbwyntio ar y corff, y tabledi a’r llawdriniaeth hefyd yn esgeulustod go iawn sy’n gallu tanseilio gwellhad ein pobl.
Edrychwn ymlaen at ehangu rhagnodi cymdeithasol—rydym yn cefnogi bwriad y Llywodraeth yn y fan hyn—a mynd i’r afael â’r dystiolaeth o’i effeithlonrwydd, er mor anodd yw hi i gael gafael ar y dystiolaeth honno. Diolch yn fawr.