Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 24 Mai 2017.
Ie, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ac wrth inni ystyried Brexit, nid yw’n ddu i gyd—mae cyfleoedd i’w cael. Credaf mai un o’r cyfleoedd yw y gallem, o bosibl, edrych ar wahanol ddefnyddiau posibl ar gyfer tir, os mynnwch, ac rydym wedi dechrau cwmpasu’r gwaith hwnnw. Yn amlwg, penderfyniad y tirfeddiannwyr yw’r hyn y dymunant ei wneud gyda’u tir, ond credaf fod cyfle i wneud hynny. Fel y dywedaf, rydym yn ei gwmpasu ar hyn o bryd gan y bydd angen y wybodaeth honno arnom er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud.
Yn amlwg, mae’r hinsawdd yn cael effaith, yn ogystal â dewis defnyddwyr, ac mae defnyddwyr yn galw am lysiau y tu allan i’r tymor tyfu, os hoffwch. Felly, credaf y dylid ystyried yr holl benderfyniadau a’r wybodaeth, ond credaf yn sicr, ar ôl Brexit, y bydd cyfle i wneud hynny.