2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 24 Mai 2017.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ(5)0150(ERA)
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant amaethyddol a’r diwydiant bwyd mewn partneriaeth ag Amaeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Mae yna botensial i ddatblygu garddwriaeth a chyfle wrth i Gymru addasu i Brexit. Rydym yn cydnabod y manteision i iechyd o fwyta ffrwythau a llysiau ac wedi cymryd camau i’w hyrwyddo.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a chroeso’n ôl, gyda llaw. Dyma fy nghyfle cyntaf i ddweud hynny wrthych.
Nid ydym ond yn cynhyrchu oddeutu 10 y cant o’r hyn a ddefnyddiwn, felly mae’r diffyg gymaint â 90 y cant, yn sicr o ran ffrwythau a llysiau y gellir eu tyfu yn ein hinsawdd. Gyda 2 y cant o dir amaethyddol Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythau a llysiau, er bod y ffigur hwnnw’n 10.5 y cant o dir gradd 1 i radd 3, byddem mewn gwirionedd yn cynhyrchu popeth sydd ei angen arnom. Felly, gobeithiaf, wrth lunio unrhyw bolisi yn y dyfodol ar ôl Brexit, y byddwn yn gweld pwysigrwydd y maes hwn. Roeddem yn arfer cynhyrchu mwy; dylem gynhyrchu mwy eto.
Ie, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ac wrth inni ystyried Brexit, nid yw’n ddu i gyd—mae cyfleoedd i’w cael. Credaf mai un o’r cyfleoedd yw y gallem, o bosibl, edrych ar wahanol ddefnyddiau posibl ar gyfer tir, os mynnwch, ac rydym wedi dechrau cwmpasu’r gwaith hwnnw. Yn amlwg, penderfyniad y tirfeddiannwyr yw’r hyn y dymunant ei wneud gyda’u tir, ond credaf fod cyfle i wneud hynny. Fel y dywedaf, rydym yn ei gwmpasu ar hyn o bryd gan y bydd angen y wybodaeth honno arnom er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud.
Yn amlwg, mae’r hinsawdd yn cael effaith, yn ogystal â dewis defnyddwyr, ac mae defnyddwyr yn galw am lysiau y tu allan i’r tymor tyfu, os hoffwch. Felly, credaf y dylid ystyried yr holl benderfyniadau a’r wybodaeth, ond credaf yn sicr, ar ôl Brexit, y bydd cyfle i wneud hynny.
Gobeithiaf na fyddwn yn aros tan Brexit cyn gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn gan fod sawl peth y gallai’r Llywodraeth ei wneud yn awr. Un yw y gallem blannu mwy o goed ffrwythau, gan fod angen i ni blannu mwy o goed yn gyffredinol, a phe bai gennym goed ffrwythau, byddai eu cynnyrch ar gael. Ond yn fwy strategol, tybed a allem gael mwy o frys yn ein hymagwedd tuag at ein polisi caffael cyhoeddus mewn perthynas â bwyd, yn enwedig er mwyn ein galluogi i ddilyn arweiniad Sir y Fflint, sy’n mabwysiadu’r ardystiad ‘Bwyd am Oes’, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod 75 y cant o’u seigiau wedi’u cynhyrchu’n ffres. Byddai hynny’n amlwg yn annog y diwydiant garddwriaethol i ddarparu’r llysiau a’r ffrwythau y byddai eu hangen ar ysgolion. Byddai’r un peth yn wir am ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill. Rydym wedi mabwysiadu’r ymagwedd hon yma yn ein ffreutur yn y Senedd. ‘Does bosib na allwn ymestyn hyn i bob un o’n plant.
Yn sicr nid oes rhaid inni aros tan ar ôl Brexit—dyna lle roeddwn yn siarad yn benodol am y gwaith a wnawn wrth edrych ar ddefnyddio tir mewn ffordd wahanol. Yn sicr, rydym wedi bod yn edrych ar y drefn gaffael bresennol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny.
Mae gennyf Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ac yn amlwg, cynllun gweithredu’r diwydiant bwyd a diod, a chredaf fod hynny’n sicr yn cydnabod pwysigrwydd bwyta’n iach, yn enwedig yn ein hysgolion ac mewn rhannau eraill o’n sector cyhoeddus. Mae gennym hefyd y fenter Peas Please, a ddechreuwyd gan y Food Foundation, ac mae honno’n dod â ffermwyr a manwerthwyr a siopau bwyd cyflym ac arlwywyr a phroseswyr a Llywodraethau ynghyd, ac mae’n edrych o ddifrif ar y gadwyn gyflenwi a sut y gallwn gynhyrchu rhagor o fwyd a llysiau.