<p>Diffyg Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:37, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Gobeithiaf na fyddwn yn aros tan Brexit cyn gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn gan fod sawl peth y gallai’r Llywodraeth ei wneud yn awr. Un yw y gallem blannu mwy o goed ffrwythau, gan fod angen i ni blannu mwy o goed yn gyffredinol, a phe bai gennym goed ffrwythau, byddai eu cynnyrch ar gael. Ond yn fwy strategol, tybed a allem gael mwy o frys yn ein hymagwedd tuag at ein polisi caffael cyhoeddus mewn perthynas â bwyd, yn enwedig er mwyn ein galluogi i ddilyn arweiniad Sir y Fflint, sy’n mabwysiadu’r ardystiad ‘Bwyd am Oes’, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod 75 y cant o’u seigiau wedi’u cynhyrchu’n ffres. Byddai hynny’n amlwg yn annog y diwydiant garddwriaethol i ddarparu’r llysiau a’r ffrwythau y byddai eu hangen ar ysgolion. Byddai’r un peth yn wir am ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill. Rydym wedi mabwysiadu’r ymagwedd hon yma yn ein ffreutur yn y Senedd. ‘Does bosib na allwn ymestyn hyn i bob un o’n plant.