<p>Diffyg Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:38, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr nid oes rhaid inni aros tan ar ôl Brexit—dyna lle roeddwn yn siarad yn benodol am y gwaith a wnawn wrth edrych ar ddefnyddio tir mewn ffordd wahanol. Yn sicr, rydym wedi bod yn edrych ar y drefn gaffael bresennol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny.

Mae gennyf Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ac yn amlwg, cynllun gweithredu’r diwydiant bwyd a diod, a chredaf fod hynny’n sicr yn cydnabod pwysigrwydd bwyta’n iach, yn enwedig yn ein hysgolion ac mewn rhannau eraill o’n sector cyhoeddus. Mae gennym hefyd y fenter Peas Please, a ddechreuwyd gan y Food Foundation, ac mae honno’n dod â ffermwyr a manwerthwyr a siopau bwyd cyflym ac arlwywyr a phroseswyr a Llywodraethau ynghyd, ac mae’n edrych o ddifrif ar y gadwyn gyflenwi a sut y gallwn gynhyrchu rhagor o fwyd a llysiau.