Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 24 Mai 2017.
A finnau hefyd, ond roeddwn o dan yr argraff eich bod yn awyddus i ddod yn Llywodraeth y DU ac felly’n ceisio gwneud ymrwymiadau ariannol ar gyfer Llywodraeth nesaf San Steffan, gan mai am y fan honno yr ymleddir ar 8 Mehefin. Yr un peth a ddywedwch yn eich maniffesto, fodd bynnag, yw hyn:
Llusgwyd y Ceidwadwyr i’r llys a’u gorfodi i gyhoeddi eu cynllun nitrogen deuocsid drafft. Ond mae eu hymrwymiadau yn destun siom ac maent yn brin o wybodaeth am y camau angenrheidiol i fynd i’r afael ag allyriadau yn y DU, ac nid ydynt yn rhoi unrhyw fanylion am gynllun sgrapio diesel.
Credaf fod hynny’n ffeithiol gywir, ond a yw hyn yn golygu bod Llafur Cymru yn mynd i gyflwyno cynllun sgrapio diesel yng Nghymru?