Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Mai 2017.
Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid edrych arno. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â Llywodraeth y DU, ac rwyf wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag ansawdd aer. Gwyddoch fod hynny’n flaenoriaeth bersonol i mi. Credaf ei fod yn bwysig iawn, ac rwyf wedi ysgrifennu at DEFRA yn ddiweddar yn ei gylch. Byddwch yn gwybod bod DEFRA wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cyd yn ddiweddar. Un o’r pethau rydym wedi ymrwymo i’w wneud yw ymgynghori, o fewn y 12 mis nesaf, ar fframwaith parth aer glân i Gymru.