Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 24 Mai 2017.
Nid wyf yn siŵr am bolisïau penodol, ond rwy’n sicr wedi eu cefnogi’n ariannol. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r buddsoddiad sylweddol rydym wedi’i roi i ffermwyr ifanc. Er enghraifft, mae gennym yr Academi Amaeth, sy’n llawn o ffermwyr ifanc, dynamig sy’n barod iawn i roi cymorth i mi wrth lunio polisïau ar gyfer y dyfodol, ac rwyf wedi eu cyfarfod yn rheolaidd. Rwyf hefyd wedi gwneud dewis personol i ymweld â chymaint o ffermwyr ifanc ar eu ffermydd ag y gallaf. Yn sicr, gallaf feddwl am un neu ddau yr ymwelais â hwy yng ngogledd Cymru—roedd un ohonynt yn lesio’r fferm ac yn awyddus i siarad â mi yn benodol am yr hyn y gallem ei wneud yn ein polisïau i annog pobl ifanc i allu lesio eu ffermydd. Yna, ysgrifennais at bob awdurdod lleol i geisio eu hannog i beidio â gwerthu eu ffermydd, gan ei bod yn ymddangos, yn anffodus, fod rhai awdurdodau lleol yn gwneud hynny ar gyflymdra sy’n peri pryder.