Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 24 Mai 2017.
Daeth adroddiad diweddar gan NatWest i’r casgliad fod, ffermwyr ifanc angen mwy o gefnogaeth i arallgyfeirio ac er bod y syniadau entrepreneuraidd yno, mae lle i wella’r rhwydweithiau cymorth.
Felly, mae’n hanfodol fod mwy o gefnogaeth yn cael ei chynnig i ffermwyr ifanc, ar ffurf cyngor a chymorth, ac ar ffurf cyllid hefyd. Felly, yng ngoleuni’r adroddiad hwn, a wnewch chi gadarnhau pa gyllid y byddwch yn ei roi yn awr i wella cymorth i ffermwyr ifanc sydd am arallgyfeirio?