<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:46, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, daeth yr un adroddiad i’r casgliad fod argyfwng cenedliadol ym maes ffermio, sydd wedi peri pryder i sawl un yn y byd amaeth ers peth amser. Yn wir, yn ôl Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, roedd canran y ffermwyr o dan 45 oed wedi gostwng i 13 y cant yn unig yn 2015, i lawr o 18 y cant yn 2003. Felly, yn sgil yr angen dybryd i ddenu pobl ifanc i mewn i’r proffesiwn ffermio, a’r angen i gadw pobl ifanc yn y proffesiwn ffermio, pa gamau uniongyrchol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i sicrhau nad yw canran y ffermwyr o dan 45 oed yn parhau i ostwng yn y dyfodol?